Terry Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanesydd: Newid roedd i fod
Llinell 51: Llinell 51:


==Hanesydd==
==Hanesydd==
Yn hanesydd cynabyddeig, mae Jones wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac wedi cyflwyno rhaglenni dogfen ar yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]] a’r oes glasurol. Mae ei waith yn aml yn herio agweddau poblogaidd tuag at hanes: er enghraifft mae ''Terry Jones' Medieval Lives'' (2004) yn dadlau roedd yr Oesoedd Canol yn fwy soffistigedig nag y credir yn gyffredinol. Tra mae ''Terry Jones' Barbarians'' (2006) yn cyflwyno'n bositif gwreiddiad y bobloedd a oresgynnwyd gan y Rhufeinwyr, wrth feirniadu'r Rhufeinwyr am fod y gwir 'Barbariad' a ormesodd a ddifethwyd gwarediadau uwch.<ref>https://www.youtube.com/channel/SWs-Gqsjg9y-8</ref>
Yn hanesydd cynabyddeig, mae Jones wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac wedi cyflwyno rhaglenni dogfen ar yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]] a’r oes glasurol. Mae ei waith yn aml yn herio agweddau poblogaidd tuag at hanes: er enghraifft mae ''Terry Jones' Medieval Lives'' (2004) yn dadlau fod yr Oesoedd Canol yn fwy soffistigedig nag y credir yn gyffredinol. Tra mae ''Terry Jones' Barbarians'' (2006) yn cyflwyno'n bositif gwreiddiad y bobloedd a oresgynnwyd gan y Rhufeinwyr, wrth feirniadu'r Rhufeinwyr am fod y gwir 'Barbariad' a ormesodd a ddifethwyd gwarediadau uwch.<ref>https://www.youtube.com/channel/SWs-Gqsjg9y-8</ref>


Mae ''Chaucer's Knight: The Portrait of a Medieval Mercenary'' (1980) yn cynnig agwedd gwahannol ar ''The Knight's Tale'' gan [[Geoffrey Chaucer]]. Yn lle fod yn gristion da mae Jones yn dadlau roedd y marchog yn lladdwr creulon.
Mae ''Chaucer's Knight: The Portrait of a Medieval Mercenary'' (1980) yn cynnig agwedd gwahannol ar ''The Knight's Tale'' gan [[Geoffrey Chaucer]]. Yn lle fod yn gristion da mae Jones yn dadlau roedd y marchog yn lladdwr creulon.

Fersiwn yn ôl 22:18, 24 Ionawr 2016

Terry Jones
GalwedigaethActor, difyrrwr, awdur

Actor, awdur a chomedïwr yw Terence Graham Parry Jones (ganwyd 1 Chwefror 1942). Fel rhan o'r tîm comedi Monty Python, roedd yn gyfrifol am gynhyrchu nifer o sgetsys gyda'i gyd-awdur, Michael Palin. Aeth ymlaen i gyfarwyddo Monty Python and the Holy Grail (1975) a nifer o ffilmiau eraill.

Enwyd yr asteroid 9622 Terryjones ar ei ôl.

Mae Terry Jones hefyd yn academydd cydnabyddedig ar hanes y canol oesoedd. Yn awdur nifer o lyfrau ac wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu ar y pwnc.[1]

Cefndir Cymreig

Er iddo adael Cymru i fyw yn Surrey yn ifanc iawn, mae Terry Jones wedi datgan yn aml ei fod yn falch o'i gefndir Cymreig.

I bitterly didn’t want to leave and hated being transported to the London suburbs. I always regretted that and was always saying ‘I’m Welsh’.[2]

Yn 2009 cymerodd ran mewn rhaglen BBC Wales Coming Home am ei gysylltiadau teuluol Cymreig. Yn 2008 gyflwynodd cyfres teledu Terry Jones' Great Map Mystery yn dilyn map a gyhoeddwyd ym 1675 ar draws Cymru, yn datgelu roedd y map yn rhan o gynllwyn gwleidyddol.[3]

Bywyd cynnar

Ganwyd Terry Jones ym Mae Colwyn; "Bodchwil" oedd enw cartre'r teulu. Symudodd y teulu i Surrey pan oedd Terry yn 4½. oed.[4] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Guildford,[5] wedyn yn St Edmund Hall, Prifysgol Rhydychen lle cofrestrwyd ef ar gyfer Saesneg ond "crwydrodd mewn i Hanes".[6]

Hiwmor teledu

Troed enwog Monty Python

Ymddangosodd yn Twice a Fortnight (1967) gyda Michael Palin, Graeme Garden a Bill Oddie, ac mewn rhaglen deledu The Complete and Utter History of Britain (1969). Ymddangosodd hefyd ar y rhaglen deledu gomedi arloesol i blant Do Not Adjust Your Set (1967–69) gyda Palin, Eric Idle a David Jason. Ysgrifennodd sgriptiau ar gyfer The Frost Report a nifer o raglenni eraill David Frost ar deledu Lloegr.

