Ffraid (santes)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Santes Ffraid

Roedd y Santes Ffraid neu Brîd (Gwyddeleg: Naomh Bhríde neu Brigit, Saesneg: Bridget) (fl. 451 – 525) yn lleian ac abades o Iwerddon. Ystyrir hi yn un o nawdd-saint Iwerddon gyda Padrig a Colum Cille. Mae nifer o eglwysi yng Nghymru hefyd wedi eu cysegru iddi.

Croes gwellt Brid o Cil Dara

Y buchedd cynharaf yw Vita Brigitae gan Cogitosus, gwaith y credir ei fod yn dyddio i tua 650. Yn ôl traddodiad ganed Ffraid yn Faughart ger Dundalk, Swydd Louth. Roedd ei thad, Dubhthach, yn bagan, tra'r oedd ei mam, Brocca, yn gaethferch Bictaidd oedd wedi ei bedyddio gan Sant Padrig. Mae hanes amdani, pan yn blentyn, yn gwerthu cleddyf gwerthfawr ei thad gan defnyddio yr arian a cafodd i bwydo tlodion a mabwysiadodd hi fel nawdd-santes y Mudiad Heddwch yn Iwerddon yn ailhaner y 20g. Gelwir Brîd weithiau yn 'Mair y Gaeliaid' yn Iwerddon. Mae traddodiad amdani yn dweud eu fod hi yn arfer gwneud croes allan o wellt er mwyn esbonio am groeshoeliad Iesu i'r werin. Yn Iwerddon mae hi'n nawdd-santes y tân a'r aelwyd.

Mynnodd Ffraid fynd yn lleian, a chredir iddi sefydlu ei chymuned gyntaf yn Clara, Swydd Offaly. Tua 470 sefydlodd cymuned Cristnogol, i fynaich a lleianod, yn Kildare. Daeth Abaty Kildare yn enwog trwy Ewrop. Bu farw yno tua 525 a'i chladdu ger yr allor, ond yn ddiweddarch symudwyd ei gweddillion.

Mae chwedl poblogaidd yn dweud fod hi oedd y byd-wraig a cynorthwyodd Mair wrth iddi esgor a'r Iesu. Ni all y Brîd hon fod Brîd o Cildara ond efallai y mae yn tystiolaeth i gymorth arhoddwyd gan santesau i famau oedd yn esgor.

Ystyrir Ffraid fel nawdd-santes Trearddur ar Ynys Môn, lle mae chwedl amdani yn croesi'r môr o Iwerddon ar dywarchen. Wedi iddi lanio tyfodd y dywarchen yn fryncyn, ac adeiladodd hi gapel arno; gelwir y safle yn Tywyn y Capel. Ceir gweddillion mynwent Gristionogol gynnar yma. Ceir yr yn chwedl yn gysylltiedig ag aber Afon Conwy, lle ceir un o'r pentrefi o'r enw Llansanffraid, sef Llansanffraid Glan Conwy. Ceir hefyd Llansanffraid-ym-Mechain ym Mhowys a Llansanffraid Glyn Ceiriog, a hefyd Sain Ffrêd yn Sir Benfro a Llansanffraid-ar-Elai ym Mro Morgannwg.

Sylwodd Emrys George Bowen at y ffaith fod Ffraid yw'r unig un o'r saint Celtaidd gyda llefydd wedi cysegru iddi ar draws Cymru, yn lle cyfuno'r cysegriadau i gyd mewn un ardal. Awgrymodd dau reswm am hwn. Efallai daeth nifer o disgyblion Brîd i Gymru a daeth cysegriad i Brîd yn cyfysyr i gysegriad i un o'r santesau Gwyddelig. Efallai fod mwy nag un santes o'r un enw. [1]Mae Brîd yn mwy cyffredin yn y dde a Ffraid yn y gogledd. Ar benrhyn Llŷn ac yn ardal Llansanffraid Glan Conwy mae traddodiad leol yn cyfeirio at Ffraid fel nawdd-santes pysgotwyr; teyrned i santes leol efallai. Meddai Hencken fod hanesion a htraddodiadau cysylltiedig a Brîd o Cildara, a rhai am Brigitta o Sweden wedi cymysgu i'r fath raddau gyda santes, neu santesau brodorol fel nid oes modd eu gwahanu.[2]

