Pedro Antonio de Alarcón

Oddi ar Wicipedia
Pedro Antonio de Alarcón
FfugenwPedro Antonio de Alarcón, Pedro A. de Alarcón Edit this on Wikidata
GanwydPedro Antonio Joaquín Melitón de Alarcón y Ariza Edit this on Wikidata
10 Mawrth 1833 Edit this on Wikidata
Guadix Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 1891 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Man preswylcalle de Atocha Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Granada Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, gwleidydd, dramodydd, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Aelod o Senedd Sbaen, llysgennad Edit this on Wikidata
Arddullnofel, theatr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Union Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
PartnerEnriqueta Lozano Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, bardd, dramodydd, a newyddiadurwr Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Pedro Antonio de Alarcón y Ariza (10 Mawrth 183310 Gorffennaf 1891) sy'n nodedig am ei nofel El sombrero de tres picos (1874).

Ganed yn Guadix, Granada, a chychwynnodd ei yrfa lenyddol yn newyddiadurwr ac yn fardd. Cafodd fethiant gyda'i ddrama El hijo pródigo (1857), ac aeth yn filwr yn ymgyrch Moroco yn 1859–60. Ysgrifennodd Diario de un testigo de la guerra de Africa (1859) am ei brofiadau.[1]

Dychwelodd i Sbaen a daeth yn olygydd y cyfnodolyn gwrthglerigol El Látigo. Ystyrir ei waith amlycaf, y nofel fer El sombrero de tres picos, yn glasur o ffuglen costumbrismo. Ymhlith ei nofelau eraill mae El final de Norma (1855), El escándalo (1875), ac El niño de la bola (1880). Bu farw yn Valdemoro, ger Madrid, yn 58 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Pedro Antonio de Alarcón y Ariza. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Rhagfyr 2019.