Llanrhystud

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanrhystyd)
Llanrhystud
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth966 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,777.22 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3059°N 4.1458°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000388 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw Llanrhystud. Saif ar y briffordd A487, rhyw naw milltir i'r de o Aberystwyth.

Llifa Afon Wyre trwy'r pentref ychydig cyn cyrraedd a môr, ac mae Afon Wyre Fach yn ymuno â hi ychydig uwchben y pentref. Gerllaw'r fan lle mae'r ddwy afon yn ymuno, mae Gaer Penrhôs, lle mae olion bryngaer o Oes yr Haearn ac olion castell, a adeiladwyd, efallai gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd yn 1149. Castell mwnt a beili ydyw, yn defnyddio gweddillion yr hen fryngaer fel beili. Roedd Rhys ap Gruffudd (Llansadwrn) yn dal tiroedd yma yn y 14g.

Dyddia'r eglwys bresennol, sydd wedi ei chysegru i Sant Rhystud, o'r flwyddyn 1852, ond gellir gweld rhywfaint o olion yr eglwys flaenorol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrhystud (pob oed) (966)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrhystud) (529)
  
56.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrhystud) (588)
  
60.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanrhystud) (123)
  
30.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]