Ffwtsal

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Futsal)
Gêm futsal, Brasil v Ariannin, 2007

Mae ffwtsal[1][2][3] yn fath o bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar lain yr un maint â chwrt pêl-law ac sydd fel rheol o dan do ac ar lawr caled. Mae'n debyg i gêm pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-droed dan-do, pêl-droed y traeth, pêl-droed chwech neu saith-bob-ochr, a phêl-droed SUB.

Daw'r enw futsal ( Saesneg:  [fʊtsal]) fel gair cyfansawdd o'r Portiwgaleg futbol de salão[a] a Sbaeneg fútbol sala[b] (neu fútbol de salón) sy'n golygu "pêl-droed dan do".

Hanes[golygu | golygu cod]

Dyfeisiwyd ffwtsal yn strydoedd Montevideo yn y 1930au yn dilyn llwyddiant Wrwgwái yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Roedd Juan Carlos Ceriani, a oedd yn athro, a oedd am addasu pêl-droed ar gyfer chwarae dan do mewn clybiau YMCA. Yn y degawdau dilynol, ymledodd y gêm i weddill America Ladin ac yna i Ewrop.

Ym 1989, cynhaliwyd pencampwriaeth cyntaf y byd gan FIFA, ac ers 1992 cynhaliwyd pencampwriaethau'r byd bob pedair blynedd. Yn ogystal, ceir cynghreiriau proffesiynol mewn gwahanol fannau yn y byd, gan gynnwys Sbaen a'r Eidal.

Rheolau[golygu | golygu cod]

Cae futsal ar ben to, Tokyo, Japan.

Fel arfer mae ffwtsal yn cael ei chwarae dan do ar gwrt neu faes sydd yr un maint â pêl-law. Lleiafswm y maint yw 25m × 16m, mwyafswm yw 42m × 25m. Os yw'r bêl yn mynd allan o chwarae, mae'r gêm yn ail-dechrau gyda chic ail-gychwyn o'r ochr. Nid oes rheol cam sefyll. Mae maint y gôl yr un maint â gôl mewn gêm pêl-law.

Mae'r bêl a ddefnyddir yn ffwtsal yn bêl arbennig i'r gêm nad sydd yn bownsio cymaint â phêl bêl-droed arferol. Mae'r bêl yn pwyso'r un fath â phêl pêl-droed rheolaidd, ond mae ganddo bêl fewnol feddalach sy'n cynyddu rheolaeth y bêl.

Mae tîm ffwtsal yn cynnwys un gôl-geidwad a phedwar chwaraewr maes. Ceir dwy hanner i bob gêm, sy'n para 20 munud yr un gydag egwyl o 15 munud.

Ffwtsal yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Mae ffwtsal yn gêm gymharol newydd i Gymru (a Phrydain). Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm ffwtsal genedlaethol. Enillodd y tîm Gwpan gyntaf Ffwtsal Gwledydd Prydain ac Iwerddon ('Home Nations') yn 2016.[4]

Bu gêm gyntaf tîm ffwtsal cenedelaethol Cymru yn erbyn Andorra ar 2 Medi 2012. Yn anffodus collodd Cymru 2-1.

Ceir hefyd Cwpan Ffwtsal CBDC. Enillwyd y Gwpan gyntaf yn 2011 gan dîm ffwtsal C.P.D. Y Seintiau Newydd[5] Er hynny mae timau Prifysgol Caerdydd, C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Wrecsam wedi ennill y gwpan.

Tîm ffwtsal Prifysgol Caerdydd oedd unig gynrychiolwyr Cymru ym Mhencampwriaeth Cynghrair Ffwtsal UEFA a gynhaliwyd yn 2018-19.[6]

Enillwyr Pencampwriaeth Byd Ffwtsal[golygu | golygu cod]

Pencampwriaeth Ffwtsal y Byd (Cwpan y Byd Ffwtsal) yw'r bencampwriaeth tîm pwysicaf i unrhyw dîm cenedlaethol. Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1980 ac yna yn 1992 ac wedi hynny, pob pedair mlynedd.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Cwpan y Byd Gwlad Cynnal Aur Arian Efydd
CyB Ffwstal Dynion 1989 Yr Iseldiroedd Brasil Brasil Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Unol Daleithiau America UDA
CyB Ffwtsal Dynion 1992 Hong Cong Brasil Brasil Unol Daleithiau America UDA Sbaen Sbaen
CyB Ffwtsal Dynion 1996 Sbaen Brasil Brasil Sbaen Sbaen Rwsia Rwsia
CyB Ffwtsal Dynion 2000 Gwatemala Sbaen Sbaen Brasil Brasil Portiwgal Portiwgal
CyB Ffwtsal Dynion 2004 Taiwan Sbaen Sbaen Yr Eidal Yr Eidal Brasil Brasil
CyB Ffwtsal Dynion 2008 Brasil Brasil Brasil Sbaen Sbaen Yr Eidal Yr Eidal
CyB Ffwtsal Dynion 2012 Gwlad Tai Brasil Brasil Sbaen Sbaen Yr Eidal Yr Eidal
CyB Ffwtsal Dynion 2016 Colombia Yr Ariannin Yr Ariannin Rwsia Rwsia Iran Iran

Nodynau[golygu | golygu cod]

  1. Portiwgaleg Brasilaidd: [fu.t͡ʃiˈbɔw d͡ʒi saˈlɐ̃w̃], Portiwgaleg Ewropeaidd: [fu.tɨˈbɔl sɐˈlɐ̃w̃]
  2. ynganu: [ˌfudbol ˈsala]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/114392-cymru-i-gynnal-pencampwriaeth-ffwtsal-uefa
  2. https://www.bangor.ac.uk/sites/default/files/2021-10/Prospectws-Cymraeg-2022.pdf
  3. https://campaigns.cardiffmet.ac.uk/documents/hr/3page-strategic-plan_cym.pdf
  4. http://www.faw.cymru/en/news/wales-ready-defend-futsal-crown/
  5. http://www.faw.cymru/en/news/2018-faw-futsal-cup/
  6. https://www.uefa.com/uefafutsalchampionsleague/news/newsid=2563540.html