Grundy County, Illinois

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Grundy County yn Illinois

Mae Grundy County yn rhanbarth gweinyddol yn Nhalaith Illinois yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl cyfrifiad 2010 roedd iddi boblogaeth o 50,063[1]. Y brifddinas ranbarthol yw Morris.[2]. Maint ei thirwedd yw 420 milltir sgwar


Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y rhanbarth ym 1841 allan o LaSalle County. Enwyd y rhanbarth ar ôl Felix Grundy (1777–1840), Seneddwr dros Tennessee a wasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau. [3] Roedd yr Grundy yn arfer bod yn ardal lofaol [4] Ym 1883 bu trychineb ym mhwll y Diamond. Lladdwyd 68 o ddynion a bechgyn pan dorrodd dŵr trwy'r pwll gan fod y pympiau dŵr wedi methu ymdopi ar ôl cyfnod o law trwm iawn . [5] ymysg y rhai bu farw oedd dau frawd o Gymru, Samuel (33 oed) a John Atkins (24 oed). [6]


Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y rhanbarth ardal gyfan o 430 milltir sgwâr (1,100 km2), o'r hyn y mae 418 milltir sgwâr (1,080 km2) yn dir a 12 milltir sgwâr (31 km2) (2.9%) yn ddŵr.[7]

Hinsawdd a thywydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tymheredd cyfartalog ym mhrifddinas y rhanbarth, Morris, wedi amrywio o dymheredd isaf o 13 °F (−11 °C) ym mis Ionawr i dymheredd uchaf o 85 °F (29 °C) ym mis Gorffennaf. Mae'r record am dymheredd isel yn −24 °F (−31 °C) wedi ei gofnodi ym mis Ionawr 1985 . Mae'r record am dymheredd uchel yn 103 °F (39 °C) wedi ei gofnodi ym mis Mehefin 1988. Roedd y dyddodiad misol cyfartalog yn amrywio o 1.59 inches (40 mm) ym mis Chwefrorto 4.16 inches (106 mm) ym mis Mehefin. [8]

Rhanbarthau cyfagos[golygu | golygu cod y dudalen]

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Pyramid oedran cyfrifiad 2000 ar gyfer Grundy County
Poblogaeth hanesyddol
Cyfrifiad Pob.
18503,023
186010,379243.3%
187014,93843.9%
188016,73212.0%
189021,02425.7%
190024,13614.8%
191024,1620.1%
192018,580−23.1%
193018,6780.5%
194018,398−1.5%
195019,2174.5%
196022,35016.3%
197026,53518.7%
198030,58215.3%
199032,3375.7%
200037,53516.1%
33.4%
Est. {{{estyear}}}50,437[9]0.7%
U.S. Decennial Census[10]
1790-1960[11] 1900-1990[12]
1990-2000[13] 2010-2013[1]


Yn ôl Cyfrifiad 2010 roedd 50,063 o bobl, 18,546 cartref, a 13,431 teulu yn byw yn y rhanbarth[14] Dwysedd y boblogaeth oedd 119.8 inhabitants per square mile (46.3/km2). Roedd 19,996 o unedau tŷ, a dwysedd cyfartalog o 47.8 y filltir sgwâr (18.5/km2).[7] Cyfansoddiad hiliol y rhanbarth oedd 93.7% gwyn, 1.2% Americanwyr Affricanaidd / du, 0.7% Asiaid, 0.2% Indiaid Cochion, 2.7% o hil arall, a 1.5% o hiliau cyfansawdd. Roedd y sawl o dras Sbaenaidd neu Latino yn ffurfio 8.2% o'r boblogaeth.[14] O ran hynafiaeth roedd, 28.3% o'r Almaen, 23.0% Gwyddelod, 12.7% o'r Eidal, 9.4% o dras Pwyleg, 8.6% yn Saeson. Roedd 7.1% yn Norwyaid, a 3.0% oedd yn dweud eu bod o dras Americanaidd.[15] O'r 18,546 cartref roedd gan 38.6% plant o dan 18 mlwydd oed yn byw gyda nhw, roedd, 57.8% yn gyplau priod yn byw gyda'i gilydd, roedd gan 9.7% pen tŷ benywaidd heb ŵr yn bresennol, roedd, 27.6% dim yn ffurfio teulu, ac roedd 22.5% yn unigolion. Y cyfartaledd yn byw ar bob aelwyd oedd 2.69 a'r maint teuluol cyfartalog oedd 3.16. Yr oedran cyfartalog oedd 36.1 mlwydd oed.[14]

