Sgwrs:Emyr Humphreys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Trwydded[golygu cod]

Dim ond yn tynnu sylw at newidiad sydd efallai yn ddadleuol ydw i, gan fy mod i wedi gwneud nifer o olygiadau bychain ar yr yn pryd bore 'ma.

Chewch chi ddim ysgrifennu "carcharwyd dros yr iaith Gymraeg" - nid niwtral o gwbl ydy hynny. Rwy wedi ei newid i bennu'r trosedd a gafodd ei farnu'n euog amdano. Croeso i chi ehangu'r frawddeg i esbonio pam gwrthododd talu'r drwydded deledu, os eisiau, ond nid yw'r llysoedd yn carcharu pobl oherwydd yr iaith ei hun... Luke 07:55, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Digon teg, diolch. Doeddwn i methu ffeindio pam gafodd o ei garcharu pan oeddwn i'n ysgrifennu hwnnw. Thaf 09:15, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dwi wedi ychwanegu "mewn protest yn erbyn diffyg lle a statws i'r Gymraeg ar y teledu yng Nghymru" i egluro hyn. Yn ateb i Luke, buasai'n iawn dweud "carcharwyd dros yr iaith Gymraeg", er ei fod yn mynegi barn, os rhoddir ffynhonnell. H.y. protest gwleidyddol oedd gwrthod talu'r drwydded - heb esbonio hynny mae nodi'r ffaith foel, yn unig, "y cafodd ei garcharu am wrthod talu am ei drwydded" yn ystumio'r hanes ac yn gamarweiniol iawn. Anatiomaros 17:58, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]