Terry Jones

Oddi ar Wicipedia
Terry Jones
GanwydTerence Graham Parry Jones Edit this on Wikidata
1 Chwefror 1942 Edit this on Wikidata
Bae Colwyn Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 2020 Edit this on Wikidata
o frontotemporal dementia Edit this on Wikidata
Gogledd Lundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cyfansoddwr, ysgrifennwr, actor cymeriad, actor ffilm, crëwr, cyflwynydd teledu, awdur plant, actor teledu, hanesydd, cyfarwyddwr, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAbsolutely Anything Edit this on Wikidata
TadAlick George Parry Jones Edit this on Wikidata
PriodAlison Telfer Edit this on Wikidata
PlantBill Jones, Sally Louise Parry Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Q25405526, Children's Book Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.terry-jones.net Edit this on Wikidata

Actor, awdur a chomedïwr o Gymro oedd Terence Graham Parry Jones (1 Chwefror 194221 Ionawr 2020). Fel rhan o'r tîm comedi Monty Python, roedd yn gyfrifol am gynhyrchu nifer o sgetshis gyda'i gyd-awdur, Michael Palin. Aeth ymlaen i gyfarwyddo Monty Python and the Holy Grail (1975) a nifer o ffilmiau eraill.

Enwyd yr asteroid 9622 Terryjones ar ei ôl.

Roedd Terry Jones hefyd yn academydd cydnabyddedig ar hanes y canol oesoedd. Roedd yn awdur nifer o lyfrau a cyflwynodd nifer o raglenni teledu ar y pwnc.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Er iddo adael Cymru i fyw yn Surrey yn ifanc iawn, roedd Terry Jones yn datgan yn aml ei fod yn falch o'i gefndir Cymreig. Yn 2009 cymerodd ran mewn rhaglen BBC Wales Coming Home yn olrhain ei gysylltiadau teuluol Cymreig a dywedodd:

I bitterly didn’t want to leave and hated being transported to the London suburbs. I always regretted that and was always saying ‘I’m Welsh’.[2]

Ar ochr ei dad, roedd ganddo wreiddiau Cymreig dwfn yn Sir Ddinbych, ac roedd ei hen-hen-daid John Parry yn mwyngloddio plwm. Roedd ei ferch yntau, Louisa Parry, yn forwyn i deulu Mostyn ac aeth i weithio ym mhlasdy Gloddaeth yn 1851. Priododd Louisa gyda'r gwas a'r bwtler Evan Jones ond mynnodd gadw'i chyfenw a felly cychwynnodd y cyfenw 'Parry Jones'. Aeth y cwpl priod i redeg gwesty Mona yn y Rhyl.

Ar ochr ei fam roedd ganddo hen-hen-daid o'r enw William Newnes a oedd yn weinidog methodist Cyntefig. Roedd ganddo yntau fab, William George Newnes, a ddaeth i fyw ym Mae Colwyn. Roedd yn athro ac yn gerddor a arweiniodd cerddorfa Cymdeithas Operatig Bae Colwyn.[3]

Tad Terry oedd Alec Parry Jones a'i fam oedd Dilys Louisa Newnes. Tra roedd ei dad yn gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd gyda'r RAF yn India aeth ei fam nôl i fyw gyda'i rhieni ym Mae Colwyn lle ganwyd Terry; "Bodchwil" oedd enw cartre'r teulu. Wythnos ar ôl ei eni, cafodd ei dad ei ddanfon i'r India fel Awyr-Lefftenant (Dros Dro)[4] Roedd ganddo frawd, Nigel, dwy flynedd yn hyn nag e.[5] Gwelodd ei dad eto ymhen pedwar blynedd, wrth i'r rhyfel orffen, gan gyfarfod yng ngorsaf drên Bae Colwyn. Dywedodd mai dim ond cusan gan fenyw roedd wedi ei gael cyn hynny, felly roedd mwstash pigog ei dad yn dipyn o sioc.[6]

Symudodd y teulu i Claygate, Surrey pan oedd Terry yn 4½ oed.[7] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Guildford,[8] wedyn yn Neuadd Sant Edmwnd, Prifysgol Rhydychen lle cofrestrwyd ef ar gyfer Saesneg ond "crwydrodd mewn i Hanes".[9]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Hiwmor teledu[golygu | golygu cod]

Troed enwog Monty Python

Ymddangosodd yn Twice a Fortnight (1967) gyda Michael Palin, Graeme Garden a Bill Oddie, ac mewn rhaglen deledu The Complete and Utter History of Britain (1969). Ymddangosodd hefyd ar y rhaglen deledu comedi arloesol i blant Do Not Adjust Your Set (1967–69) gyda Palin, Eric Idle a David Jason. Ysgrifennodd sgriptiau ar gyfer The Frost Report a nifer o raglenni eraill David Frost ar deledu Lloegr.

Roedd gan Jones ddiddordeb mewn dyfeisio fformat newydd ar gyfer rhaglen gomedi a arweiniodd i greu Monty Python's Flying Circus yn 1969 ar y cyd gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle a Michael Palin.

