Pen Llithrig y Wrach
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Pen Llithrig-y-wrach)
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Conwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 799 metr |
| Cyfesurynnau | 53.1423°N 3.9211°W |
| Cod OS | SH7162562293 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 180.3 metr |
| Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen Llithrig y Wrach, sir Conwy.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae Pen Llithrig y Wrach ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd, er bod Creigiau Gleision yr ochr arall i Lyn Cowlyd hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o'r Carneddau.
Llwybrau
[golygu | golygu cod]Gellir ei ddringo ar hyd llwybr sy'n cychwyn o Bron Heulog, ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Curig, neu gellir ei ddringo o'r gogledd-ddwyrain, o gyfeiriad Dolgarrog neu Tal-y-bont.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
