Llyn Cowlyd
Llyn Cowlyd o Fwlch Cowlyd | |
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.13°N 3.92°W |
Rheolir gan | RWE Generation UK PLC |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Llyn yn Sir Conwy, gogledd Cymru, yw Llyn Cowlyd. Fe'i lleolir yng ngogledd Eryri yn rhan ddeheuol y Carneddau, ar uchder o 1165 troedfedd uwchben lefel y môr.
Mae'n llyn hir, cul, sydd ar echel o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain. Ei hyd yw tua 3 km. Mae'n gronfa dŵr gydag argae yn ei ben gogleddol, sy'n cyflenwi dŵr i ardaloedd Conwy ac mor bell i ffwrdd â Bae Colwyn. Gorwedd y llyn rhwng Pen Llithrig-y-wrach (2622') i'r gorllewin a'r Creigiau Gleision i'r dwyrain. Mae Bwlch Cowlyd yn gorwedd rhwng y ddau fynydd hyn, uwch ben de-orllewinol y llyn. Mae'r llethrau o bobtu i Lyn Cowlyd yn syrth a garw. O ben gogleddol y llyn mae Afon Ddu yn rhedeg o lifddor yr argae i lawr i Ddyffryn Conwy a phentref Dolgarrog.
Roedd Llyn Dulyn yn un o'r llynnoedd y symudwyd y torgochiaid oedd yn Llyn Peris iddynt pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig.
Cafodd y bardd Gwilym Cowlyd (William John Roberts, 1828-1904) ei enw barddol ar ôl y llyn.
Mae modd cyrraedd y llyn ar droed o Drefriw neu o Gapel Curig.