Hancock County, Illinois

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Hancock County yn Illinois

Mae Hancock County yn rhanbarth gweinyddol yn Nhalaith Illinois yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl cyfrifiad 2010 roedd iddi boblogaeth o 19,104[1]. Y brifddinas ranbarthol yw Carthage,[2]. Maint ei thirwedd yw 795 milltir sgwar.

Mae'n sir wledig efo nifer o drefi bach gwledig a ffermydd

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y rhanbarth 13 Ionawr 1825 allan o Pike County. Enwyd y rhanbarth ar ôl John Hancock (1737-93), llywodraethwr cyntaf Massachusetts , llywydd yr ail Gyngres Gyfandirol ac un o'r ŵyr a arwyddodd Datganiad Annibyniaeth America.

Roedd Hancock County yn rhan o Randir Milwrol 1812, sef tir a neilltuwyd gan y gyngres ar gyfer cyn milwyr a fu'n brwydro yn yr hyn mae Americanwyr yn galw'n Rhyfel 1812. Ni fu llawer o gyn milwyr yn fodlon cymryd fantais o'r cynnig o herwydd bod y tir yn eiddo i Brodorion gwreiddiol gelyniaethus. Wedi trechu'r brodorion ym mrwydr Blackhawk ym 1832 dechreuodd pobl gwynon i setlo yn y tir.

Mormoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Am gyfnod yn y 1840au un o ddinasoedd Hancock, Nauvoo, oedd un o'r rai mwyaf poblog talaith Illinois gan ei fod ar y pryd yn gartref i bencadlys Eglwys Iesu Grist o'r Saint Diweddar neu'r Mormoniaid. Llofruddiwyd sylfaenydd yr Eglwys Joseph Smith yn Cartherige, prifddinas y sir ym 1844. Wedi hynny symudodd y rhan fwyaf o Formoniaid o Hancock. Bellach bydd nifer o Formoniaid yn ymweld â safleoedd o bwys yn hanes eu sect am wyliau ac ar bererindod.


Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y rhanbarth ardal gyfan o 814 milltir sgwâr (2,110 km2), o'r hyn y mae 794 milltir sgwâr (2,060 km2) yn dir a 21 milltir sgwâr (54 km2) (2.5%) yn ddŵr.[3]

Hinsawdd a thywydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tymheredd cyfartalog ym mhrifddinas y rhanbarth, Carthage, wedi amrywio o dymheredd isaf o 13 °F (−11 °C) ym mis Ionawr i dymheredd uchaf o 87 °F (31 °C) ym mis Gorffennaf. Mae'r record am dymheredd isel yn −30 °F (−34 °C) wedi ei gofnodi ym mis Chwefror 1905 . Mae'r record am dymheredd uchel yn 113 °F (45 °C) wedi ei gofnodi ym mis Awst 1934. Roedd y dyddodiad misol cyfartalog yn amrywio o 1.47 inches (37 mm) ym mis Ionawr i 4.58 inches (116 mm) ym mis Mai.[4]

Prif ffyrdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhanbarthau cyfagos[golygu | golygu cod y dudalen]

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Pyramid oedran cyfrifiad 2000 ar gyfer Hancock County
Poblogaeth hanesyddol
Cyfrifiad Pob.
1830483
18409,9461,959.2%
185014,65247.3%
186029,06198.3%
187035,93523.7%
188035,337−1.7%
189031,907−9.7%
190032,2151.0%
191030,638−4.9%
192028,523−6.9%
193026,420−7.4%
194026,297−0.5%
195025,790−1.9%
196024,574−4.7%
197023,645−3.8%
198023,8771.0%
199021,373−10.5%
200020,121−5.9%
−5.1%
Est. {{{estyear}}}18,508[5]−3.1%
U.S. Decennial Census[6]
1790-1960[7] 1900-1990[8]
1990-2000[9] 2010-2013[1]

