Ramón de Mesonero Romanos
Gwedd
| Ramón de Mesonero Romanos | |
|---|---|
| Ffugenw | El Curioso Parlante |
| Ganwyd | 19 Gorffennaf 1803 Madrid |
| Bu farw | 30 Ebrill 1882 Madrid |
| Dinasyddiaeth | Sbaen |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr |
| Swydd | Cynghorydd ar Gyngor Madrid, Member of the Royal Spanish Academy |
| Adnabyddus am | Manual de Madrid: descripción de la corte y de la villa |
| Mudiad | Costumbrismo |
| Plant | Q140615618 |
| llofnod | |
Llenor o Sbaen oedd Ramón de Mesonero Romanos (19 Gorffennaf 1803 – 30 Ebrill 1882) sy'n nodedig am ei frasluniau o fywyd trigolion Madrid sydd yn nodweddiadol o genre costumbrismo.
Ganed ym Madrid, a fe fu'n ymddiddori mewn hanes a daearyddiaeth leol ei fro ers ei fachgendod. Cyhoeddodd Manuel de Madrid yn 1931, ac yn 1932 dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar fywyd cymdeithasol y ddinas dan y ffugenw "El Curioso parlante" ar gyfer y cylchgrawn Cartas españolas. Cesglid y brasluniau hynny yn y cyfrolau Panorama matritense (1835–36). Fe'i etholwyd i'r Academi Sbaenaidd yn 1838. Cyhoeddodd ei hunangofiant Memorias de un setentón, natural y vecino de Madrid yn 1880. Bu farw ym Madrid yn 78 oed.