Dewi Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
enwau ac eglwysi sy'n dwyn ei henw |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â [[Sant Padrig]] ar [[Ynys Dewi]], ar arfordir [[Sir Benfro]] ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn [[Llanddewi Brefi]] gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl [[Rhigyfarch]] a llawysgrifau [[Gwyddeleg|Gwyddelig]] o'r [[9g]], bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589<ref name="ReferenceA"/> - a dyma'r dyddiad y dethlir [[Dydd Gŵyl Dewi|Gŵyl Ddewi]] bob blwyddyn. |
Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â [[Sant Padrig]] ar [[Ynys Dewi]], ar arfordir [[Sir Benfro]] ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn [[Llanddewi Brefi]] gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl [[Rhigyfarch]] a llawysgrifau [[Gwyddeleg|Gwyddelig]] o'r [[9g]], bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589<ref name="ReferenceA"/> - a dyma'r dyddiad y dethlir [[Dydd Gŵyl Dewi|Gŵyl Ddewi]] bob blwyddyn. |
||
==Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Dewi== |
|||
{{Wikidata list |
|||
|sparql=#defaultView:Map |
|||
SELECT ?item ?coor ?image ?itemLabel |
|||
WHERE |
|||
{ |
|||
?item wdt:P825\u007Cwdt:P138 wd:Q331697 . |
|||
OPTIONAL { ?item wdt:P625 ?coor } |
|||
OPTIONAL { ?item wdt:P18 ?image } |
|||
SERVICE wikibase:label { bd:serviceParam wikibase:language "cy,en" } |
|||
} |
|||
|links=text |
|||
|sort=label |
|||
|columns=number:#,label:Eglwys neu Gymuned,P18:Delwedd,P625:Cyfesurynnau,P131:Lleoliad,item:Wicidata |
|||
|thumb=128 |
|||
}} |
|||
{{Wikidata list end}} |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 07:54, 4 Mawrth 2017
Dewi Sant (bl. 6g; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, leian o'r enw Non oedd ei fam, a dresiwiyd gan Sant, Brenin Ceredigion.[2] Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn flynyddol ar 1 Mawrth. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg Llyfr Ancr Llanddewibrefi (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen) ei bregeth olaf, lle dywedodd, "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."
Hanes a thraddodiad
Yn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Gapel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sant (neu Sandde), brenin Ceredigion.
Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.[angen ffynhonnell] Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.
Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant.
Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo'n hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'r paganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ôl un awdur o'r 9g.
Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn Llanddewi Brefi gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl Rhigyfarch a llawysgrifau Gwyddelig o'r 9g, bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589[1] - a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.
Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Dewi
Rhestr Wicidata:
Gweler hefyd
- Baner Dewi Sant
- Capel Dewi (sawl lle)
- Llanddewi (sawl lle)
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Dewi Sant.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru tud 288;] Gwasg Prifysgol Cymru; Prif Olygydd: John Davies.
|