Brown County, Illinois

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Brown County yn Illinois

Mae Brown County yn rhanbarth weinyddol yn Nhalaith Illinois yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl cyfrifiad 2010 roedd iddi boblogaeth o 6,937.[1]. Y brifddinas rhanbarthol yw Mount Stirling[2]. Sefydlwyd y rhanbarth ym 1839 allan o Schuyler County. Enwyd y rhanbarth ar ôl Jacob Brown (1775–1828), swyddog milwrol fu'n ymladd i gadw rheolaeth dros y Llynoedd Mawr yn nwylo'r UDA wedi methiant yn yr ymgais i feddianu Canada fel rhan o ryfeloedd Napolion yn 1812. Maint ei thirwedd yw 306 milltir sgwar.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfiwyd Brown County allan o Schuyler County ym 1839. Fe'i henwyd er anrhydedd i'r Cadfridog Jacob Jennings Brown, arweinydd y fyddin a threchodd y lluoedd Prydeinig ym Mrwydr Harbwr Sackett ym 1813

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y rhanbarth ardal gyfan o 307 milltir sgwâr (800 km2), o'r hyn y mae 306 milltir sgwâr (790 km2) yn dir a 1.6 milltir sgwâr (4.1 km2) (0.5%) yn ddŵr.[3] Mae Afon Illinois yn llifo ar hyd rhan o ffin ddwyreiniol y rhanbarth.

Rhanbarthau cyfagos[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif ffyrdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Hinsawdd a thywydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tymheredd cyfartalog ym mhrifddinas y rhanbarth, Mount Sterling, wedi amrywio o dymheredd isaf o 15 °F (−9 °C) ym mis Ionawr i dymheredd uchaf o 87 °F (31 °C) ym mis Gorffennaf. Mae'r record am dymheredd isel yn −26 °F (−32 °C) wedi ei gofnodi ym mis February 1905 . Mae'r record am dymheredd uchel yn 113 °F (45 °C) wedi ei gofnodi ym mis July 1936. Roedd y dyddodiad misol cyfartalog yn amrywio o 1.55 inches (39 mm) in January to 5.14 inches (131 mm) ym mis Mai[4]}}

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Pyramid oedran cyfrifiad 2000 ar gyfer Brown County
Poblogaeth hanesyddol
Cyfrifiad Pob.
18404,183
18507,19872.1%
18609,93838.1%
187012,20522.8%
188013,0416.8%
189011,951−8.4%
190011,557−3.3%
191010,397−10.0%
19209,336−10.2%
19307,892−15.5%
19408,0532.0%
19507,132−11.4%
19606,210−12.9%
19705,586−10.0%
19805,411−3.1%
19905,8367.9%
20006,95019.1%
−0.2%
Est. 20166,762[5]−2.5%
U.S. Decennial Census[6]
1790-1960[7] 1900-1990[8]
1990-2000[9] 2010-2013[1]

Yn ôl Cyfrifiad 2010 roedd 6,937 o bobl, 2,099 cartref, a 1,346 teulu yn byw yn y rhanbarth[10] Dwysedd y boblogaeth oedd 22.7 inhabitants per square mile (8.8/km2). Roedd 2,462 o unedau tŷ, a dwysedd cyfartalog o 8.1 y filltir sgwâr (3.1/km2).[3] Cyfansoddiad hiliol y rhanbarth oedd 76.1% gwyn, 18.5% Americanwyr Affricanaidd / du, 0.2% Asiaid, 0.2% Americanwyr Brodorol, 4.4% o hil arall, a 0.6% o hiliau cyfansawdd. Roedd y sawl o dras Sbaenaidd neu Latino yn ffurfio 5.8% o'r boblogaeth.[10] O ran hynafiaeth roedd, 25.5% o'r Almaen, 15.6% oedd yn dweud eu bod o dras Americanaidd, 12.7% Gwyddelod, a 6.1% yn Saeson. Doedd neb yn y rhanbarth yn hawlio tras Gymreig.[11]

