Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: arz:هنرى السابع ملك انجلترا |
PixelBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: ka:ჰენრი VII |
||
Llinell 65: | Llinell 65: | ||
[[it:Enrico VII d'Inghilterra]] |
[[it:Enrico VII d'Inghilterra]] |
||
[[ja:ヘンリー7世 (イングランド王)]] |
[[ja:ヘンリー7世 (イングランド王)]] |
||
[[ka:ჰენრი VII |
[[ka:ჰენრი VII]] |
||
[[ko:헨리 7세]] |
[[ko:헨리 7세]] |
||
[[kw:Henry VII a Bow Sows]] |
[[kw:Henry VII a Bow Sows]] |
Fersiwn yn ôl 14:18, 7 Hydref 2012
Roedd Harri Tudur (Saesneg Henry Tudor), y brenin Harri VII o Loegr (28 Ionawr 1457 - 21 Ebrill 1509), yn frenin teyrnas Lloegr o 1485 hyd at ei farwolaeth. Mab Edmwnd Tudur, un o feibion Owain Tudur a brawd Siasbar Tudur, a Margaret Beaufort oedd Harri. Elisabeth o Efrog oedd ei wraig. Yng nghastell Penfro, pencadlys ei ewythr Siasbar yn Sir Benfro, de-orllewin Cymru, y cafodd ei eni.
Daeth yn frenin Lloegr yn 1485 ar ôl ennill brwydr Bosworth a churo'r brenin Rhisiart III o Loegr a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid yn rhan olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - Elisabeth o Efrog. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol.
Roedd wedi defnyddio ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y Mab Darogan - fel Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr o'i flaen - a fyddai'n adfer Ynys Brydain i'r Brythoniaid, sef y Cymry. Erys ar glawr nifer o gerddi darogan neu frudiau o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Ond rhyw wythfed ran o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad Cymraeg hyd yn oed am ei fod wedi'i magu yn y castell ym Mhenfro a threulio cyfnodau maith mewn alltudiaeth yn Ffrainc.
Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin Iago IV, brenin yr Alban.
Plant
- Arthur Tudur (1486-1502)
- Marged Tudur (1489-1541)
- Harri VIII, brenin Lloegr (1491-1547)
- Elisabeth Tudur (1492-1495)
- Mari Tudur (1496-1533)
- Edmwnd Tudur (1499-1500)
- Catrin Tudur (1503)
Ei linach gwrywaidd
Ednyfed Fychan m. 1246 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ab Ednyfed m. 1268 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tudur Hen (neu Tudur ap Goronwy) m. 1311 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ap Tudur Hen m. 1331 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Elen ferch Tomos (mam Owain Glyn Dŵr) | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy m. 1367 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Maredudd ap Tudur m. 1406 | Rhys ap Tudur m. 1409 | Gwilym ap Tudur m. 1413 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur m. 1461 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Edmwnd Tudur m. 1456 | Siasbar Tudur m.1495 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Harri VII, brenin Lloegr m. 1507 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Llyfryddiaeth
Ceir nifer o lyfrau am Harri Tudur ond ychydig iawn ohonynt sy'n edrych ar ei yrfa o safbwynt Cymreig. Ymhlith yr ychydig eithriadau ceir:
- David Rees, The Son of Prophecy (1985; argraffiad newydd, John Jones, 1997)
Rhagflaenydd: Rhisiart III |
Brenin Lloegr 22 Awst 1485 – 21 Ebrill 1509 |
Olynydd: Harri VIII |