Cysylltiad gyda'r Ffraid Baganaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd ei bod yn rhannu'i henw a'i gŵyl gyda'r dduwies Baganaidd Brigid, mae rhai pobl o'r farn fod y Santes Ffraid yn greadigaeth a seilir yn rhannol neu yn gyfan gwbl ar y ffigur Paganaidd, er mwyn trosi'r Celtiaid i Gristnogaeth; roedd y dröedigaeth grefyddol o ffigurau a thraddodiadau Paganaidd yn arfer cyffredin. Sut bynnag, y mae'n bosibl y cafodd yr ŵyl ei henwi ar ei hôl hi. Cafodd cenhadon Cristionogol wrthwynebiad wrth bregethu'r Efengyl yn Iwerddon.

Mewn Neo-baganiaeth, caiff Ffraid ei dathlu ar adeg pan yw'r haul yn tyfu a gorfod cael ei annog trwy fisoedd o aeaf oer. Gŵyl y Canhwyllau (Imbolc) yw'r ŵyl Baganaidd ar gyfer y dathliad hwn, a dathlir ef gan danio canhwyllau i symboleiddio'r broses bwysig hon. Cafodd ei gŵyl ei hychwanegu i'r calendr i gyd-ddigwydd gyda Gŵyl Fair y Canhwyllau, dydd pan mae Catholigion yn dathlu gwŷl puredigaeth y Forwyn Fair, a ddathlir gyda seremoni mewn golau cannwyll.