Yn seiliedig yn fras ar raglen sgetshis roedd sefyllfaoedd Monty Python yn llifo tu hwnt i unrhyw synnwyr gan dorri gyda realiti i wthio'r hiwmor i eithafion swreal. Cymerodd Jones ddiddordeb mawr yn y proses o gyfarwyddo'r rhaglenni ac aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr ffilmiau.

O'i gyfraniadau fel perfformiwr, mae ei ddehongliadau o ferched canol-oed yn aros yn y cof. Yn cydweithio gyda Michael Palin, roedd eu sgriptiau Python yn dueddol o fod yn ddamcaniaethol ac absẃrd. Mae sgetshis nodweddiadol o'i steil yn cymryd y hiwmor i afrealrwydd afresymegol. Er enghraifft yn y Summarise Proust Competition mae Jones yn cymryd rhan cyflwynydd sioe cystadleuaeth seimllyd i grynhoi gwaith athronyddol dwys Marcel Proust mewn 15 eiliad, eu sgôr yn cael eu cofnodi ar y 'Proustometer'.[10]

Mae ei frwdfrydedd am hanes hefyd yn amlygu ei hun trwy Monty Python gyda’r Oesoedd Canol a’r oes Rufeinig yn themâu cyson.

Cyfarwyddo ffilmiau[golygu | golygu cod]

Poster Ffilm Wreiddiol

Gwnaeth Jones cyd-gyfarwyddo Monty Python and the Holy Grail (1975) gyda Terry Gilliam, ac ar ben ei hun, cyfarwyddodd Monty Python's Life of Brian (1979) a Monty Python's The Meaning of Life (1983) gan ddatblygu steil weledol oedd yn gweddu gyda'r hiwmor. Roedd ei ffilmiau diweddarach yn cynnwys The Wind in the Willows, (1996).

Awdur[golygu | golygu cod]

Cydysgrifennodd Ripping Yarns (1976-9), cyfres BBC gyda Palin, a sgript Labyrinth (1986) er i'w ddrafftiau cael eu haddasu sawl tro cyn ffilmio. Mae Jones hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr plant yn cynnwys Fantastic Stories, The Beast with a Thousand Teeth, a chasgliad o gerddi digrif The Curse of the Vampire's Socks.

Ysgrifennodd llyfr i blant, Fairy Tales (1981), casgliad o storïau ffantasi byr. Yn 1988 addaswyd y llyfr mewn cyfres deledu o'r enw East of the Moon a gynhyrchwyd gan Grasshopper Productions ar gyfer Channel 4 gyda fersiwn Gymraeg Tu Hwnt i'r Lloer ar gyfer S4C, a ddarlledwyd yn 1989. Roedd y penodau yn cynnwys ffilm o ddwy stori fer a dwy gân wedi eu animeiddio, sawl un mewn arddull freuddwydiol. Ffilmiwyd nifer o'r golygfeydd yng Nghymru ac roedd yr actorion yn cynnwys Mari Rowland-Hughes, Louis Thomas, Cefin Roberts, Grey Evans, Gaynor Morgan Rees, Iola Gregory, Danny Grehan a John Pierce Jones. Cyfarwyddwr y gyfres oedd Marc Evans. Ysgrifennwyd ac adroddwyd y sgript gan Neil Innes ac ef hefyd oedd yn cyfansoddi a pherfformio'r caneuon.[11]

Ysgrifennodd Jones nifer o ddarnau golygyddol i The Guardian, The Daily Telegraph a The Observer yn condemio rhyfel Irac. Cyhoeddwyd llawer o'r erthyglau golygyddol yma mewn casgliad Terry Jones's War on the War on Terror.

Lanswyd ei lyfr Evil Machines ar lein gan y cyhoeddwyr cyllid tyrfa (crowdfunding) yn 2011, gyda Jones yn cefnogi sefydlu'r fenter.[12]

Hanesydd[golygu | golygu cod]

Yn hanesydd cydnabyddedig, ysgrifennodd Jones nifer o lyfrau a cyflwynodd rhaglenni dogfen ar yr Oesoedd Canol a’r oes glasurol. Roedd ei waith yn aml yn herio agweddau poblogaidd tuag at hanes: er enghraifft yn y llyfr Terry Jones' Medieval Lives (2004) mae'n dadlau fod yr Oesoedd Canol yn fwy soffistigedig nag y credir yn gyffredinol. Tra mae Terry Jones' Barbarians (2006) yn cyflwyno'n bositif gwreiddiad y bobloedd a oresgynnwyd gan y Rhufeinwyr, wrth feirniadu'r Rhufeinwyr am fod y gwir 'Barbariad' a ormesodd a ddifethwyd gwarediadau uwch.[13]

Mae Chaucer's Knight: The Portrait of a Medieval Mercenary (1980) yn cynnig agwedd wahanol ar The Knight's Tale gan Geoffrey Chaucer. Yn lle fod yn gristion da mae Jones yn dadlau fod y marchog yn lladdwr creulon.

