Llanfihangel Ystrad

Oddi ar Wicipedia
Llanfihangel Ystrad
Eglwys Sant Mihangel, Ystrad Aeron
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,430 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,647.33 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.18°N 4.17°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000379 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Llanfihangel Ystrad. Fe'i lleolir yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth y sir, tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ystrad Aeron, Felinfach, Cribyn a Dihewyd. Yn y gymuned yma roedd Lleiandy Llanllŷr. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,427. Mae Plwyfi Llanfihnagel Ystrad a Nantcwnlle yn cyfuno i greu ward etholiadol Llanfihangel Ystrad ar Gyngor Sir Ceredigion.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Ystrad (pob oed) (1,430)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Ystrad) (860)
  
62.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Ystrad) (894)
  
62.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfihangel Ystrad) (239)
  
38.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-26.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]