Clogyn Aur yr Wyddgrug
Enghraifft o'r canlynol | darganfyddiad archaeolegol |
---|---|
Deunydd | aur |
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 11 Hydref 1833 |
Lleoliad | yr Amgueddfa Brydeinig |
Perchennog | yr Amgueddfa Brydeinig |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Clogyn 23-carat aur mewn un-darn yw Clogyn aur Yr Wyddgrug neu Fantell aur Yr Wyddgrug sy'n dyddio o'r cyfnod 1900-1500 CC yn Oes yr Efydd. Fe'i darganfuwyd mewn cae o'r enw 'Bryn yr Ellyllon', Pentre, ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint yn 1833. Mae'n bosibl y bu'n rhan o wisg seremonïol, mewn cyd-destun crefyddol efallai. Fe'i cedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, ac mae nifer o archaeolegwyr blaenllaw Cymru wedi galw ar yr amgueddfa i ddychwelyd y clogyn i Gymru.
Darganfuwyd y "clogyn" gan ddynion codi cerrig ym Mryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug, ar 11 Hydref 1833. Tenant y cae oedd Langford, ac fe'i gwerthwyd i'r Amgueddfa Brydeinig yn 1836. Mwynfeydd Copr y Gogarth oedd y mwyaf drwy ogledd-orllewin Ewrop yr adeg honno, ac mae'n bosib fod gan berchennog y fantell gysylltiad gyda mwynfeydd y Gogarth.[1] Dywedodd Dr Paul Belford (CPAT ei bod yn fwy na thebyg i'r fantell gael ei lunio yng Nghymru ond i'r aur ddod o'r Iwerddon; nododd hefyd fod y fantell hon yn "anrhaethol bwysig". Roedd gweitiau trin copr y Gogarth yn ardal y Fflint, lle roedden nhw hefyd yn trin efydd o Llanymynech, hyd at Oes yr Haearn.
Cloddiodd archaeolegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Cymru y cae lle darganfuwyd y fantell eto yn 2013.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Roedd y fantell yn gorwedd ar weddilion dynol wedi'u corfflosgi, mewn cistfaen glai, oddi mewn i garnedd gladdu o Oes yr Efydd. Dim ond darnau o'r sgerbwd oedd yn gyfan ac roedd y "clogyn" wedi cael ei niweidio'n sylweddol trwy ei wasgu. Cofnodwyd y canfyddiad gan ficar yr Wyddgrug. Roedd tua 200-300 gleiniau ambr arno'n wreiddiol, mewn rhesi, ond dim ond un sy'n weddill erbyn heddiw. Gerllaw cafwyd darn o liain garw a 16 dryll o efydd panel a fu ar gefn y gwrthrych aur efallai: mewn mannau roedd yr aur wedi ei bwytho i'r aur gyda rivets efydd. Roedd yno ddau 'strap' hefyd. Yn ymyl y gistfaen roedd llestr (urn) yn cynnwys esgyrn llosgedig a lludw, tua 0.6–0.9 m o'r bedd.
Lled y gwrthrych yw 458 mm (18 modfedd). Mae hynny'n awgrymu iddo gael ei fwriadu ar gyfer rhywun o gorffolaeth ysgafn ac mae archaeolegwyr yn meddwl ei fod ar gyfer merch.
Galw am ei ddychwelyd i Gymru
[golygu | golygu cod]Mae'r clogyn enwog yn un o'r trysorau o Gymru yn yr Amgueddfa Brydeinig y mae nifer o bobl wedi bod yn galw am eu dychweliad i gartref yng Nghymru. Cafwyd arddangosfa ar fenthyg yn Yr Wyddgrug yn 2002 ac eilwaith yn 2013, ond mae'r Amgueddfa Brydeinig yn gyndyn iawn i adael i'r clogyn a gwrthrychau eraill – fel eu casgliad o feini ogam Cymreig sydd ar gadw mewn storfa – ddod yn ôl i Gymru. Yn ôl Dr Paul Belford (CPAT), "The British Museum acted as an agent of the imperialist mission, carefully curating treasures stolen from around the world as part of the wider colonial exploitation."
Stamp
[golygu | golygu cod]Ar 17 Ionawr 2017 ryddhaodd y Swyddfa Bost stamp yn dylunio'r fantell aur.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Erthygl yn The National Wales; 16 Hydref 2021.
- Powell, T. G. E., "The gold ornament from Mold, Flintshire, North Wales", Proceedings of the Prehistoric Society 19 (1953), 161-79
- Taylor, J. J., Bronze Age goldwork of the British Isles (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1980)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Yr Amgueddfa Brydeinig: Clogyn aur Yr Wyddgrug Archifwyd 2008-10-10 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwybodaeth gan Amgueddfa Cymru
- BBC Cymru: Arddangosfa 2002
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Erthygl yn The National Wales; 16 Hydref 2021. Tud14-5.