Galanas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Taliad a wneid gan lofrudd a'i deulu i deulu y person a laddodd yn ôl Cyfraith Hywel oedd galanas. Ceir syniad tebyg yn Iwerddon (éricfine, coirp-díre) ac ymhlith yr Eingl-Sacsoniaid (wergeld). Ystyrid galanas yn un o'r Tair Colofn Cyfraith.

Roedd maint y galanas oedd yn daladwy yn dibynnu ar statws cymdeithasol y person a laddwyd, ond gallai amgylchiadau'r weithred o'i ladd effeithio ar y taliad hefyd. Er enghraifft, roedd lladd trwy wenwyn yn dyblu'r galanas oedd yn ddyledus. Roedd hyd yn oed berthnasau pell y llofrudd yn gorfod talu rhyw gyfran o'r galanas, gyda'r perthnasau agosaf yn talu mwy. Yn yr un modd, byddai perthynasau agosaf y person a laddwyd yn derbyn mwy. Roedd gwragedd yn talu hanner y swm oedd yn ddyledus gan ddynion. Roedd trydedd ran o'r galanas yn ddyledus oddi wrth y llofrudd ei hun, ei rieni a'i frodyr a chwiorydd. Rhennid y gweddill rhwng perthnasau eraill, gyda dwy ran o dair yn ddyledus gan y perthnasau ar ochr ei dad, a thraean gan y perthnasau ar ochr ei fam.

Defnyddid yr un rheolau ar gyfer derbyn galanas. Yn y llyfrau cyfraith sydd wedi goroesi, o'r 13g, mae traean o'r galanas yn daladwy i'r arglwydd, ond credir mai rhywbeth diweddar oedd hyn.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]