Yr incwm cyfartalog ar gyfer cartref yn y rhanbarth oedd $64,297 a'r incwm cyfartalog ar gyfer teulu oedd$75,000. Roedd gan y dynion incwm cyfartalog o $58,491 yn erbyn $36,592 ar gyfer merched. Incwm y pen ar gyfer y rhanbarth oedd $27,895. Roedd tua 5.2% o deuluoedd a 6.9% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 8.0% o'r rhai dan 18 mlwydd oed a 6.5% o bobl 65 mlwydd oed neu hŷn.[16]

Cymunedau[golygu | golygu cod y dudalen]

Map of Grundy County, Illinois.

Dinas[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Trefgorddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Grundy County wedi ei rannu i 17 trefgordd (township)

Cymunedau anghorfforedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Canlyniadau Etholiad Arlywyddol[17]
Blwyddyn Gweriniaethwyr Democratiaid Eraill
Pleidlais Arlywyddol, 2016 57.9% 13,454 34.7% 8,065 7.4% 1,718
Pleidlais Arlywyddol, 2012 53.2% 11,343 44.3% 9,451 2.4% 519
Pleidlais Arlywyddol, 2008 48.1% 10,687 49.8% 11,063 2.2% 482
Pleidlais Arlywyddol, 2004 56.5% 11,198 42.7% 8,463 0.9% 170
Pleidlais Arlywyddol, 2000 52.5% 8,709 45.3% 7,516 2.2% 359
Pleidlais Arlywyddol, 1996 41.5% 6,177 45.4% 6,759 13.2% 1,966
Pleidlais Arlywyddol, 1992 39.0% 6,346 37.6% 6,122 23.4% 3,797
Pleidlais Arlywyddol, 1988 60.9% 8,743 38.5% 5,525 0.7% 93
Pleidlais Arlywyddol, 1984 67.0% 9,595 32.6% 4,671 0.4% 59
Pleidlais Arlywyddol, 1980 63.6% 8,397 30.1% 3,970 6.3% 837
Pleidlais Arlywyddol, 1976 57.4% 7,581 41.9% 5,534 0.7% 86
Pleidlais Arlywyddol, 1972 70.7% 8,725 29.0% 3,584 0.3% 32
Pleidlais Arlywyddol, 1968 59.5% 6,607 30.7% 3,407 9.8% 1,091
Pleidlais Arlywyddol, 1964 51.3% 5,522 48.7% 5,246
Pleidlais Arlywyddol, 1960 61.9% 6,948 38.1% 4,276 0.0% 4
Pleidlais Arlywyddol, 1956 74.5% 7,640 25.5% 2,618 0.0% 3
Pleidlais Arlywyddol, 1952 70.1% 7,347 29.8% 3,118 0.1% 13
Pleidlais Arlywyddol, 1948 64.4% 5,954 35.2% 3,255 0.3% 31
Pleidlais Arlywyddol, 1944 63.9% 6,310 35.9% 3,544 0.2% 22
Pleidlais Arlywyddol, 1940 61.4% 6,593 38.2% 4,105 0.4% 43
Pleidlais Arlywyddol, 1936 52.6% 5,360 44.0% 4,481 3.4% 344
Pleidlais Arlywyddol, 1932 48.2% 4,491 51.1% 4,755 0.7% 69
Pleidlais Arlywyddol, 1928 61.5% 5,126 38.1% 3,174 0.4% 29
Pleidlais Arlywyddol, 1924 64.0% 4,337 10.9% 742 25.1% 1,701
Pleidlais Arlywyddol, 1920 80.1% 4,647 13.8% 803 6.1% 355
Pleidlais Arlywyddol, 1916 66.4% 4,811 30.9% 2,241 2.7% 197
Pleidlais Arlywyddol, 1912 29.2% 1,919 24.8% 1,172 46.1% 2,179
Pleidlais Arlywyddol, 1908 63.1% 3,127 27.4% 1,359 9.5% 471
Pleidlais Arlywyddol, 1904 69.7% 3,448 17.0% 841 13.3% 656
Pleidlais Arlywyddol, 1900 65.5% 3,735 29.6% 1,687 4.9% 280
Pleidlais Arlywyddol, 1896 59.7% 3,246 38.1% 2,074 2.2% 119
Pleidlais Arlywyddol, 1892 50.3% 2,159 44.0% 1,892 5.7% 245

