José María de Pereda

Oddi ar Wicipedia
José María de Pereda
Ganwyd6 Chwefror 1833 Edit this on Wikidata
Santander Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 1906 Edit this on Wikidata
Santander Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEl sabor de la tierruca, Tipos y paisajes, Al primer vuelo Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII Edit this on Wikidata

Llenor Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd José María de Pereda (6 Chwefror 18331 Mawrth 1906)[1] sydd yn nodedig am ei straeon byrion a nofelau realaidd a leolir ym mynyddoedd Cantabria sydd yn nodweddiadol o fudiad costumbrismo.

Ganed yn Nyffryn Besaya, Talaith Santander, yn rhanbarth hanesyddol Cantabria, i deulu o Gatholigion selog. Darparwyd incwm iddo gan ei frawd hŷn, a throdd José ei holl sylw at lenydda felly. Ei ymdrech gyntaf oedd Escenas montañesas (1864), casgliad o frasluniau realaidd o bysgotwyr Santander a gwerinwyr mynyddoedd Cantabria.

Ymhlith ei nofelau dychanol a gwleidyddol mae El buey suelto (1878), Don Gonzalo González de la Gonzalera (1879), a De tal palo tal astilla (1880). Campwaith Pereda ydy Sotileza (1884), un o nofelau Sbaeneg gwychaf y 19g. Dyma stori epig am fywydau pysgotwyr Santander, esiampl ddiffuant o nofel foes ac arfer sydd hefyd yn cynnwys portreadau enigmataidd o'i chymeriadau. Bu farw yn Santander yn 73 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) José María de Pereda. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2019.