Abd el-Krim

Oddi ar Wicipedia
Abd el-Krim
Abd el-Krim.
Ganwyd12 Ionawr 1882 Edit this on Wikidata
Ajdir Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1963 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMoroco Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University of al-Qarawiyyin Edit this on Wikidata
Galwedigaethqadi, gwleidydd, newyddiadurwr, gwrthryfelwr milwrol, ysgrifennwr, arlywydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Gweriniaeth y Riff Edit this on Wikidata
TadAbdelkrim Khattabi Edit this on Wikidata

Arweinydd milwrol a gwleidyddol o Foroco oedd Muḥammad ibn ʿAbd al-Karīm al-Khaṭṭābī neu Abd el-Krim (Arabeg: محمد بن عبد الكريم الخطابي‎, Berbereg y Rifft: Muḥend n Ɛabdelkrim Axeṭṭab – ⵎⵓⵃⵏⴷ ⵏ ⵄⴰⴱⴷⵍⴽⵔⵉⵎ ⴰⵅⵟⵟⴰⴱ; 18826 Chwefror 1963) a fu'n gadben ar luoedd y Berber yn erbyn y Sbaenwyr a'r Ffrancod yn ystod Rhyfel y Riff (1921–26) ac yn arlywydd Gweriniaeth y Riff (1923–26). Fe'i cofir fel tactegydd herwfilwrol galluog, eicon gwrthdrefedigaethol, ac arwr dros annibyniaeth pobloedd y Maghreb.

Bywyd cynnar ac addysg (1882–1906)[golygu | golygu cod]

Ganed Muhammad ibn Abd al-Karim ym 1882 ym mhentref Ajdir, nid nepell oddi wrth gadarnle (presidio) y fyddin Sbaenaidd ar ynys Peñón de Alhucemas. Perchnogwyd ar Ajdir gan garfan Aït Youssef Ou Ali o deulu'r Beni Urriaguel, y llwyth Berberaidd mwyaf yn ardal y Riff. Dyn hyddysg a dylanwadol oedd ei dad, Abd al-Karim al-Khattabi, a gafodd ei benodi'n qāḍī (barnwr Islamaidd) gan y Swltan Hassan I yn y 1880au. Erbyn 1902, dynodwyd Abd al-Karim al-Khattabi yn moro amigo ("Mŵr cyfeillgar") gan awdurdodau milwrol Sbaen, a byddai'n derbyn tâl misol am ddarparu gwybodaeth leol i'r Sbaenwyr a chefnogi eu hymgyrch yn y Riff. Bu teulu Abd el-Krim felly yn meddu ar safle bwysig yn y gymuned ond hefyd yn colli ymddiriedaeth rhai o'u cyd-Ferberiaid.

Derbyniodd Abd el-Krim a'i frawd Si M'hammed (1893–1967) eu haddysg ar y cyntaf, mewn astudiaethau Islamaidd, oddi ar eu tad a'u hewythr. Aeth Abd el-Krim i Fès ym 1902, yn 20 oed, i astudio gramadeg a llenyddiaeth Arabeg Clasurol a'r gyfraith Islamaidd ym madrasa Al-Attarin a madrasa Saffarin, er mwyn cael ei dderbyn i Brifysgol al-Qarawīyīn, a leolir yn yr un ddinas. Yn ogystal â medru Arabeg Clasurol yn rhugl, bu'n rhaid iddo ddwyn y Corân ac ambell destun o gyfreitheg Islamaidd i'w gof. Fe'i derbyniwyd i Brifysgol al-Qarawīyīn ym 1904, ac yno bu wrth ei uwchefrydiau Coranaidd. Aeth ei frawd Si M'Hammed i Sbaen i hyfforddi yn beiriannydd mwyngloddiol.[1]

Ei waith i'r Sbaenwyr (1906–14)[golygu | golygu cod]

Ym 1906, o ganlyniad i gysylltiadau ei dad â'r Sbaenwyr, cafodd Abd el-Krim swydd athro mewn ysgol gynradd i fechgyn Morocaidd ym Melilla, un o diriogaethau Ymerodraeth Sbaen ar arfordir gogleddol Affrica. Bu'n gweithio yn yr ysgol honno nes 1913. O 1907 i 1915 ysgrifennai erthyglau yn Arabeg i El Telegrama del Rif, papur newydd dyddiol ym Melilla. Yn ei erthyglau, amddiffynnai gwareiddiad y Sbaenwyr a thechnoleg Ewropeaidd a'r potensial i foderneiddio economi a chymdeithas Moroco.[2]

