At the Grave of Henry Vaughan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Soned gan Siegfried Sassoon yw "At the Grave of Henry Vaughan". Ymwelodd Sassoon â bedd Vaughan ac ysgrifennodd y gerdd yn Awst 1924.[1]

Yn Awst 1924 ymwelodd Sassoon (8 Medi 1886 – 1 Medi 1967) â bedd Vaughan (1621–1695) yn Eglwys y Santes Ffraid, Llansantffraed Tal-y-bont ar Wysg, yn ardal Brycheiniog, de Powys. Roedd ar ei ffordd i Maenorbŷr. Treuliodd y noson yn Aberhonddu, yng Gwesty Castell. Ysbrydolwyd ef gan yr ymweliad i ysgrifennu un o'i gerddi gorau a mwyaf poblogaidd.

Yn 2014 gwariwyd £10,000 ar adnewyddu'r bedd. Mae'r gerdd yn agor gyda'r geiriau:

Above the voiceful windings of a river
An old green slab of simply graven stone...

sy'n cyfeirio at Afon Wysg a bywyd syml Vaughan uwchben lleisiau'r byd. Mae'n gorffen gyda'r pennill:

Here faith and mercy, wisdom and humility
(Whose influence shall prevail for evermore)
Shine. And this lowly grave tells Heaven's tranquillity
And here stand I, a suppliant at the door.

Er bod dros 200 mlynedd rhwng y ddau fardd, ceir nifer o bethau cyffredin rhyngddynt: roedd y ddau wedi eu dal yng nghanol rhyfel nad oeddent yn dymuno bod yn rhan ohono. Roedd y ddau'n caru'r wlad yn angerddol, yn uchelwyr gwledig, y hoff o geffylau ac roedd gan y ddau frawd y lawddyd yn y rhyfel. Yn achos Vaughan: y Rhyfel Cartref a bu Sassoon yn filwr gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Henry Vaughan[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Henry a'i efaill Thomas yn Sgethrog, tua milltir a hanner i'r gogledd o Lansantffraed ac roeddent yn siarad Cymraeg. Ystyrir Henry'n fardd da a sgwennai am ei gariad at ardal Llansantffraed. Ychydig a sgwennwyd amdano hyd at 1841 pan gyhoeddwyd blodeugerdd o'r enw Gems of Sacred Poetry gan Edward Farr, a gynhwysodd saith o gerddi Vaughan.[2]

Roedd Thomas, ei frawd a'r yr athronydd, a fu'n offeiriad Eglwys y Santes Ffraid yn Llansantffraed, yn astudio meddygaeth ar yr un pryd. Roedd yn synnu'n fawr nad oedd llawer o feddygon yng Nghymru. Fe'i taflwyd o'r plwyf yn 1650 dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru oherwydd ei gydymdeimlad â'r Brenin. Claddwyd Henry Vaughan ym mynwent eglwys Llansantffraed.[3] Bu'n darllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin. Fel ei frawd, dechreuodd weithio fel meddyg. Ysgrifennodd Katherine Philips gerdd iddo hefyd.

Siegfried Sassoon[golygu | golygu cod y dudalen]

Bardd a nofelydd Saesneg oedd Sassoon a anwyd ym Matfield, Caint, yn fab i'r cerddor Alfred Ezra Sassoon a'r cerflunydd Theresa (nee Thornycroft). Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhengoedd y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, ac adlewyrchir ei heddychiaeth yn ei gerddi. Roedd yn ffrind i'r beirdd Robert Graves, Wilfred Owen ac Edmund Blunden. Enillodd y Wobr James Tait Black am ei lyfr Memoirs of a Fox-Hunting Man ym 1928.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa (Saesneg). Adalwyd 1 Hydref 2016
  2. poetryfoundation.org; 'Henry Vaughan'; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. bbc.co.uk adalwyd 1 Tachwedd 2014