Emyr Humphreys
| Emyr Humphreys | |
|---|---|
![]() |
|
| Geni | Emyr Humphreys Ebrill 15, 1919 |
| Galwedigaeth | Cynhyrchydd radio, darlithydd, llenor |
| Cenedligrwydd | |
| Addysg | Ysgol Uwchradd y Rhyl Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
| Math o lên | Ffuglen, llenyddiaeth, barddoniaeth |
| Pynciau | Cymru |
| Gwobrau nodedig | Gwobr Somerset Maugham Gwobr Hawthornden Llyfr y Flwyddyn (x2) Gwobr Siân Phillips |
Llenor, bardd a nofelydd Cymreig yw Emyr Humphreys (ganwyd 15 Ebrill 1919), mae'n un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[1]
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Bywyd cynnar [golygu]
Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[2] ger Prestatyn, Sir y Fflint, a mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg yn unig oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio Penyberth yn Llŷn gael ei llosgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[3][4][5]
Gyrfa broffesiynol [golygu]
Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[6] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[7] Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod y 1970au mewn protest yn erbyn diffyg lle a statws i'r Gymraeg ar y teledu yng Nghymru.[4][5]
Gyrfa lenyddol [golygu]
Daeth yn lenor llawn amser ym 1972.[5] Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a cyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[7]
Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[3] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[7][8] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng nghymru.[9] Mae Humphreys yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth[7] ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.[10]
Disgrifwyd ef gan R.S. Thomas fel "the supreme interpreter of Welsh life".[7]
Ar hyn o bryd mae'n byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn.[3][5]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Emyr Humphreys. Wales Arts International. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ A Man's Estate by Emyr Humphreys. Library of Wales. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 4.0 4.1 Old People are a Problem By Emyr Humphreys. The Independent (22 Mehefin 2003). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Gogledd Orllewin: Llên: Emyr Humphreys. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
- ↑ Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
- ↑ Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ Gogledd Orllewin: Pigion: Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
- ↑ Writing Wales in English. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