Ym 1910 penodwyd Abd el-Krim yn ysgrifennydd-gyfieithydd yn y Swyddfa Materion Brodorol (Oficina de Asuntos Indigenas) ym Melilla, swydd a roddai iddo berthynas agos â gweinyddiaeth y fyddin Sbaenaidd yn ogystal â chymdeithas sifil y ddinas. Enillodd Abd el-Krim enw fel gwas sifil effeithlon, craff a phwyllog.[2] Trwy ei waith yn cyfieithu ar gyfer cwmnïau mwyngloddio, dysgodd Abd el-Krim am gynlluniau'r Sbaenwyr i ymelwa ar gyfoeth naturiol Moroco ac i ecsbloetio'r gweithwyr brodorol.[1] Trwy'r cyfnod hwn bu Abd el-Krim yn parhau â'i astudiaethau ôl-raddedig yn y gyfraith Islamaidd a chyfraith Sbaen, ac ym 1912 enillodd ei gymhwyster i fod yn farnwr.[1] Gwellodd gobeithion ei yrfa yn sgil sefydlu'r brotectoriaeth Sbaenaidd ym Moroco yn Nhachwedd 1912, ac ar sail ei waith cafodd ei benodi yn qāḍī yng Ngorffennaf 1913 ac yn qāḍī al-quḍāt (prif farnwr) Melilla yn Hydref 1914.[2] Wrth ei waith barnwrol bu'n ymwneud â threfniannau a chytundebau economaidd yn y brotectoriaeth, gan gynnwys gweithredoedd eiddo yr haearn yn Beni Tuzin, a oedd yn ffinio ag ardal ei lwyth ei hun.[1]

Er i Abd el-Krim ddeall yn raddol taw pwrpas y weinyddiaeth Sbaenaidd ym Moroco oedd i orfodi darostyngiad y brodorion, fe barhaodd yn ffyddlon i'r Sbaenwyr am y tro. Gweithiodd gyda'i dad i drefnu carfan o blaid y Sbaenwyr yn ei fro enedigol, a gwobrwywyd i'r tad bensiwn o 50 peseta y flwyddyn yn ogystal â Chroes Teilyngdod Milwrol. Credodd Abd el-Krim fod y datblygiadau economaidd a ddygwyd gan y Sbaenwyr yn cyfiawnhau ei deyrngarwch iddynt, a bod y presenoldeb Sbaenaidd yn y Riff yn amddiffyn y brodorion rhag Ymerodraeth Ffrainc, a oedd hefyd yn meddu ar brotectoriaeth ym Moroco.[1] Nid oedd perthnasau cyfeillgar rhwng cymunedau gwledig y Riff a'r Sbaenwyr, a oedd yn trin y brodorion yn annheg. Dechreuodd y Sbaenwyr ohirio taliadau i arweinwyr lleol y Riff, gan gynnwys Abd al-Karim al-Khattabi, ac yn lle rhoi llwgrwobrwyon i frodorion yng nghanolbarth Moroco mewn cais i ehangu tir y brotectoriaeth. Ym 1914, wrth i luoedd Sbaen symud yn agosach at Beni Urriaguel, bu sefyllfa'r Khattabi yn fwyfwy wedi ei rhwygo rhwng cydweithio â'r trefedigaethwyr a ffyddlondeb at eu cydwladwyr.[3]

