Esteban Echeverría
Esteban Echeverría | |
---|---|
Ganwyd | 2 Medi 1805 Buenos Aires |
Bu farw | 19 Ionawr 1851 o diciâu Montevideo |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Bardd a llenor straeon byrion yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin ac ymgyrchydd gwleidyddol a diwylliannol oedd Esteban Echeverría (2 Medi 1805 – 19 Ionawr 1851). Roedd ganddo ran hynod o bwysig yn natblygiad llên yr Ariannin yn y 19g, ac mae'n nodedig fel un o'r llenorion Rhamantaidd gwychaf yn llên America Ladin.
Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Treuliodd y cyfnod 1825–30 ym Mharis, Ffrainc, ac yno cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan ysbryd a meddylfryd y Rhamantwyr. Yn 1838, Echeverría oedd un o'r deallusion Archentaidd ifainc a sefydlodd yr Asociación de Mayo.[1]
Campwaith Echeverría ydy'r stori fer El matadero, gwaith sy'n nodweddiadol o'r gwrthdaro rhwng y gwareiddiad Ewropeaidd a chyntefigiaeth y Byd Newydd sy'n diffinio llên America Ladin yn y 19g. Cafodd ei hysgrifennu ganddo tua 1838, ond ni chyhoeddwyd nes wedi ei farwolaeth, rhyw 30 mlynedd yn ddiweddarach. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r gerdd draethiadol hir La cautiva, sy'n adrodd hanes merch groenwen a gâi ei chipio gan y Mapuche.
Yn 1840, bu'n rhaid iddo ffoi i Wrwgwái oherwydd ei wrthwynebiad i unbennaeth Juan Manuel de Rosas. Bu farw ym Montevideo yn 45 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Esteban Echeverría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2019.