Roedd gan Jones ddiddordeb mewn dyfeisio fformat newydd ar gyfer rhaglen gomedi a arweiniodd i greu Monty Python's Flying Circus yn 1969 ar y cyd gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle a Michael Palin.

Yn seiliedig yn fras ar raglen sgetshis bu'r sefyllfaoedd Monty Python yn llifo tu hwnt i unrhyw synnwyr gan dorri gyda realiti i wthio'r hiwmor i eithafion swrreal. Cymerodd Jones ddiddordeb mawr yn y proses o gyfarwyddo'r rhaglenni yn mynd ymlaen i fod yn gyfarwyddwr ffilmiau.

O'i gyfraniadau fel perfformiwr, mae ei ddehongliadau o ferched canol-oed yn aros yn y cof. Yn cydweithio gyda Michael Palin, roedd eu sgriptiau Python yn dueddol o fod yn ddamcaniaethol ac absẃrd. Mae sgetshis nodweddiadol o'i steil yn cymryd y hiwmor i afrealrwydd afresymegol. Er enghraifft yn y Summarise Proust Competition mae Jones yn cymryd y rhan cyflwynydd sioe cystadleuaeth seimllyd i grynhoi gwaith athronyddol dwys Marcel Proust mewn 15 eiliad, eu sgôr yn cael eu cofnodi ar y 'Proustometer'.[7]

Mae ei basiwn am hanes hefyd yn amlygu ei hun trwy Monty Python gyda’r Oesoedd Canol a’r oes Rufeinig yn themâu cyson.

Cyfarwyddo ffilmiau

Poster Ffilm Wreiddiol

Bu Jones yn gyd-gyfarwyddo Monty Python and the Holy Grail (1975) gyda Terry Gilliam, ac yn gyfafarwyddwr unigol Monty Python's Life of Brian (1979) a Monty Python's The Meaning of Life (1983) yn datblygu steil gweledol yn weddu gyda'r hiwmor. Mae ei ffilmiau ddiweddarch yn cynnwys The Wind in the Willows, (1996).

Awdur

Cydysgrifennodd Ripping Yarns (1976-9), cyfres BBC gyda Palin, a sgript Labyrinth (1986) er i'w ddrafftiau cael eu haddasu sawl tro cyn ffilmio. Mae Jones hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr plant yn cynnwys Fantastic Stories, The Beast with a Thousand Teeth, a chasgliad o gerddi digrif The Curse of the Vampire's Socks.

Mae Jones wedi ysgrifennu nifer o ddarnau golygyddol i The Guardian, The Daily Telegraph a The Observer yn condemio rhyfel Irac. Cyhoeddwyd llawer o'r erthglau golygyddol yma mewn casgliad Terry Jones's War on the War on Terror.

Lanswyd ei lyfr Evil Machines ar lein gan y cyhoeddwyr cyllid tyrfa (crowdfunding) yn 2011, Jones yn cefnogi sefydlu'r fenter.[8]

Hanesydd

Yn hanesydd cynabyddeig, mae Jones wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac wedi cyflwyno rhaglenni dogfen ar yr Oesoedd Canol a’r oes glasurol. Mae ei waith yn aml yn herio agweddau poblogaidd tuag at hanes: er enghraifft mae Terry Jones' Medieval Lives (2004) yn dadlau fod yr Oesoedd Canol yn fwy soffistigedig nag y credir yn gyffredinol. Tra mae Terry Jones' Barbarians (2006) yn cyflwyno'n bositif gwreiddiad y bobloedd a oresgynnwyd gan y Rhufeinwyr, wrth feirniadu'r Rhufeinwyr am fod y gwir 'Barbariad' a ormesodd a ddifethwyd gwarediadau uwch.[9]

Mae Chaucer's Knight: The Portrait of a Medieval Mercenary (1980) yn cynnig agwedd gwahannol ar The Knight's Tale gan Geoffrey Chaucer. Yn lle fod yn gristion da mae Jones yn dadlau roedd y marchog yn lladdwr creulon.

Terry Jones' Great Map Mystery

Yn 2008 gyflwynodd cyfres teledu Terry Jones' Great Map Mystery yn dilyn trywydd map a gyhoeddwyd ym 1675 gan John Ogilby (1600 – 1676).[3]

Trwy'r pedwar penod mae Jones yn teithio o Loegr i Dŷ Ddewi, Aberystwyth i Dreffynnon i Gaer gan orffen yng Nghaergybi.