Yn ôl Cyfrifiad 2010 roedd 19,104 o bobl, 8,040 cartref, a 5,427 teulu yn byw yn y rhanbarth[10] Dwysedd y boblogaeth oedd 24.1 inhabitants per square mile (9.3/km2). Roedd 9,274 o unedau tŷ, a dwysedd cyfartalog o 11.7 y filltir sgwâr (4.5/km2).[3] Cyfansoddiad hiliol y rhanbarth oedd 98.0% gwyn, 0.3% Americanwyr Affricanaidd / du, 0.2% Asiaid, 0.2% Brodorion gwreiddiol, 0.1% O Ynysoedd y Môr Tawel, 0.3% o hil arall, a 0.9% o hiliau cyfansawdd. Roedd y sawl o dras Sbaenaidd neu Latino yn ffurfio 1.0% o'r boblogaeth.[10] O ran hynafiaeth roedd, 34.7% o'r Almaen, 13.8% yn Saeson. Roedd 107 o bobl neu tua 0.6% o'r boblogaeth o dras Gymreig 13.2% oedd yn dweud eu bod o dras Americanaidd, a 12.1% Gwyddelod.[11] O'r 8,040 cartref roedd gan 27.5% plant o dan 18 mlwydd oed yn byw gyda nhw, roedd, 55.3% yn gyplau priod yn byw gyda'i gilydd, roedd gan 8.3% pen tŷ benywaidd heb ŵr yn bresennol, roedd, 32.5% dim yn ffurfio teulu, ac roedd 28.2% yn unigolion. Y cyfartaledd yn byw ar bob aelwyd oedd 2.35 a'r maint teuluol cyfartalog oedd 2.85. Yr oedran cyfartalog oedd 44.6 mlwydd oed.[10]

Yr incwm cyfartalog ar gyfer cartref yn y rhanbarth oedd $42,857 a'r incwm cyfartalog ar gyfer teulu oedd$55,162. Roedd gan y dynion incwm cyfartalog o $41,609 yn erbyn $27,648 ar gyfer merched. Incwm y pen ar gyfer y rhanbarth oedd $22,885. Roedd tua 8.9% o deuluoedd a 12.6% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 17.8% o'r rhai dan 18 mlwydd oed a 9.9% o bobl 65 mlwydd oed neu hŷn.[12]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn etholiadau arlywyddol, mae Hancock County, fel arfer, yn ffafrio ymgeiswyr Gweriniaethol, wedi pleidleisio dros ymgeiswyr arlywyddol Democrataidd bedair gwaith yn unig yn ystod y cyfnod 1940 i 2016 (yn 1964, 1988, 1992, yn 1996).

