Baner Brwnei

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
FIAV 110100.svg Baner Brwnei (baner sifil, gwladwriaeth a morol). Cymesuredd, 1:2

Cafodd baner Brunei (neu Brwnei) ei fabwysiadu'n swyddogol ar 29 Medi 1959.[1] Mae'r faner yn dangos dau fand paralelogram ar maes. Mae'r dau fant paralelogram yn yn disgyn o gornel uchaf ochr y mast i gornel isaf y cyhwfan, y band gwyn ar y brig a du ar y gwaelod ar . Yn y canol, yn torri ar draws y ddau fand ac dros rhan o'r maes melyn, mae arwyddlun Brunei mewn coch.

Symbolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Brwnei mewn arddangosfa

Mae'r melyn yn cynrychioli Swltan Brunei (rheolwr y deyrnas). Yn Ne-ddwyrain Asia, mae'r lliw melyn yn draddodiadol yn lliw brenhinol ac mae ystondord brenhinol Malaysia a Gwlad Thai, baner Sarawak a baner arlywyddol Indonesia yn ddefnyddio llinell felen.

Mae'r arwyddlun yn cynnwys lleuad cilgant (yn cynrychioli Islam) sydd wedi'i gyfuno ag ymbarél (yn cynrychioli brenhiniaeth) gyda dwy law yn pwyntio i fyny (gan awgrymu ewyllys da'r llywodraeth). Islaw'r lleuad cilgant mae rhuban. Ar y lleuad a'r rhuban cilgant mae arysgrif Arabeg yn cael ei gyfieithu i "Brunei, preswylfa heddwch" (Brunei Darussalam, بروني دارالسلام‎) ac arwyddair Brunei, "Mewn gwasanaeth bob amser gyda chanllawiau Duw" (الدائمون المحسنون بالهدى).

Mae'r paralelogramau du a gwyn yn cynrychioli prif weinidogion y wlawriaeth[2] a oedd unwaith yn gyd-raglawiaid ac yna – wedi i'r swltan ddod i oed – yn brif gyngyhorwyr iddo: y Pengiran Bendahara (Prif Weinidog, a gynrychiolir gan y band gwyn sydd ychydig yn fwy trwchus) a'r Pengiran Pemancha (Ail Weinidog, sy'n gyfrifol am faterion tramor, a gynrychiolir gan y band ddu). Mae'r band gwyn oddeutu 12% yn lletach na'r band ddu.[3][4]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r faner yn ei ffurf bresennol, ac eithrio'r arwyddlun, wedi ei defnyddio ers 1906 pan ddaeth Brunei yn diriogaeth drefedigaethol 'dan warchodaeth' Prydain wedi llofnodi cytundeb rhwng Brwnei a Phrydain Fawr.

Cafodd yr arwyddlun ei arosod ar y faner yn 1959 yn dilyn cyhoeddi Cyfansoddiad 29 Medi 1959.

Cadwyd y dyluniad pan enillodd y wlad ddibyniaeth lawn ar 1 Ionawr 1984 fel Brunei Darussalam (Brunei, "Preswylfa Heddwch").

Baneri Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Safonau Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Ei Mawrhydi'r Swltan ei safon bersonol mewn melyn lle mae'r arwyddlun brenhinol ar gefndir coch yng nghanol yr ystondord.[5]

Mae safon Ei Mawrhydi y Raja Isteri yn felyn golau gyda'r arwyddlun brenhinol ar gefndir coch yng nghanol yr ystondord.

Mae gan y Perdana Wazir hefyd ystonodord bersonol a roddwyd iddo gan Ei Mawrhydi'r Swltan. Mae'r ystonodord yn arosodedig gwyn yng nghanol y faner gyda'r arwyddlun brenhinol mewn melyn golau. Cefnogir yr arwyddlun gan "Si Kikil", argyfwng croes-groes.

Mae ystondordau personol Pengiran Bendahara, Digadong Pengiran, Pengiran Pemancha a Pengran Temenggong yn wyn, gwyrdd, du a choch yn eu tro.

Dyfarnodd y Swltan faneri personol hefyd i swyddogion is, o'r enw Pengiran Cheteria, yn ogystal â Phengiran a deiliaid eraill. Ymhlith y Pengiran a'r urddasolion a awdurdodwyd i ddefnyddio ystondord personol mae:

  1. Disgynyddion y Swltan i'r bedwaredd genhedlaeth,
  2. Darnau o Wazir i'r drydedd genhedlaeth,
  3. Disgynyddion Cheteria i'r ail genhedlaeth,
  4. Menteri i Damong.

Mae eu ystonodordau personol yn cynnwys yr arwyddlun brenhinol yn goch ar gefndir melyn yng nghornel darian y faner.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.crwflags.com/fotw/flags/bn.html
  2. The National Geographic Magazine. National Geographic Society. 1935. p. 384. 
  3. The Flag Bulletin. Flag Research Center. 1984. p. 76. 
  4. Annual Report: Brunei. H.M. Stationery Office. 1946. p. 91. 
  5. (Saesneg) "The Brunei Darussalam State Flag - Page 2". Information Department, Prime Minister's Office. http://www.information.gov.bn/VER2/content/view/594/188/1/9/. Adalwyd 23 Maart 2012.