Troi yn erbyn y Sbaenwyr (1915–20)[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18) rhwng y Cynghreiriaid (gan gynnwys Ffrainc) a'r Pwerau Canolog (gan gynnwys yr Almaen a'r Ymerodraeth Otomanaidd), bu'n rhaid i'r Khattabi gadw at bolisi Sbaen o ran niwtraliaeth rhwng y ddwy ochr. Fodd bynnag, mynegai Abd el-Krim a'i dad farnau a oedd yn cydymdeimlo ag achos yr Almaenwyr, a rhodd Abd al-Karim al-Khattabi gefnogaeth yn gudd i asiantau Almaenig ac Otomanaidd yn y Riff. Cafodd y gweithgareddau hyn eu monitro gan y Ffrancod, a phryderodd y Sbaenwyr am weision y wladwriaeth yn troseddu yn erbyn niwtraliaeth.[2] Yn ei erthyglau i El Telegrama del Rif, dechreuodd Abd el-Krim weld bai ar y llywodraeth drefedigaethol am danddatblygiad economaidd y Riff, a thynnu sylw at lygredigaeth y Sbaenwyr. O ganlyniad i'w farnau Almaengar, cwestiynwyd Abd el-Krim gan ei gyflogwr yn Awst 1915 ynglŷn â gweithgareddau ei dad a safbwyntiau ei hun am y rhyfel. Cyfaddefodd ei fod yn cefnogi'r Tyrciaid Ifainc a'i fod o blaid gwrthryfeloedd Mwslimaidd yn erbyn y Cynghreiriaid, yn enwedig Ffrainc.[3] Ar sail y cyfweliad hwnnw, cafodd adroddiad ei baratoi gan yr awdurdodau milwrol Sbaenaidd yn cyhuddo Abd el-Krim o gefnogi'r Pwerau Canolog, o elyniaeth tuag at y Ffrancod, ac o gefnogi annibyniaeth canolbarth y Riff oddi ar lywodraeth Sbaen,[2] a fe'i carcharwyd ym Melilla ar 6 Medi 1915.[3] Ceisiodd Abd el-Krim ddianc o'r carchar ar 23 Rhagfyr 1915, ond bu'r rhaff yn rhy fyr a thorrodd ei goes wrth neidio i'r ddaear, ac o ganlyniad fe gerddai ychydig yn gloff am weddill ei oes.[3] Cafodd ei ryddhau o'r diwedd yn Awst 1916,[2] wedi i'w dad leisio'i gefnogaeth i bresenoldeb milwyr Sbaenaidd ym Mae Al Hoceima.[3]

Abd el-Krim (dde) a'i frawd Si M'hammad, tua 1920.

Er iddo ddychwelyd i'r farnwriaeth ym Mai 1917,[2] teimlodd Abd el-Krim yn chwerw tuag at y Sbaenwyr. Rhoddwyd pwysau ar Abd el-Krim a'i dad i beidio â chysylltu â'r Almaenwyr ac i gefnogi ymgyrch y Sbaenwyr i "heddychu" canolbarth y Riff. Gwaethygodd anghytgord ymhlith y werin o ganlyniad i amodau economaidd gwael a chynhaeaf drwg ym 1918.[3] Yn Rhagfyr 1918 ymddiswyddodd Abd el-Krim o'r farnwriaeth, a dychwelodd gyda'i frawd Si M'hammad (a oedd yn astudio ym Madrid) i Ajdir. Erbyn 1920, roedd yr holl deulu wedi torri eu cysylltiadau â'r awdurdodau Sbaenaidd ac yn cynllunio gwrthsafiad yn y Riff.[2] Ceisiant uno'r llwythau yn y Riff trwy ailgyflwyno'r haqq, sef taliad am ladd (yn debyg i alanas yr hen Gymry neu weregild yr Eingl-Sacsoniaid), i roi terfyn ar cynhennau gwaed rhwng yr amryw glaniau, a chodwyd dirwyon hefyd ar y brodorion oedd yn cydweithio â'r Sbaenwyr.[3] Bu farw Abd al-Karim al-Khattabi yn sydyn yn Awst 1919; yn ei hunangofiant, honnai Abd el-Krim i'r Sbaenwyr wenwyno ei dad.[4] Aeth y llu a drefnwyd ganddo, yr harakah, ar chwâl yn sgil ei farwolaeth, a dwysaodd cynlluniau'r Sbaenwyr i oresgyn y Riff. Parhaodd ei feibion â'r gwaith o ffurfio cynghrair yn wyneb goresgyniad gan fyddin Sbaen.[3]

Rhyfel y Riff (1921–26)[golygu | golygu cod]

