Clefyd
Mae clefyd yn gyflwr annormal organeb sy'n amharu ar weithrediad y corff. Mewn bodau dynol, mae clefyd yn cael ei ddefnyddio'n fwy eang - i gyfeirio at unrhyw gyflwr sy'n achosi anghysur, camweithrediad, cyfyngder, problemau cymdeithasol a/neu marwolaeth i'r person sy'n dioddef, neu broblemau tebyg ar gyfer y rhai sydd menwn cyswllt gyda'r person. Yn yr ystyr ehangach yma, mae weithiau'n cynnwys anafiadau ac anableddau, anhwylder, syndrom, haint, symptomau, ymddygiad gwyrdröedig, ac amrywiaethau anarferol, tra ar gyfer cyd-destynau eraill gall y rhain gael eu trin fel categoriau gwahaniaethol.
Cynnwys |
Terminoleg [golygu]
Clefyd [golygu]
Mae'r term yma yn lledaenu unrhyw gyflwr annormal sy'n effeithio sut mae'r corff fel arfer yn gweithio.
Afiechyd [golygu]
Yn gyffredinol, yr afiechyd yw symptom y clefyd.
Anhwylder [golygu]
Mewn meddigyniaeth, mae anhwylder yn golygu aflonyddwch i'r corff. Gall anhwylder gael ei gategoreiddio i:-
- Aflonyddwch meddyliol
- Aflonyddwch corfforol
- Aflonyddwch genetig
- Aflonyddwch ymddygiad
- Aflonyddwch gweithredol
Mae'r term yma yn cael ei ystyried yn llai gwael nag afiechyd a chlefyd ac felly fe'i defnyddir yn amlach.
Cyflwyr meddygol [golygu]
Gall y term yma gwmpasu unrhywbeth meddygol. Gall fod yn glefyd, yn afiechyd ac yn aflonyddwch, neu gall fod yn gyflwr megis beichiogrwydd sydd yn gyflwr cadarnhaol.
Morbidrwydd [golygu]
Morbidrwydd yw unrhyw gyflwr afiach. Mae'r term yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at unrhyw glefyd sy'n effeithio ar gleifion.
Sut mae'r corff yn atal clefydau? [golygu]
Croen [golygu]
Mae arwyneb y croen yn atal microbau rhag treiddio'r corff.
Gwaed yn ceulo [golygu]
Mae'r gwaed yn ceulo pan mae'n cael ei ryddhau o'r corff er mwyn atal microbau a firysau rhag treiddio'r corff.
Celloedd gwaed gwyn [golygu]
Mae gan gelloedd gwaed gwyn dair swyddogaeth:
- Amlyncu bacteria
- Cynhyrchu gwrthgyrff - sy'n targedu a dinistrio bacteria a firysau penodol.
- Cynhyrchu gwrthwenwyn sy'n mynd yn erbyn y gwenwyn mae'r bacteria yn ei gynhyrchu.