Arllechwedd Isaf
Hen eglwys Llangelynnin | |
Math | cwmwd, gwrthrych daearyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Esgobaeth Bangor, Arllechwedd |
Sir | Gwynedd, Arllechwedd |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Arllechwedd Uchaf, Nant Conwy |
Cyfesurynnau | 53.2167°N 3.8167°W |
Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd, gydag Arllechwedd Uchaf a Nant Conwy, oedd Arllechwedd Isaf. Fel gweddill y cantref, roedd yn rhan o Esgobaeth Bangor ac yn parhau felly hyd heddiw.
Roedd y cwmwd yn cynnwys rhan ogleddol Dyffryn Conwy a chymoedd dwyreiniol y Carneddau. Ffiniai ag Arllechwedd Uchaf i'r gorllewin, gyda'r ffin yn rhedeg o benrhyn y Penmaen-bach (rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy heddiw) yn y gogledd i'r Creigiau Gleision ger Capel Curig yn y de. I'r de ffiniai â chwmwd Nant Conwy gyda llinell y ffin yn rhedeg o'r Creigiau Gleision trwy Lyn Cowlyd ac i lawr i Ddyfryn Conwy ger Abaty Maenan. Roedd yn cynnwys llecyn o dir yr ochr arall i'r afon (plwyf Maenan), ond fel arall dynodai afon Conwy'r ffin â chantref Rhos yn y Berfeddwlad.
Roedd canolfan bwysig yn Aberconwy, safle'r abaty Sistersiaidd a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr (Abaty Aberconwy).
Roedd fferis bwysig ger Tal-y-Cafn a Threfriw. Cysylltir caer Rufeinig Caerhun â Rhun ap Maelgwn Gwynedd. Rhedai ffordd Rufeinig o Gaerhun dros Fwlch y Ddeufaen i Abergwyngregyn; dyma'r brif dramwyfa yn yr Oesoedd Canol hefyd.
Plwyfi
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynonellau a darllen pellach
[golygu | golygu cod]- A. D. Carr, 'Medieaval Administrative Divisions', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1974)
- E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)
- Herbert L. North, The Old Churches of Arllechwedd (1906)