Yn Ebrill 1921, etholwyd Abd el-Krim yn bennaeth milwrol ar gynghrair y llwythau gan hanner cant o shîcs y Riff. Enillodd edmygedd am ei arweinyddiaeth wleidyddol a milwrol, ei bregethau trawiadol, a'i ysgolheictod.[3] Ymhen fawr o dro, llwyddodd Abd el-Krim i gynull byddin o ryw 65,000 o ddynion ar draws y Riff.[5] Cychwynnodd felly Rhyfel y Riff wrth i'r Berberiaid wrthsefyll goresgyniadau'r Sbaenwyr yn y cyfnod o Fehefin i Awst 1921. Ar 2 Mehefin 1921 cafwyd dwy fuddugoliaeth gan luoedd Abd el-Krim: lladdwyd 600 o filwyr Sbaenaidd mewn cyrch annisgwyl ar Dhar Ubarran, a churwyd lluoedd y Cadfridog Manuel Fernández Silvestre ym Mrwydr Sidi Idris. Bu'r trawiadau hyn yn erbyn y Sbaenwyr yn denu nifer fwy o Ferberiaid i achos y gwrthryfel.[5] O gymharu â'r consgriptiaid Sbaenaidd dan arweiniad y Cadfridog Silvestre, trefnwyd y lluoedd Berberaidd yn effeithiol gan Abd el-Krim.[2]

Map o symudiadau'r Riffiaid a'r Sbaenwyr ym Mrwydr Annual.

Brwydr Annual (neu Anwāl) oedd buddugoliaeth fwyaf ac enwocaf Abd el-Krim. Ger pentref Annual, yn nyffryn Beni Ulicheck, yr oedd prif wersyll milwrol y Sbaenwyr yn yr ymgyrch i goncro dwyrain Moroco. Ar 17 Gorffennaf 1921 cychwynnodd pum niwrnod o ysgarmesu wrth i'r Riffiaid amgylchynu'r Sbaenwyr. Mae union fanylion y lluoedd yn ansicr, ond credir yr oedd 25,000 i 30,000 o Sbaenwyr yn Annual i gyd,[6] a dim ond rhyw 3000 o Riffiaid yno yn unig.[7] Cychwynnodd y frwydr go iawn ar 22 Gorffennaf, ac yn fuan cafodd y Riffiaid y fantais ar y Sbaenwyr blinedig. Penderfynodd y Cadfridog Silvestre encilio, a gwnaeth nifer o'i filwyr ei gwadnu hi. Llwyddodd tri mil o Riffiaid felly i yrru ugain mil o Sbaenwyr ar ffo o'u gwersyll. Bu farw Silvestre yn ystod yr helynt, naill ai dan law'r gelyn neu drwy saethu ei hun oherwydd cywilydd ei fethiant. Bu farw wyth i ddeng mil o filwyr Sbaenaidd a chipiwyd 700 ohonynt yn garcharorion rhyfel.[5] Daeth y Riffiaid i feddiannu nifer fawr o arfau ac adnoddau eraill y Sbaenwyr, a chollodd y brotectoriaeth Sbaenaidd ei gafael ar ei thiriogaeth yn y dwyrain.

Cafodd y ddwy ochr eu syfrdanu gan Frwydr Annual, a elwir yn "Drychineb Annual" gan y Sbaenwyr. Meddai Si M'hammad taw "gwyrth lwyr" oedd y fuddugoliaeth, a gorchmynnai Abd el-Krim i'w ddilynwyr adrodd o'r Corân a diolch i Allah am drechu'r gelyn.[5] Daeth enw Abd el-Krim yn gyfarwydd ar draws y byd o ganlyniad i'w fuddugoliaeth yn Annual, a chafodd ei ystyried yn arwr yn y byd Islamaidd—yn bwysicaf na Mustafa Kemal Pasha hyd yn oed—[8]a chan fudiadau gwrthdrefedigaethol yr adain chwith. Derbyniodd y Riffiaid gefnogaeth a chymorth oddi ar yr Almaenwyr a'r Otomaniaid, a chasglwyd arian gan drigolion yr India (Madras, Delhi, a Calcutta) a'r Dwyrain Agos (Syria a Libanus) ar gyfer achos eu cyd-Fwslimiaid ym Moroco.[9][8] Er gwaethaf, nid oedd holl frodorion y Riff yn barod i ddilyn Abd el-Krim yn mujāhid ("arweinydd rhyfel"), a bu'n rhaid iddo ymdrechu i berswadio neu orfodi ambell lwyth i ymlynu â'i achos.[2] Er enghraifft, cipiwyd El Raisuli, môr-leidr o ardal orllewinol Jibala a wrthododd ymgynghreirio ag Abd el-Krim, yn garcharor ym 1925.[5]

Abd el-Krim ym 1923.