Mae Jones yn dadlau roedd y map yn rhan o gynllwyn yn erbyn frenhiniaeth a llywodraeth Lloegr am iddo nodi ffyrdd pererinion a mannau cysegredig. Yn y 17 ganrif roedd Pabyddiaeth wedi'i wahardd gyda chosbau llym gan frenin a llywodraeth Protestaniaid Llundain. Mynnai Jones ni thalodd werin bobl Cymru fawr o sylw i awdurdodau Lloegr ac oedd yn Gatholigion o hyd. Bu arferion fel ymweld â mannau cysegredig Catholig yn ddal yn gryf iawn ar lawr gwlad. Gwir bwrpas y map, yn ôl Jones, oedd nodi lleoliadau megis Ffynnon Wenffrewi, Treffynnon a oedd dal yn atyniad i filoedd bererinion ac felly o ddiddordeb mawr i gynllwynwyr Pabyddol a oedd yn gobeithio disodli'r frenhiniaeth.[3]

Bywyd personol

Priododd Jones â Alison Telfer ym 1970, yn cael dau o blant; Sally (ganwyd 1974) a Bill (ganwyd 1976), ond adwodd am Anna Soderstrom, ac fe ganwyd eu merch Siri ym Medi 2009.[10]

Llyfryddiaeth ddethol

Ffuglen

  • Douglas Adams's Starship Titanic (1997), ISBN 0-330-35446-9 – nofel yn seiliedig ar gêm gyfrifiadurol Douglas Adams. (Mynnai Jones iddo ysgrifennu'r llyfr cyfan tra'n noethlymun.)
  • Evil Machines (2011), ISBN 978-1-908717-01-6
Darlunwyd gan Michael Foreman
Darlunwyd gan Brian Froud
Darlunwyd gan Martin Honeysett and Lolly Honeysett

Ffeithiol

Gyda Alan Ereira

Sgriptiau

  • And Now for Something Completely Different (1972) gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle, and Michael Palin
  • Secrets (1973) – Drama teledu gyda Michael Palin
  • Monty Python and the Holy Grail (1975) gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle, a Michael Palin
  • Monty Python's Life of Brian (1979) gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle, and Michael Palin
  • Monty Python's The Meaning of Life (1983) gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle, a Michael Palin
  • Labyrinth (1986)
  • Erik the Viking (1989)
  • The Wind in the Willows (1996)
  • Absolutely Anything (2015) gyda Gavin Scott

Rhaglenni dogfen

  • Crusades (1995)
  • Ancient Inventions (1998)
  • The Surprising History of Egypt (USA, 2002)
  • The Surprising History of Rome (USA, 2002)
  • The Surprising History of Sex and Love (2002)
  • Terry Jones' Medieval Lives (2004)
  • The Story of 1 (2005)
  • Terry Jones' Barbarians (2006)
  • Terry Jones' Great Map Mystery (2008)

Cyfeiriadau

  1. http://www.palgrave.com/page/detail/the-medieval-python-rf-yeager/?K=9780230112674
  2. http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/monty-python-star-terry-jones-2770656
  3. 3.0 3.1 3.2 http://en.wikipedia.org/wiki/Terry_Jones%27_Great_Map_Mystery
  4. Bevan, Nathan (5 March 2011). "The life and times of Monty Python's Terry Jones by Nathan Bevan, Western Mail at". Walesonline.co.uk. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  5. "Distinguished Old Guildfordians – Terry Jones". Royal Grammar School, Guildford Website. Cyrchwyd 9 Chwefror 2011.
  6. Roger Wilmut, From Fringe to Flying Circus, London, 1980, p.38; "An interview with Terry Jones". IGN. Cyrchwyd 29 Mehef 2008. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. https://www.youtube.com/watch?v=uwAOc4g3K-g
  8. http://www.theguardian.com/books/2011/dec/07/evil-machines-terry-jones-review
  9. https://www.youtube.com/channel/SWs-Gqsjg9y-8
  10. Singh, Anita (28 September 2009). "Monty Python star Terry Jones introduces baby Siri". The Daily Telegraph. London. Cyrchwyd 25 Mai 2010.
Monty Python
Aelodau: Graham ChapmanJohn CleeseTerry GilliamEric IdleTerry JonesMichael Palin
Ffilmiau: And Now For Something Completely DifferentMonty Python and the Holy GrailMonty Python's Life of BrianMonty Python Live at the Hollywood BowlMonty Python's The Meaning of Life


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.