Ynyscynhaearn
![]() Eglwys Ynyscynhaearn | |
Math |
plwyf, anheddiad dynol ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.938077°N 4.141198°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Esgobaeth |
Esgobaeth Bangor ![]() |
Plwyf eglwysig yn Eifionydd, Gwynedd yw Ynyscynhaearn. Mae'n gorwedd i'r gogledd-ddwyrain o dref Cricieth hanner ffordd rhwng y dref honno a Porthmadog ac yn cynnwys Penrefelin. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Bangor.
Yn y plwyf, mae Eglwys Sant Cynhaiarn; Brawd Sant Aelhaearn, a gysylltir â Llanaelhaearn, oedd Cynhaearn. Ni wyddys fawr arall amdano. Roedd ei frodyr eraill yn cynnwys Marchell.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]
Ganed y telynor enwog Dafydd y Garreg Wen (David Owen: 1711/1712-1741) ar dyddyn Y Garreg Wen yn Ynyscynhaearn. Yma hefyd y ganed yr hynafiaethydd a bardd Ellis Owen, Cefnymeysydd (1789-1868) yn fferm Cefn-y-meysydd Isaf, ym mhlwyf Ynyscynhaearn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Robert Armstrong-Jones, meddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r ymennydd