Erbyn 1922 adenillodd y Sbaenwyr y rhan fwyaf o'r diriogaeth a gollasant y flwyddyn gynt, ond parhaodd gwrthryfel y Riffiaid yn eu herbyn. Yn Chwefror 1923 datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth y Riff (Al-Jumhūriyyah al-Rīf), ag Abd el-Krim yn arlywydd ac yn bennaeth ar lywodraeth o'i berthnasau a'i gynghreiriaid agosaf. Cafwyd buddugoliaeth fawr arall i Abd el-Krim ym Mrwydr Chaouen yng Ngorffennaf 1924, pryd fu farw rhyw ddeng mil o filwyr Sbaenaidd.[10] Bu'r rhyfel yn gostus i'r Sbaenwyr, ac yn amhoblogaidd ymhlith y cyhoedd yn Sbaen, felly gohiriwyd y mwyafrif o gyrchoedd yn erbyn y Riffiaid. Bu'r sefyllfa yn annatrys hyd at ddiwedd 1924, pryd cychwynnai trafodaethau heddwch rhwng y ddwy ochr, ar gais y Cadfridog Miguel Primo de Rivera, Prif Weinidog Sbaen. Er i'r Sbaenwyr dynnu milwyr yn ôl o diriogaeth orllewinol y brotectoriaeth, gwrthododd Abd el-Krim unrhyw gytundeb nad oedd yn cydnabod sofraniaeth y Riff, a rhuthrodd ei luoedd i'r gorllewin wedi ymadawiad y Sbaenwyr.[2]

Abd el-Krim ar glawr cylchgrawn Time yn Awst 1925.

Ar anterth ei rym, yn nechrau 1925, rheolodd Abd el-Krim bron i dri chwarter o diriogaeth y brotectoriaeth Sbaenaidd. Ymdrechodd i sefydlu llywodraeth fiwrocrataidd a byddin ganolog yn lle'r hen drefn hierarchaidd, ac i gyflwyno cyfraith Fwslimaidd gyfundrefnol, cytundebau masnach rhyngwladol, a rhwydwaith o ffyrdd a thelegyfathrebu.[2] Bwriadodd hefyd cael gwared â'r peseta a chyflwyno arian cyfred newydd o'r enw Riffan. Anfonodd lythyrau, drwy gyfrwng newyddiadurwyr a llysgenhadon, at bennau gwladwriaethau ar draws y byd, yn erfyn arnynt i gydnabod annibyniaeth Gweriniaeth y Riff. Roedd yr economi yn ddibynnol i raddau helaeth ar Ddyffryn Ouergha, un o ardaloedd mwyaf ffrwythlon y Riff, a oedd yn darparu cynnyrch amaethyddol i'r bobl pan oedd embargoau yn atal mewnforion bwyd. Tynnai sylw'r Ffrancod gan gyfoeth naturiol Dyffryn Ouergha, a dechreuasant godi blocdai a safleoedd milwrol o amgylch y dyffryn. Cyfyngwyd ar gyflenwadau o'r dyffryn, a gwaharddwyd allforion bwyd gan Abd el-Krim mewn ymgais i atal prinder bwyd. Daeth bygythiad arall o'r Sbaenwyr, a ddefnyddiodd y cemegyn gwenwynig S-LOST (nwy mwstard)—y tro cyntaf mewn hanes i gyfrwng rhyfela cemegol gael ei ollwng o awyrennau—i dargedu herwfilwyr, pentrefi, a ffynonellau dŵr yn y Riff.[10]

