Ruth Herbert Lewis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ruth Herbert Lewis
Portrait of Miss Caine (4674326).jpg
Ganwyd 29 Tachwedd 1871 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Awst 1946 Edit this on Wikidata (74 oed)
Alma mater
Galwedigaeth casglwr, Cenhadwr Edit this on Wikidata
Tad William Caine Edit this on Wikidata
Priod John Herbert Lewis Edit this on Wikidata

Ruth Herbert Lewis (29 Tachwedd 187126 Awst 1946) oedd person cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio peiriant ffonograff Edison er mwyn recordio caneuon gwerin.[1]

Teulu ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed hi'n Ruth Caine, yn Lerpwl, i deulu’r AS Rhyddfrydol W.S. Caine. Yn ferch alluog, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn cwrdd â’i gwr, John Herbert Lewis, AS Rhyddfrydol i Sir y Fflint ac aelod blaenllaw o Gymru Fydd. A dyma ddechrau’r broses o ‘Gymreigio’ a fyddai, maes o law, yn arwain Ruth hyd lonydd gogledd ddwyrain Cymru efo’r ffonograff.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dull Ruth o deithio oedd cart wedi’i dynnu gan ei merlen, Seren. Byddai hi’n aml i’w gweld yn teithio o gwmpas Sir y Fflint a bryniau Sir Ddinbych efo’i phlant - Kitty a Mostyn. Cafodd y ffonograff gludadwy yn haf 1910 (fel anrheg gan ei ffrind, y gantores glasurol Mary Davies, casglwr pwysig arall fu’n gyfrifol am nodi ‘Dacw ‘Nghariad Lawr yn y Berllan’). Ei thestun cyntaf, heblaw am ambell arbrawf efo lleisiau ei phlant, oedd gwr ei golchwraig, Lucy. Roedd Robert Jones yn gyfarwydd â hen garol traddodiadol (‘O deued pob Cristion’) ac yn ddigon hapus i’w ganu i ddyfnderau’r corn alwminiwm a roddodd Ruth ar fwrdd yn ei fwthyn.

Mae’n anodd amgyffred mor chwyldroadol oedd technoleg Edison ar y pryd. Ond roedd y ‘Gem’ (Model D) ar flaen y gad!

Yn ail bennod ‘Hen Ferchetan’ mae Sara Huws, o’r East End Women’s Museum, yn disgrifio Ruth fel arloeswraig dechnolegol - yn enwedig, meddai Sara, oherwydd i’r ffonograff gael ei marchnata at ddynion yn unig, gyda’r syniad eu bod nhw’n anodd i’w defnyddio, ac felly bod angen sgil gwrywaidd arbennig! Cofiwch nad oedd hi’n gwbl rugl ei Chymraeg, na chwaith yn gerddorol (yn methu canu, na darllen cerddoriaeth) ac felly roedd technoleg yr ‘Edison Gem’ yn hanfodol i’w gwaith. Ar ôl recordio, byddai ei ffrind Morfudd Llwyn Owen yn nodi’r caneuon ar bapur.

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymysg y caneuon a gasglwyd gan Ruth mae ‘Cadi Ha’, ‘Angau’, ‘Cariad Cyntaf’ a ‘Deio i Dywyn’. Heb ei gwaith hi, byddai’r rhain wedi gallu diflannu am byth. Mae nifer fawr o’i silindrau ffonograff i’w canfod heddiw yn Amgueddfa Sain Ffagan, ac eraill yng nghasgliad yr EFDSS (English Folk Dance and Song Society) sy’n rhan o archif sain y Llyfrgell Brydeinig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]