Etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2004

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cynhalwyd Etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2004 ar 10 Mehefin, yr un diwrnod ac Etholiad y Senedd Ewropeaidd, 2004. Pleidleisiodd 25,082 o bobl, sef 53.28% o'r etholaeth, y sedd gyda'r canran fwyaf oedd Llanrhystud gyda 70.82% yn pleidleisio.[1]

Roedd yr holl gyngor yn cael ei ethol ac yn dilyn newid y ffiniau, lleihawyd y nifer o seddi i 42. Dychwelodd 5 o'r seddi heb gael eu gwrthwynebu Arhosodd y cyngor mewn sefyllfa lle nad oedd unrhyw blaid gyda rheolaeth cyffredin, gyda Plaid Cymru yn ennill seddi a'r gwleidyddion annibynol yn colli. Ffurfwyd clymblaid rhwng yr annibynwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, gan mai hwy oedd y grŵp gyda'r nifer fwyaf o'r seddi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn dilyn yr etholiadau, dyma oedd sefyllfa'r cyngor:

Canlyniadau'r Etholiad[golygu]

Canlyniad Etholiad Lleol Ceredigion 2004
Plaid Seddi Enillion Colliadau Ennill/Colli Net Seddi % Pleidleisiau % Pleidleisiau ±%
  Plaid Cymru 16 6 0 +6 38.10 38.91 10,198 -
  Annibynnol 16 0 7 -7 35.71 27.80 7,287 -
  Democrat Rhydd. 9 1 0 +1 21.43 20.19 5,291 -
  Annibynnol 0 0 0 = 0.00 4.18 1,096 -
  Annibynnol 0 0 0 = 0.00 3.65 957 -
  Llafur 1 0 0 = 2.38 2.99 785 -
  Plaid Annibyniaeth y DU 0 0 0 = 0.00 0.36 96 -
  Gwyrdd 0 0 0 = 0.00 0.18 48 -
  Ceidwadwyr 0 0 0 = 0.00 0.09 26 -
  • Yr ail grŵp annibynol oedd Llais Ceredigion
  • Roedd y trydydd grŵp annibynol yn ddi-blaid

Canlydiadau Etholiad yn ôl Ward[golygu]

Ward Cynghorwr a etholwyd Plaid
Aberaeron Richard Emlyn Thomas Annibynol
Aberporth Gethin James Annibynol Dim Plaid
Aberteifi - Mwldan Sarah Mary Morris Annibynol
Aberteifi - Rhyd-y-Fuwch John Mark Cole Dem Rhydd
Aberteifi - Teifi Alan Wilson Annibynol)
Aberystwyth - Bronglais Alun Williams Plaid Cymru)
Aberystwyth - Canol Ceredig Wyn Davies Dem Rhydd)
Aberystwyth - Gogledd Edgar Carl Williams Dem Rhydd)
Aberystwyth - Penparcau Llewelyn Goronwy Edwards ac Owen Henry Jones Annibynol / Annibynol
Aberystwyth - Rheidol Eric John Griffiths Dem Rhydd
Beulah William David Lyndon Lloyd Plaid Cymru
Borth Raymond Paul Quant Annibynol
Capel Dewi Thomas Peter Lloyd Davies Annibynol
Ceulan a Maesmawr Ellen Elizabeth ap Gwynn Plaid Cymru
Ciliau Aeron Stanley Meredith Thomas Annibynol
Faenor John Erfyl Roberts Dem Rhydd
Llanbedr Pont Steffan Robert George Harris a John Ivor Williams Llafur / Annibynol
Llanarth Thomas Eurfyl Evans Dem Rhydd
Llanbadarn Fawr - Padarn Gareth Davies Plaid Cymru
Llanbadarn Fawr - Sulien Paul James Plaid Cymru
Llandyfriog Benjamin Towyn Evans Plaid Cymru
Llandysilio-gogo Cen Lllwyd Plaid Cymru
Llandysul Town Evan John Keith Evans Annibynol
Llanfarian Alun Lloyd Jones Annibynol
Llanfihangel Ystrad Owen Llywelyn Plaid Cymru
Llangeitho David John Evans Annibynol
Llangybi John Timothy Odwyn Davies Plaid Cymru
Llanrhystyd David Rowland Rees-Evans Dem Rhydd
Llansantffraed Daniel Meurig James Plaid Cymru
Llanwenog Samuel Haydn Richards Plaid Cymru
Lledrod David Lloyd Evans Annibynol
Melindwr Fred Williams Dem Rhydd
Cei Newydd Sarah Gillian Hopley Annibynol
Penbryn Ian ap Dewi Plaid Cymru
Pen-parc Thomas Haydn Lewis Ann. Dim Plaid
Tirymynach Wiliam Penri James Plaid Cymru
Trefeurig David Suter Plaid Cymru
Tregaron Catherine Jane Hughes Plaid Cymru
Troedyraur Gerallt Wynford Jones Plaid Cymru
Ystwyth John David Rowland Jones Dem Rhydd
  1. Canlyniadau 2004