Dindaethwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (''din'' 'caer neu amddiffynfa' + ''Daethwy''). Ceir yr amrywiadau ''Tindaethwy'' a ''Tyndaethwy'' hefyd. Llwyth [[Celtiaid|Celtaidd]] lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle [[Porthaethwy]] yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa ''Dinas'', plwyf [[Llandysilio]], fu canolfan y llwyth. |
Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (''din'' 'caer neu amddiffynfa' + ''Daethwy''). Ceir yr amrywiadau ''Tindaethwy'' a ''Tyndaethwy'' hefyd. Llwyth [[Celtiaid|Celtaidd]] lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle [[Porthaethwy]] yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa ''Dinas'', plwyf [[Llandysilio]], fu canolfan y llwyth. |
||
Ymddengys fod y gair ''Dindaethwy'' yn enw [[Cynan Dindaethwy ap Rhodri|Cynan Dindaethwy]], brenin Gwynedd ar ddechrau'r |
Ymddengys fod y gair ''Dindaethwy'' yn enw [[Cynan Dindaethwy ap Rhodri|Cynan Dindaethwy]], brenin Gwynedd ar ddechrau'r 9g, yn deillio o'r ffaith ei fod yn frodor o'r rhan yma o Ynys Môn. |
||
==Plwyfi== |
==Plwyfi== |
Fersiwn yn ôl 16:17, 26 Ebrill 2017
Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn nwyrain Môn.
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Thraeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt dwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12g, sef Priordy Penmon.
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmwd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.
Yr enw
Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (din 'caer neu amddiffynfa' + Daethwy). Ceir yr amrywiadau Tindaethwy a Tyndaethwy hefyd. Llwyth Celtaidd lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle Porthaethwy yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa Dinas, plwyf Llandysilio, fu canolfan y llwyth.
Ymddengys fod y gair Dindaethwy yn enw Cynan Dindaethwy, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 9g, yn deillio o'r ffaith ei fod yn frodor o'r rhan yma o Ynys Môn.
Plwyfi
Roedd Dindaethwy yn cynnwys y plwyfi eglwysig canlynol:
- Llanbedr Mathafarn Wion
- Llandegfan
- Llandysilio
- Llanddona
- Llanddyfnan
- Llan-faes (creuwyd plwyf Biwmares yn ddiweddarach allan o ran o'r plwyf)
- Llanfair Mathafarn Eithaf
- Llanfair Betws Geraint
- Llanfair Pwllgwyngyll
- Llanfihangel Dinsilwy (aeth yn rhan o blwyf Llaniestyn)
- Llangoed
- Llaniestyn
- Llanredifel
- Llansadwrn
- Penmon
Cyfeiriadau
- A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
- Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)