O'r 2,099 cartref, mae gan 28.4% plant o dan 18 mlwydd oed yn byw gyda nhw, roedd, 51.3% yn gyplau priod yn byw gyda'i gilydd, roedd gan 8.6% pen tŷ benywaidd heb ŵr yn bresennol, roedd, 35.9% dim yn ffurfio teulu, ac roedd 32.2% yn unigolion. Y cyfartaledd yn byw ar bob aelwyd oedd 2.30 a'r maint teuluol cyfartalog oedd 2.88. Yr oedran cyfartalog oedd 37.3 mlwydd oed.[10]

Yr incwm cyfartalog ar gyfer cartref yn y rhanbarth oedd $38,696 a'r incwm cyfartalog ar gyfer teulu oedd$50,341. Roedd gan y dynion incwm cyfartalog o $34,648 yn erbyn $27,288 ar gyfer merched. Incwm y pen ar gyfer y rhanbarth oedd $17,133. Roedd tua 9.9% o deuluoedd a 12.0% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 15.0% o'r rhai dan 18 mlwydd oed a 9.2% o bobl 65 mlwydd oed neu hŷn.[12]

Mae presenoldeb carchar taleithiol Illinois, y Western Correctional Centre, yn y rhanbarth yn effeithio ar gyfartaleddau ddemograffeg y rhanbarth. Mae'r carchar wedi'i leoli i'r dwyrain o Mount Sterling ac mae ganddi boblogaeth ddyddiol gyfartalog o 2,066 o ddynion. Mae'r ffaith bod dynion ifanc a dynion croenddu yn fwy tebygol i gael eu carcharu, hefyd yn effeithio ar ddata demograffeg y cyfrifiad.[1]

Cymunedau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinas[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Trefgorddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Brown County Wedi ei ranu i naw trefgordd

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Pleidleisiodd Brown County i'r ymgeisydd Democrataidd ym mhob etholiad arlywyddol o 1840 i 1948, ac eithrio etholiad 1928 pan bleidleisiodd y rhanbarth ar gyfer yr ymgeisydd Gweriniaethol Herbert Hoover. O 1952 i 2016, mae'r Democratiaid wedi cario Brown County dair gwaith (1964, 1976, a 1992) ac wedi ennill mwyafrif y bleidlais unwaith yn unig (1964).

Canlyniadau Etholiad Arlywyddol[13]
Blwyddyn Gweriniaethwyr Democratiaid Eraill
Pleidlais Arlywyddol, 2016 75.5% 1,796 20.0% 476 4.5% 107
Pleidlais Arlywyddol, 2012 64.0% 1,513 33.3% 787 2.7% 64
Pleidlais Arlywyddol, 2008 59.9% 1,544 38.3% 986 1.8% 47
Pleidlais Arlywyddol, 2004 65.0% 1,679 34.6% 895 0.4% 11
Pleidlais Arlywyddol, 2000 57.5% 1,529 40.5% 1,077 2.0% 54
Pleidlais Arlywyddol, 1996 45.8% 1,053 43.4% 997 10.8% 247
Pleidlais Arlywyddol, 1992 38.3% 1,029 42.6% 1,146 19.1% 514
Pleidlais Arlywyddol, 1988 51.9% 1,373 47.9% 1,267 0.2% 6
Pleidlais Arlywyddol, 1984 60.4% 1,478 39.2% 959 0.4% 9
Pleidlais Arlywyddol, 1980 61.7% 1,660 35.3% 950 3.0% 82
Pleidlais Arlywyddol, 1976 49.0% 1,519 49.4% 1,533 1.6% 51
Pleidlais Arlywyddol, 1972 58.9% 1,780 39.8% 1,203 1.3% 39
Pleidlais Arlywyddol, 1968 51.5% 1,629 40.0% 1,265 8.5% 269
Pleidlais Arlywyddol, 1964 39.4% 1,355 60.6% 2,083 0.0% 0
Pleidlais Arlywyddol, 1960 50.5% 1,889 49.4% 1,849 0.1% 2
Pleidlais Arlywyddol, 1956 53.7% 2,026 46.3% 1,748 0.0% 1
Pleidlais Arlywyddol, 1952 57.8% 2,137 42.1% 1,557 0.1% 5
Pleidlais Arlywyddol, 1948 46.1% 1,562 53.3% 1,805 0.7% 22
Pleidlais Arlywyddol, 1944 48.2% 1,738 51.3% 1,849 0.6% 20
Pleidlais Arlywyddol, 1940 45.2% 2,101 53.3% 2,478 1.5% 69
Pleidlais Arlywyddol, 1936 35.0% 1,591 63.2% 2,873 1.9% 85
Pleidlais Arlywyddol, 1932 28.8% 1,148 70.7% 2,822 0.6% 23
Pleidlais Arlywyddol, 1928 55.0% 2,289 44.8% 1,867 0.2% 9
Pleidlais Arlywyddol, 1924 41.5% 1,637 54.5% 2,149 4.1% 160
Pleidlais Arlywyddol, 1920 45.1% 1,590 52.9% 1,866 2.0% 71
Pleidlais Arlywyddol, 1916 34.5% 1,579 62.5% 2,856 3.0% 137
Pleidlais Arlywyddol, 1912 16.5% 381 58.7% 1,358 24.8% 573
Pleidlais Arlywyddol, 1908 35.8% 947 60.9% 1,609 3.3% 87
Pleidlais Arlywyddol, 1904 38.1% 934 54.7% 1,341 7.2% 177
Pleidlais Arlywyddol, 1900 32.9% 988 65.5% 1,968 1.6% 49
Pleidlais Arlywyddol, 1896 32.9% 1,024 66.2% 2,063 1.0% 30
Pleidlais Arlywyddol, 1892 30.9% 879 55.1% 1,567 14.1% 400