Llefydd o ddiddordeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "State & County QuickFacts". United States Census Bureau. Archifwyd o y gwreiddiol ar Gorffennaf 11, 2011. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  2. "Find a County". National Association of Counties. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-05-31. Cyrchwyd 2011-06-07.
  3. Adams, James N. (compiler) (1989), Keller, William E., ed., Illinois Place Names, Springfield: Illinois State Historical Society, pp. 581, ISBN 0-912226-24-2
  4. https://books.google.com/books?id=K3UUAAAAYAAJ&pg=PR5-IA3&lpg=PR5-IA3&dq=township+formation+grundy+co+il&source=bl&ots=4TvueknW_E&sig=DhwT0AhJOPH4gJlTYZMfc4agTyw&hl=en&sa=X&ei=WW79VIecB9HkgwS60YPIDA&ved=0CEEQ6AEwBQ#v=onepage&q=township%20formation%20grundy%20co%20il&f=false History of Grundy County, Illinois: Containing a History from the Earliest Settlement to the Present Time ..., Biographical Sketches, Portraits of Some of the Early Settlers, Prominent Men, Etc, Volumes 1-2 (Google eBook) O.L. Basken & Company, Historical Publishers, 1882 - Grundy County (Ill.) - 518 pages
  5. "DamwainDdychrynllydyAmerica - Y Dydd". William Hughes. 1883-02-23. Cyrchwyd 2018-04-15.
  6. [ http://hinton-gen.com/coal/grundy_fatal.html#a Illinois Coal & Coal Mining History & Genealogy] adalwyd 15/04/2018
  7. 7.0 7.1 "Population, Housing Units, Area, a Density: 2010 - County". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  8. "Monthly Averages for Morris, Illinois". The Weather Channel. Cyrchwyd 2011-01-27.
  9. "Population a Housing Unit Estimates". Cyrchwyd Mehefin 9, 2017.
  10. "U.S. Decennial Census". United States Census Bureau. Archifwyd o y gwreiddiol ar May 12, 2015. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  11. "Historical Census Browser". University of Virginia Library. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  12. "Population of Counties by Decennial Census: 1900 to 1990". United States Census Bureau. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  13. "Census 2000 PHC-T-4. Ranking Tables for Counties: 1990 a 2000" (PDF). United States Census Bureau. Cyrchwyd Gorffennaf 5, 2014.
  14. 14.0 14.1 14.2 "DP-1 Profile of General Population a Housing Characteristics: 2010 Demographic Profile Data". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  15. "DP02 SELECTED SOCIAL CHARACTERISTICS IN THE UNITED STATES – 2006-2010 American Community Survey 5-Blwyddyn Estimates". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  16. "DP03 SELECTED ECONOMIC CHARACTERISTICS – 2006-2010 American Community Survey 5-Blwyddyn Estimates". United States Census Bureau. Cyrchwyd 2015-07-11.
  17. http://uselectionatlas.org/RESULTS

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]