Canlyniadau Etholiad Arlywyddol[13]
Blwyddyn Gweriniaethwyr Democratiaid Eraill
Pleidlais Arlywyddol, 2016 70.5% 6,430 23.5% 2,139 6.1% 552
Pleidlais Arlywyddol, 2012 57.9% 5,271 40.1% 3,650 2.1% 190
Pleidlais Arlywyddol, 2008 54.5% 5,161 43.7% 4,141 1.8% 167
Pleidlais Arlywyddol, 2004 59.0% 5,837 40.2% 3,975 0.9% 87
Pleidlais Arlywyddol, 2000 53.0% 5,134 43.9% 4,256 3.1% 301
Pleidlais Arlywyddol, 1996 43.2% 3,961 43.6% 4,001 13.3% 1,216
Pleidlais Arlywyddol, 1992 36.9% 3,714 41.8% 4,213 21.3% 2,142
Pleidlais Arlywyddol, 1988 48.7% 4,568 50.5% 4,740 0.8% 70
Pleidlais Arlywyddol, 1984 62.5% 6,251 37.1% 3,713 0.4% 37
Pleidlais Arlywyddol, 1980 62.3% 6,597 33.3% 3,522 4.4% 466
Pleidlais Arlywyddol, 1976 55.5% 6,043 43.5% 4,730 1.0% 108
Pleidlais Arlywyddol, 1972 67.6% 7,519 32.3% 3,592 0.2% 18
Pleidlais Arlywyddol, 1968 60.2% 6,866 32.6% 3,720 7.1% 811
Pleidlais Arlywyddol, 1964 47.3% 5,557 52.7% 6,199
Pleidlais Arlywyddol, 1960 61.9% 8,036 38.1% 4,947 0.1% 7
Pleidlais Arlywyddol, 1956 63.4% 8,431 36.5% 4,854 0.1% 12
Pleidlais Arlywyddol, 1952 66.1% 9,181 33.7% 4,681 0.1% 19
Pleidlais Arlywyddol, 1948 55.5% 7,098 43.5% 5,559 1.0% 122
Pleidlais Arlywyddol, 1944 59.6% 7,972 39.9% 5,338 0.5% 68
Pleidlais Arlywyddol, 1940 57.1% 9,108 41.9% 6,688 1.0% 165
Pleidlais Arlywyddol, 1936 47.6% 7,383 49.8% 7,726 2.6% 398
Pleidlais Arlywyddol, 1932 34.9% 4,789 64.1% 8,808 1.0% 137
Pleidlais Arlywyddol, 1928 58.7% 7,795 41.0% 5,447 0.4% 48
Pleidlais Arlywyddol, 1924 51.8% 6,678 40.3% 5,189 7.9% 1,018
Pleidlais Arlywyddol, 1920 57.8% 7,379 40.1% 5,125 2.1% 274
Pleidlais Arlywyddol, 1916 44.0% 6,472 52.4% 7,711 3.7% 543
Pleidlais Arlywyddol, 1912 25.6% 1,937 48.8% 3,692 25.6% 1,937
Pleidlais Arlywyddol, 1908 45.5% 3,781 51.2% 4,260 3.3% 274
Pleidlais Arlywyddol, 1904 49.5% 3,887 44.0% 3,456 6.6% 515
Pleidlais Arlywyddol, 1900 44.7% 3,907 53.3% 4,657 2.0% 177
Pleidlais Arlywyddol, 1896 47.2% 4,250 50.9% 4,581 2.0% 177
Pleidlais Arlywyddol, 1892 41.8% 3,393 50.9% 4,132 7.3% 595


Cymunedau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Tref[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymunedau anghorfforedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Trefgorddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Hancock County wedi ei rannu i 24 trefgordd (township)

Llefydd o ddiddordeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "State & County QuickFacts". United States Census Bureau. Archifwyd o y gwreiddiol ar Gorffennaf 11, 2011. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  2. "Find a County". National Association of Counties. Cyrchwyd 2011-06-07.
  3. 3.0 3.1 "Population, Housing Units, Area, a Density: 2010 - County". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  4. "Monthly Averages for Carthage, Illinois". The Weather Channel. Cyrchwyd 2011-01-27.
  5. "Population a Housing Unit Estimates". Cyrchwyd Mehefin 9, 2017.
  6. "U.S. Decennial Census". United States Census Bureau. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  7. "Historical Census Browser". University of Virginia Library. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  8. "Population of Counties by Decennial Census: 1900 to 1990". United States Census Bureau. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  9. "Census 2000 PHC-T-4. Ranking Tables for Counties: 1990 a 2000" (PDF). United States Census Bureau. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  10. 10.0 10.1 10.2 "DP-1 Profile of General Population a Housing Characteristics: 2010 Demographic Profile Data". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  11. "DP02 SELECTED SOCIAL CHARACTERISTICS IN THE UNITED STATES – 2006-2010 American Community Survey 5-Blwyddyn Estimates". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  12. "DP03 SELECTED ECONOMIC CHARACTERISTICS – 2006-2010 American Community Survey 5-Blwyddyn Estimates". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  13. http://uselectionatlas.org/RESULTS

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]