Cerddoriaeth o fewn Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Y pibgod Cymreig yn cael ei chwythu gan Ceri Rhys Matthews yn Eglwys Sant Baglan

Mae llawer o arteffactau a llawysgrifau sy'n ymwneud â cherddoriaeth yn cael eu cadw o fewn amgueddfeydd, prifysgolion a llyfrgelloedd Cymru.

Er bod casgliadau preifat o gerddoriaeth, ac ambell gasgliad eglwysig, yn bod cyn yr 20g, nid tan ddyfodiad y sefydliadau cenedlaethol a’r llyfrgelloedd cyhoeddus mawr y gwelwyd casgliadau sylweddol a oedd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru. Cyn hynny casglwyd rhai eitemau o bwys i sefydliadau yn Lloegr, er enghraifft y llawysgrif o gerddoriaeth i’r delyn, Llawysgrif Robert ap Huw (c.1580-1665), a ddiogelwyd yn y Llyfrgell Brydeinig (MS Additional 14905). Agorwyd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1872, daeth Prifysgol Cymru i fod yn 1893 a dechreuwyd datblygu casgliadau ymchwil. Sylfaenwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ill dwy ar 19 Mawrth 1907, ac ar ddiwedd y 19g a dechrau’r 20g y gwelwyd llyfrgelloedd cyhoeddus mawr megis Caerdydd yn adeiladu casgliadau ymchwil o bwys.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru[golygu | golygu cod]

Breintiwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru â’r hawl trwy Ddeddf Hawlfraint 1911 (a diwygiadau diweddarach arni) i ofyn am gopi rhad ac am ddim o bopeth printiedig a gyhoeddir yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, gan gynnwys cerddoriaeth. Golyga hyn fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o gerddoriaeth brintiedig a gyhoeddwyd gan weisg o wledydd Prydain o 1912 ymlaen, pan ddaeth deddf 1911 i rym. Mae hyn yn cynnwys cyfran uchel (er nad pob dim) o gynnyrch tai cyhoeddi megis Novello, Boosey a Gwasg Prifysgol Rhydychen yn ogystal â chyhoeddwyr llai o faint. Ychwanegwyd at hynny gasgliadau o gerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys argraffiadau beirniadol cyflawn o waith cyfansoddwyr blaenllaw – yn eu plith Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Mozart, Palestrina, Rossini, Shostakovich a Verdi. Ceir hefyd eitemau o ddiddordeb hanesyddol cyffredinol, gan gynnwys er enghraifft gopi cynnar (tua 1773) o sgôr brintiedig Messiah Handel. Yn ogystal, mae’r Llyfrgell wedi casglu’n ddiwyd amrywiaeth o gerddoriaeth brintiedig Gymreig o bob cyfnod, sy’n cynnwys nid yn unig amryfal weithiau cyfansoddwyr Cymreig, ond hefyd wahanol argraffiadau o’r rheini, yn ogystal â deunydd 'dros dro' megis rhaglenni cyngherddau a gwyliau cerddorol a rhaglenni cymanfaoedd canu lleol a chenedlaethol. Adeiladwyd hefyd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o recordiau o ddiddordeb Cymreig o gyfnod y recordiau masnachol cynharaf (tua 1899) ymlaen, a sicrhawyd yr hawl i recordio deunydd o ddiddordeb Cymreig a ddarlledir ar radio a theledu at bwrpas archifo. Archifir yn ogystal ffilmiau, gwefannau a chyhoeddiadau electronig o ddiddordeb cerddorol Cymreig.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gartref i gasgliad eang o lawysgrifau ac archifau cerddorol o bwys. Yno y cedwir er enghraifft ‘Antiffonal Penpont’ (llawysgrif NLW 20541E), llyfr gwasanaeth canoloesol sy’n cynnwys gwasanaeth penodol ar gyfer Gŵyl Ddewi; llawysgrifau Iolo Morganwg (1747-1826), Ifor Ceri (John Jenkins; 1770-1829) a J. Lloyd Williams (1854-1945) o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig; a chasgliadau o donau a llyfrau pricio o’r 18g a’r 19g. Ceir yno hefyd gasgliadau o lawysgrifau nifer o gyfansoddwyr blaenllaw y 19g a’r 20g, gan gynnwys Joseph Parry (1841-1903), Grace Williams (1906-77), Mansel Thomas (1909-86), Daniel Jones (1912-93), Dilys Elwyn-Edwards (1918-2012), Alun Hoddinott (1929-2008) a William Mathias (1934-92), yn ogystal â deunydd archifol megis llythyrau a phapurau amryw o gerddorion Cymreig. Ymhlith y realia a gedwir yn y Llyfrgell mae crwth y dywedir ei fod yn eiddo i Edward Jones (Bardd y Brenin) 1752-1824).