Eglwysi ac enwau llefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Bae Sain Ffraid 51°47′02″N 5°12′25″W / 51.784°N 5.207°W / 51.784; -5.207 Sir Benfro Q1426232
2 Bridstow 51°55′12″N 2°36′18″W / 51.92°N 2.605°W / 51.92; -2.605 Swydd Henffordd Q3784039
3 Church of Saint Bridget 51°45′11″N 5°11′06″W / 51.753128°N 5.1850138°W / 51.753128; -5.1850138 Sir Benfro Q29496806
4 Church of Saint Bridget, Carrog 52°58′56″N 3°19′31″W / 52.982085°N 3.3251748°W / 52.982085; -3.3251748 Sir Ddinbych Q29493285
5 Church of St Bridget 51°36′08″N 2°49′36″W / 51.602199°N 2.8266908°W / 51.602199; -2.8266908 Caerwent Q29500193
6 Church of St Bridget 53°18′11″N 3°25′04″W / 53.303°N 3.41784°W / 53.303; -3.41784 Diserth Q17741403
7 Church Of St Bridget
Stbridgetschurchbrean.JPG
51°17′54″N 3°00′36″W / 51.2983°N 3.00999°W / 51.2983; -3.00999 Q1752483 Q17553409
8 Church Of St Bridget 51°27′48″N 3°35′36″W / 51.4632°N 3.59329°W / 51.4632; -3.59329 Saint-y-brid Q17744432
9 Church Of St Bridget
St Bridget's Church and Church Cottage - geograph.org.uk - 1340809.jpg
50°48′09″N 4°26′26″W / 50.8025°N 4.4406°W / 50.8025; -4.4406 Torridge Q17527433
10 Church Of St Bridget 50°41′08″N 4°06′20″W / 50.6855°N 4.1056°W / 50.6855; -4.1056 Bridestowe Q17537626
11 Eglwys Saint Bridget
St Bridget's Church, Wavertree.jpg
53°23′48″N 2°56′03″W / 53.3966°N 2.9341°W / 53.3966; -2.9341
53°23′48″N 2°56′03″W / 53.3966°N 2.93414°W / 53.3966; -2.93414
Lerpwl Q5117032
12 Eglwys St Bridget
Church of St Bridget, Chelvey, from south-west.jpg
51°24′43″N 2°46′04″W / 51.4119°N 2.7678°W / 51.4119; -2.7678 Gogledd Gwlad yr Haf Q5117379
13 Eglwys St Bridget, Brigham
Brigham-church.jpg
54°39′54″N 3°25′08″W / 54.6651°N 3.4189°W / 54.6651; -3.4189 Q7592717
14 Eglwys St Bridget, Calder Bridge
St Bridget's Church, Beckermet.jpg
54°26′27″N 3°28′44″W / 54.4407°N 3.479°W / 54.4407; -3.479 Ponsonby, Cumbria Q7592718
15 Eglwys y Santes Ffraid
St Bridget's church, Brean - geograph.org.uk - 1298032.jpg
Gwlad yr Haf Q28451049
16 Eglwys y Santes Ffraid
St Bride's Church, Llansantffraed, Monmouthshire.jpg
51°47′06″N 2°55′59″W / 51.785°N 2.93319°W / 51.785; -2.93319 Sir Fynwy Q17744109
17 Eglwys y Santes Ffraid
Skenfrith church.jpg
51°52′44″N 2°47′30″W / 51.879°N 2.79155°W / 51.879; -2.79155 Sir Fynwy Q7587367
18 Glyn Ceiriog
Glynceiriog.jpg
52°56′16″N 3°10′59″W / 52.9377°N 3.18305°W / 52.9377; -3.18305
52°55′56″N 3°11′02″W / 52.9322°N 3.1839°W / 52.9322; -3.1839
Bwrdeistref Sirol Wrecsam Q5572835
19 Kilbride, Swydd Westmeath 53°26′32″N 7°19′40″W / 53.44222222°N 7.32777778°W / 53.44222222; -7.32777778 Swydd Westmeath Q22084050
20 Llansanffraid Glan Conwy
Who has stolen the river at Glan Conwy? - geograph.org.uk - 1917182.jpg
53°16′05″N 3°47′46″W / 53.268°N 3.796°W / 53.268; -3.796 Bwrdeistref Sirol Conwy Q5566589
21 Llansantffraed (Aberhonddu) 51°54′07″N 3°16′37″W / 51.902°N 3.277°W / 51.902; -3.277 Powys Q6661758
22 Llansantffraid (cymuned) Powys Q13129671
23 Llansantffraid, Ceredigion 52°17′06″N 4°10′59″W / 52.285°N 4.183°W / 52.285; -4.183
52°17′06″N 4°10′59″W / 52.285°N 4.1830555555556°W / 52.285; -4.1830555555556
Ceredigion Q6661753
24 Parish Church Of St Bridget 51°32′06″N 3°01′18″W / 51.5351°N 3.02163°W / 51.5351; -3.02163 Q17741341
25 Sain Ffrêd 51°45′11″N 5°11′06″W / 51.753°N 5.185°W / 51.753; -5.185 Sir Benfro Q7592714
26 Sint-Brigidabron
Sint-Brigidabron.jpg
50°46′17″N 5°48′27″E / 50.77126°N 5.80748°E / 50.77126; 5.80748
50°46′16″N 5°48′28″E / 50.77123°N 5.8078°E / 50.77123; 5.8078
Limburg Q2690389
27 St Bridget's Church, West Kirby
St Bridget's, West Kirby - geograph.org.uk - 36643.jpg
53°22′07″N 3°10′35″W / 53.3687°N 3.1763°W / 53.3687; -3.1763 Q7592720
28 St Bridget's Kirk
St. Bridget's Kirk.jpg
56°02′23″N 3°20′04″W / 56.0398°N 3.3345°W / 56.0398; -3.3345 Dalgety Bay Q1836683
29 St. Brigiden
Stbrigiden koeln woensam holzschnitt 1531.png
50°56′18″N 6°57′40″E / 50.9384°N 6.96114°E / 50.9384; 6.96114 Altstadt-Nord Q1549854
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
  1. Bowen, E.G. The Settlements of the Saints of Wales, Gwasg Prifysgol Cymru
  2. Hencken, E.R. 1987, Traditions of the Welsh Saints, Brewer