Dan bwysau ei bobl, a oedd yn wynebu prinder bwyd, trodd Abd el-Krim ei sylw at y brotectoriaeth Ffrengig ym Moroco, a symudodd ei luoedd dros y ffin er mwyn diogelu ei linellau cyflenwi â Dyffryn Ouergha. Bu'r Riffiaid yn drech na'r Ffrancod, a chyrhaeddant yn agos i ddinasoedd Fès a Taza. Fodd bynnag, yn ddiweddarach cydnabyddai Abd el-Krim taw hwn oedd ei gamgymeriad strategol mwyaf ei oes, am iddo orfodi ei ddau elyn Ewropeaidd i uno yn ei erbyn.[10] Ymgynghreiriodd y Ffrancod a'r Sbaenwyr i sathru ar y gwrthryfel, a lansiwyd ymgyrch ar y cyd ym Medi 1925 i adennill y brotectoriaeth Sbaenaidd, gyda 18,000 o filwyr Sbaenaidd o'r gogledd a 20,000 o filwyr Ffrengig o'r de. Brwydrodd lluoedd Abd el-Krim, rhyw 13,000 ohonynt ar y mwyaf, yn ffyrnig yn eu herbyn, ond ni fyddent yn drech na niferoedd a thechnoleg yr Ewropeaid. Pallodd grym Abd el-Krim erbyn tymor y gwanwyn 1926, ac ar 27 Mai 1926 ildiodd efe a'i deulu i'r Ffrancod.[2]

Alltudiaeth a diwedd ei oes (1926–63)[golygu | golygu cod]

Réunion (1926–47)[golygu | golygu cod]

Abd el-Krim yn mynd ar drên o Fès i Tanger, ar ei ffordd i Casablanca, ym 1926.

Anfonwyd Abd el-Krim a'i deulu i Fès gan y Ffrancod, lle buont dan glo am ddeufis. Ar 28 Awst 1926 alltudiwyd Abd el-Krim, ei ddwy wraig a'u plant, ei frawd, ei ewythr, a'u teuluoedd nhw—30 o bobl i gyd—i ynys Réunion, tiriogaeth Ffrengig yng Nghefnfor India, ac aethant felly ar daith trên o Fès i Casablanca, ac oddi yno ar long i Marseilles.[10] Ar 2 Medi 1926, cychwynnodd y llong ar y fordaith i Réunion.[2] Trigasant yn alltud yn Réunion am ugain mlynedd, mewn sawl preswylfa gan gynnwys Chateau Morangehe a Castel Fleuri, gan dderbyn pensiwn oddi ar y Ffrancod. Magodd y teuluoedd gysylltiadau agos â chymuned Fwslimaidd Gwjarataidd yr ynys, a bu perthynas gyfeillgar rhwng Abd el-Krim a llywodraethwyr Réunion. Penodwyd teiliwr o'r enw Ismail Dindar i ddarparu dillad traddodiadol a bwyd halal i'r teuluoedd, a bu Abd el-Krim a Dindar yn ffrindiau agos. Ym 1937 llaciwyd ar y cyfyngiadau ar breifatrwydd a symudiadau'r teuluoedd, a dechreuodd Abd el-Krim deithio ac hela ar draws yr ynys. Buont yn tyfu cansen siwgr, mango, litshi, a gwafa yn yr ardd, ac yn tyfu mynawyd y bugail (Pelargonium graveolens) mewn cae er mwyn cynhyrchu olew o'r planhigyn a'i werthu mewn siop yn Saint-Denis. Ym 1946 daeth Abd el-Krim yn gyfarwydd â Raymond Vergès, arweinydd y Blaid Gomiwnyddol yn Réunion a thad y cyfreithiwr enwog Jacques Vergès. Wedi ugain mlynedd, tyfodd teulu estynedig Abd el-Krim fel bod rhyw 40 neu 50 ohonynt.[11] Ym 1947 cytunodd y Ffrancod i dderbyn y teuluoedd i Ffrainc am resymau iechyd ac er addysg y plant.[2]

Yr Aifft (1947–63)[golygu | golygu cod]

