Neidio i'r cynnwys

Cartrefi Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cartrefi Cymru
Tŷ Coch, Cartref Pregethwr
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurOwen Morgan Edwards Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) yw Cartrefi Cymru a cyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.

Mae'r llyfr yn dangos ymweliadau yr awdur i ddeuddeg o leoedd ar draws Cymru sy'n gysylltiedig â phobl nodedig o hanes Cymru, awduron yn bennaf. Mae'r daith yn fath o bererindod, ymchwiliad i'r cymeriad Cymreig (groesawgar a rhinweddol gan amlaf), a gwerthfawrogiad o dirwedd Cymru.

Dyma rhestr y penodau, gyda'r lleoedd a'r bobl a ddisgrifir:

1 Dolwar Fechan, Cartref Emynyddes Dolwar Fach, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys, man geni'r emynyddes Ann Griffiths (1776–1805)

2 Tŷ Coch, Cartref Pregethwr

Tŷ Coch, Pennant-Lliw, Llanuwchllyn, Gwynedd, man geni'r llenor a gweinidog Robert Thomas (enw barddol Ap Vychan) (1809–1880)

3 Gerddi Bluog, Cartref Bardd

Gerddi Bluog, Llanbedr, Gwynedd, cartref y bardd a chyfieithwr y salmau Edmwnd Prys (1544–1623)

4 Pant y Celyn, Cartref Per Ganiedydd

Pantycelyn, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, cartref y bardd a emynydd William Williams (Pantycelyn) (1717–1791)

5 Bryn Tynoriad, Cartref Gwladgarwr

Bryntynoriad, Rhydymain, Gwynedd, man geni'r bardd a newyddiadurwr Ieuan Jones (enw barddol Ieuan Gwynedd) (1820–1852)

6 Trefeca, Cartref Diwygiwr

Trefeca, Powys, lle sefydlodd Howel Harris (1714–1773), arloeswr y Diwygiad Methodistaidd, gymuned Gristnogol "Teulu Trefeca" yn 1752

7 Caer Gai, Cartref Uchelwyr

Caer Gai, Llanuwchllyn, Gwynedd, cartref y bardd a brenhihwr Rowland Vaughan (tua 1590–1667)

8 Cefn Brith, Cartref Merthyr

Cefn-brith, Mynydd Epynt, cartref y merthyr Protestannaidd John Penry (1559–1593)

9 Glas Ynys, Cartref Bardd Cwsg

Lasynys Fawr, Gwynedd, man geni'r llenor crefyddol Ellis Wynne (1671–1734), awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc

10 Tŷ'r Ficer, Cartref Bardd Moes

Tŷ'r Ficer, Llanymddyfri, cartref y bardd Rhys Prichard, "yr Hen Ficer" (1579?–1644)

11 Y Garreg Wen, Cartref Canwr

Y Garreg Wen, Ynyscynhaearn, Gwynedd, cartref y telynor Dafydd y Garreg Wen, David Owen (1710–1739)

12 Tyddewi, Cartref Sant

Tyddewi, Dyfed, beddrod Dewi Sant (bu farw 589)

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]