Serafín Estébanez Calderón
Gwedd
| Serafín Estébanez Calderón | |
|---|---|
| Ffugenw | El Solitario |
| Ganwyd | 27 Rhagfyr 1799 Málaga |
| Bu farw | 15 Chwefror 1867, 5 Chwefror 1867 Madrid |
| Dinasyddiaeth | Sbaen |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd, cyfreithiwr, hanesydd, bardd, hanesydd llenyddiaeth |
| Swydd | Senator for Life of Spain, member of the Cortes during the reign of Isabel II, member of the Cortes during the reign of Isabel II, member of the Real Academia de la Historia |
| Mudiad | Rhamantiaeth |
| llofnod | |
Llenor Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Serafín Estébanez Calderón (27 Rhagfyr 1799 – 5 Chwefror 1867), a adwaenir gan y llysenw El Solitario, sydd yn nodedig fel un o arloeswyr mudiad costumbrismo.
Ganed ym Málaga, Andalucía. Symudodd i Fadrid yn 1830 a chyhoeddodd newyddiaduraeth dan y llysenw El Solitario. Ysgrifennodd Escenas andaluzas (1847), cyfrol o ddarluniadau o fywyd gwledig Andalucía, Bu hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth, astudio'r iaith Arabeg a'i llenyddiaeth, ac yn casglu llawysgrifau. Bu farw ym Madrid yn 67 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Serafín Estébanez Calderón. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2019.