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Brown County Community Unit School District 1
  • Meredosia-Chambersburg Community Unit School District 11
  • Southeastern Community Unit School District 337

Llefydd o ddiddordeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw Delwedd Lleoliad Dinas/Tref
Ardal Hanesyddol argae a loc La Grange
La Grange Lock and Dam Aerial View.jpg

Golwg o'r awyr
0.75 milltir (1.21 km) i'r de o Ffordd y Rhanbarth 795N ar Afon Illinois Versailles
Ardal Masnachol Hanesyddol Mount Sterling
Brown County Courthouse, Mount Sterling.jpg

Llys Rhanbarthol Brown
Yr ardal ger y llys yn Mount Stirling Mount Stirling

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Penodol
  1. 1.0 1.1 "State & County QuickFacts". United States Census Bureau. Cyrchwyd July 3, 2014.
  2. "Find a County". National Association of Counties. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-05-31. Cyrchwyd 2011-06-07.
  3. 3.0 3.1 "Population, Housing Units, Area, a Density: 2010 - County". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  4. "Monthly Averages for Mount Sterling, Illinois". The Weather Channel. Cyrchwyd 2011-01-27.
  5. "Population and Housing Unit Estimates". Cyrchwyd June 9, 2017.
  6. "U.S. Decennial Census". United States Census Bureau. Archifwyd o y gwreiddiol ar May 12, 2015. Cyrchwyd July 3, 2014.
  7. "Historical Census Browser". University of Virginia Library. Cyrchwyd July 3, 2014.
  8. "Population of Counties by Decennial Census: 1900 to 1990". United States Census Bureau. Cyrchwyd July 3, 2014.
  9. "Census 2000 PHC-T-4. Ranking Tables for Counties: 1990 and 2000" (PDF). United States Census Bureau. Cyrchwyd July 3, 2014.
  10. 10.0 10.1 10.2 "DP-1 Profile of General Population a Housing Characteristics: 2010 Demographic Profile Data". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  11. "DP02 SELECTED SOCIAL CHARACTERISTICS IN THE UNITED STATES – 2006-2010 American Community Survey 5-Blwyddyn Estimates". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  12. "DP03 SELECTED ECONOMIC CHARACTERISTICS – 2006-2010 American Community Survey 5-Blwyddyn Estimates". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  13. http://uselectionatlas.org/RESULTS
Cyffredinol

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]