Terry Jones' Great Map Mystery[golygu | golygu cod]

Yn 2008 cyflwynodd gyfres deledu Terry Jones' Great Map Mystery yn dilyn trywydd map a gyhoeddwyd ym 1675 gan John Ogilby (1600 – 1676).

Trwy'r pedwar pennod mae Jones yn teithio o Loegr i Dŷ Ddewi, Aberystwyth i Dreffynnon i Gaer gan orffen yng Nghaergybi.

Yn y gyfres mae Jones yn dadlau fod y map yn rhan o gynllwyn yn erbyn brenhiniaeth a llywodraeth Lloegr am iddo nodi ffyrdd pererinion a mannau cysegredig. Yn y 17 ganrif roedd Pabyddiaeth wedi'i wahardd gyda chosbau llym gan frenin a llywodraeth Protestaniaid Llundain. Mynnai Jones ni thalodd werin bobl Cymru fawr o sylw i awdurdodau Lloegr ac oedd yn Gatholigion o hyd. Roedd arferion fel ymweld â mannau cysegredig Catholig yn dal yn gryf iawn ar lawr gwlad. Gwir bwrpas y map, yn ôl Jones, oedd nodi lleoliadau megis Ffynnon Wenffrewi, Treffynnon a oedd dal yn atyniad i filoedd o bererinion ac felly o ddiddordeb mawr i gynllwynwyr Pabyddol a oedd yn gobeithio disodli'r frenhiniaeth.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Jones â Alison Telfer ym 1970, a chawsant ddau o blant; Sally (ganwyd 1974) a Bill (ganwyd 1976), ond fe'i adawodd am Anna Soderstrom, a ganwyd eu merch Siri ym Medi 2009.[14]

Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jones yn dioddef o affasia cynradd flaengar, math o dementia sy'n effeithio ar y gallu i siarad a chyfathrebu, felly nid oedd yn gallu gwneud cyfweliadau bellach. Cyhoeddwyd ei fod wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am gyfraniad eithriadol i Ffilm a Theledu, a cyflwynwyd yr anrhydedd iddo yn seremoni BAFTA Cymru ar 2 Hydref 2016.[15]

Bu farw ar 21 Ionawr 2020.[16]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler Llyfryddiaeth Terry Jones

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.palgrave.com/page/detail/the-medieval-python-rf-yeager/?K=9780230112674[dolen marw]
  2. http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/monty-python-star-terry-jones-2770656
  3.  Coming Home - Terry Jones. BBC Wales (14 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 31 Ionawr 2020.
  4. "Royal Air Force" (PDF). www.thegazette.co.uk (yn Saesneg). 27 Mawrth 1942. Cyrchwyd 29 Ionawr 2020.
  5. "Terry Jones biography". www.cardinalfang.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-01-29.
  6. Bevan, Nathan (2016-09-23). "Classic interview with Terry Jones: 'It's a big surprise that people still want to talk about Monty Python'". walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-01-29.
  7. Bevan, Nathan (5 Mawrth 2011). "The life and times of Monty Python's Terry Jones by Nathan Bevan, Western Mail at". Walesonline.co.uk. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  8. "Distinguished Old Guildfordians – Terry Jones". Royal Grammar School, Guildford Website. Cyrchwyd 9 Chwefror 2011.
  9. Roger Wilmut, From Fringe to Flying Circus, London, 1980, p.38; "An interview with Terry Jones". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-13. Cyrchwyd 29 Mehef 2008. Check date values in: |accessdate= (help)
  10. https://www.youtube.com/watch?v=uwAOc4g3K-g
  11. John Pierce Jones [@pierce_john] (22 Ionawr 2020). "Cyfres hir Ochr draw i'r Lloer/East of the Moon yn Sasneg. Addasiad un o lyfrau plant Terry Jones. Marc Evans yn cyfarwyddo, ffilmwyd ar leoliad yn Kings Lynn. Roedd Terry yn un o'r cynhyrchwyr, ei gwmni i o wnaeth gynhyrchu Dyn hynaws iawn cwmniwrr da Cerddoriaeth Neil Innes" (Trydariad). Cyrchwyd 23 Ionawr 2020 – drwy Twitter.
  12. http://www.theguardian.com/books/2011/dec/07/evil-machines-terry-jones-review
  13. https://www.youtube.com/channel/SWs-Gqsjg9y-8
  14. Singh, Anita (28 Medi 2009). "Monty Python star Terry Jones introduces baby Siri". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-30. Cyrchwyd 25 Mai 2010.
  15. BAFTA Cymru i seren Monty Python , Golwg 360, 23 Medi 2016. Cyrchwyd ar 3 Hydref 2016.
  16. Monty Python star Terry Jones dies aged 77 (en) , BBC News, 22 Ionawr 2020.
Monty Python
Aelodau: Graham ChapmanJohn CleeseTerry GilliamEric IdleTerry JonesMichael Palin
Ffilmiau: And Now For Something Completely DifferentMonty Python and the Holy GrailMonty Python's Life of BrianMonty Python Live at the Hollywood BowlMonty Python's The Meaning of Life