Cludwyd Abd el-Krim a'i deulu estynedig o Réunion ar long Roegaidd, yr SS Katoomba, ar eu ffordd i dde Ffrainc. Ar 23 Mai 1947, derbyniodd Mohamed Ali Eltaher, llywydd y Pwyllgor Palesteinaidd yn yr Aifft, delegram oddi ar Abdo Hussein Eladhal yn ei hysbysu bod yr SS Katoomba wedi hwylio o borthladd Aden y diwrnod hwnnw, ac ar 27 Mai erfyniodd Eltaher ar Farouk, Brenin yr Aifft, i gefnogi cynllun i ryddhau Abd el-Krim wrth i'r llong deithio drwy ddyfroedd Eifftaidd. Ar 30 Mai, pan oedd y llong yn harbwr Suez, ymwelodd Eltaher, aelodau o Swyddfa'r Maghreb Arabaidd, a dirprwyon brenhinol ag Abd el-Krim i gynnig lloches iddo. Ymatebodd Abd el-Krim gan ddweud y byddai'n trafod y cynllun a'i deulu cyn iddo wneud ei benderfyniad. Wedi i'r SS Katoomba gyrraedd pen Camlas Suez, yn Borsaʿīd (Porth Saïd), cytunodd Abd el-Krim i'r cynllun a gadawodd efe a'i holl deulu y llong gan esgus eu bod am ymweld â'r ddinas. Derbyniasant loches oddi ar y Brenin Farouk, a thrigodd Abd el-Krim yng Nghairo am weddill ei oes.[11]

Abd el-Krim (canol) yn cynnal cinio yng Nghairo ym 1963, ychydig cyn ei farwolaeth. Ymhlith ei westeion mae'r ysgolhaig o Diwnisia Mohamed Fadhel Ben Achour (trydydd o'r dde).

Yn yr Aifft, gweithiodd Abd el-Krim am gyfnod gyda Phwyllgor Rhyddhau'r Maghreb, ac ysgrifennodd erthyglau i gyhoeddiadau Arabeg yn lladd ar drefedigaethrwydd Ewropeaidd.[2] Yn Ionawr 1948 sefydlodd Bwyllgor Rhyddhau Cenedlaethol yr Affricanwyr Gogleddol, i weithredu dros annibyniaeth i Foroco (a oedd yn parhau dan brotectoriaethau Ffrainc a Sbaen), Algeria Ffrengig, a phrotectoriaeth Ffrengig Tiwnisia. Bu Abd el-Krim yn llywydd ar y mudiad hwnnw hyd at ei farwolaeth.[11] Er i Foroco ennill ei hannibyniaeth ym 1956, gwrthodai Abd el-Krim ddychwelyd i'w famwlad. Yn ystod ei flynyddoedd olaf, cydnabuwyd Abd el-Krim yn ysbrydoliaeth wrthdrefedigaethol o hyd. Mae'n bosib iddo gydweithio â Ho Chi Minh yn ystod Rhyfel Indo-Tsieina drwy berswadio milwyr Arabaidd ym Myddin Ffrainc i ymuno ag herwfilwyr y Việt Minh.[11] Credir i Che Guevara gwrdd ag Abd el-Krim ddwywaith yn llysgenhadaeth Moroco yng Nghairo ym 1959.[12] Bu farw Abd el-Krim ar 6 Chwefror 1963 yng Nghairo, tua 80 oed.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi" (2021), t. 3.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 (Saesneg) Abd el-Krim. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mai 2021.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8 Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi" (2021), t. 4.
  4. Abd el-Krim, Memoiren, Mein Krieg gegen Spanien und Frankreich (Dresden: Carl Reissner Verlag, 1927), t. 57.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi" (2021), t. 5.
  6. D. M. Hart, The Aith Waryaghar of the Moroccan Rif: An ethnography and history (Tucson: University of Arizona Press, 1976), t. 374.
  7. David S. Woolman, Rebels in the Rif (1968), t. 97.
  8. 8.0 8.1 J. Bode, Abd El Krim’s Freiheitskampf gegen Franzosen und Spanier (Charlottenburg: Verlag Offene Worte, 1926), t. 55.
  9. Bode, Abd El Krim's Freiheitskampf (1926), t. 24.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi" (2021), t. 6.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi" (2021), t. 7.
  12. Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi" (2021), t. 8.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Mevliyar Er, "Abd-el-Krim al-Khattabi (1882–1963)" yn The Palgrave Encyclopedia of Imperialism and Anti-Imperialism, ail argraffiad, golygwyd gan Immanuel Ness a Zak Cope (Cham: Palgrave Macmillan, 2021), tt. 1–15.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Pierre Fontaine, Abd-el-Krim: Origine de la rébellion nord-africaine (Paris: Les Sept Couleurs, 1958).
  • Rupert Furneaux, Abdel Krim: Emir of the Rif (1967).
  • François Maspero, Abd el-Krim et la république du rif (Paris: Librairie François Maspero, 1976).