Amgueddfa Genedlaethol Cymru[golygu | golygu cod]

Y crwth Cymreig yn cael ei chwarae; o lawysgrif Abbaye Saint-Martial, Limoges.

O’i dechreuad bron, ymddiddorodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn offerynnau cerdd ac ymhlith casgliadau Amgueddfa Cymru (yn bennaf yr Amgueddfa Werin Cymru) ceir nifer o enghreifftiau o offerynnau Cymreig, gan gynnwys crythau, pibgyrn a thelynau unrhes a theires. Ceir yno dri phibgorn Cymreig o ogledd Cymru yn dyddio o’r 18g a chrwth o wneuthuriad Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth gyda'r dyddiad 1742. Ymhlith y telynau yng nghasgliad yr Amgueddfa ceir telyn unrhes y dywedir ei bod yn eiddo i’r llenor Ellis Wynne (1670/1–1734) o’r Lasynys ger Harlech; telyn deires o’r 18g a wnaed gan John Richards, Llanrwst; a phedair telyn, un delyn unrhes a thair telyn deires, o wneuthuriad Bassett Jones, Caerdydd. Ceir hefyd sawl piano hanesyddol ac enghraifft o virginal sy’n dyddio o 1654. Mae Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i eitemau sy’n ymwneud â digwyddiadau cerddorol, megis ‘Cwpan Caradog’, a enillwyd gan Gôr De Cymru dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones; 1834–97) yn y Palas Grisial yn 1872 ac yn 1873, a gramoffon o 1904 a oedd yn eiddo i’r gantores Adelina Patti (1843-1919). Ceir hefyd gasgliad o 31 o silindrau cwyr a recordiwyd gan y Fonesig Ruth Herbert Lewis (1871-1946) yn nyddiau cynnar casglu caneuon gwerin yng Nghymru, a defnyddiau sy’n cofnodi gwaith maes yr Amgueddfa o ran casglu, a recordiadau o gantorion gwerin, Canu plygain, Adrodd Pwnc a defodau gwerin megis y Fari Lwyd.

Prifysgolion Cymru[golygu | golygu cod]

O fewn llyfrgelloedd prifysgolion Cymru ceir sawl casgliad o gerddoriaeth. Cedwir llawysgrifau David De Lloyd (1883–1948) a chasgliad George Ernest Powell, Nanteos, yn llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn llyfrgell Prifysgol Caerdydd cedwir casgliad teulu Mackworth o ardal Castell-nedd, sy’n cynnwys llawysgrifau cerddorol a deunyddiau printiedig o’r 16g hyd y 18g, a chasgliad Theodore Edward Aylward a fu’n organydd Eglwys Gadeiriol Llandâf, sy’n cynnwys dros 700 o eitemau cerddorol. Ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd y lleolir casgliad y BBC o gerddoriaeth o’r 18g a’r 19g, a chasgliadau llawysgrifau a defnyddiau personol y gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen (1891-1918) a’r cyfansoddwr David Wynne (1900-83). Yn yr un modd mae Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor yn gartref i bapurau R. D. Griffith (1877-1958), hanesydd canu cynulleidfaol Cymru, a chasgliad Mary Davies (1855-1930) o ddeunydd sy’n ymwneud â blynyddoedd cynnar Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a’r casglu arloesol ar ganeuon gwerin Cymraeg ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.

Eraill[golygu | golygu cod]

Bu’n arfer ers blynyddoedd i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru grynhoi casgliadau o lyfrau cerddorol a recordiau i’w benthyca, ac weithiau setiau cerddorol i ddiwallu anghenion grwpiau offerynnol a lleisiol lleol. Ac mae'r Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, yn gartref i gasgliad pwysig o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Rhidian Griffiths ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.