De Affrica (rhanbarth)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Affrica Ddeheuol)

██ De Affrica (isranbarth CU)

██ daearyddol

██ Cymuned Datblygiad De Affrica (SADC)

Mae'r erthygl hon am yr ardal ar gyfandir Affrica. Am y wlad o'r un enw, gweler De Affrica.

Rhanbarth mwyaf deheuol cyfandir yr Affrig yw De Affrica neu Affrica Ddeheuol, sy'n cael ei diffinio yn ôl daearyddiaeth a gwleidyddiaeth. O fewn y rhanbarth ceir nifer o wledydd, yn cynnwys Gweriniaeth De Affrica, Simbabwe, Botswana a Namibia.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae tir De Affrica yn amrywio o goedwigoedd a glaswelltiroedd i ddiffeithdir. Mae gan y rhanbarth ardaloedd iseldirol ac arfordirol, a mynyddoedd.

Yn nhermau nwyddau naturiol, mae gan yr ardal diemyntau a mwynau megis aur, platinwm ac wraniwm.