Hmong

Oddi ar Wicipedia
Hmong
Merched Hmong mewn gwisg draddodiadol mewn marchnad yn Bắc Hà, Fietnam.
Cyfanswm poblogaeth
4–5 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Baner Tsieina Tsieina : 3 miliwn

Baner Fietnam Fietnam : 787,604
Baner Laos Laos : 460,000
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America : 221,948
Baner Gwlad Tai Gwlad Tai : 151,080
Baner Ffrainc Ffrainc : 15,000
Baner Awstralia Awstralia : 2,190
Baner Guiana Ffrengig Guiana Ffrengig : 1,500
Baner Canada Canada : 600

Baner Yr Almaen Yr Almaen : 500
Ieithoedd
Hmongeg
Crefydd
Siamaniaeth, Bwdhaeth, Cristnogaeth, eraill

Grŵp ethnig Asiaidd yw'r Hmong sy'n tarddu o ardaloedd mynyddig Tsieina, Fietnam, Laos, a Gwlad Tai. Is-grŵp o'r Miao o dde Tsieina ydynt. Cychwynodd ymfudiad graddol i'r de yn y 18g o ganlyniad i aflonyddwch gwleidyddol ac i chwilio am dir âr gwell yn Indo-Tsieina.

Ymladdodd nifer o Hmong yn erbyn y Pathet Lao gomiwnyddol yn ystod Rhyfel Cartref Laos. Daethant yn darged am ddial wedi buddugoliaeth y Pathet Lao ym 1975, a bu degoedd o filoedd o Hmong yn ffoi i Wlad Tai. Ymfudodd miloedd ohonynt i wledydd y Gorllewin ers y 1970au, yn bennaf yr Unol Daleithiau ond hefyd Awstralia, Ffrainc, Guiana Ffrengig, Canada, a gwledydd De America. Cafodd eraill eu dychwelyd i Laos gan raglenni gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig. Mae tua 8000 o ffoaduriaid Hmong yn parhau i fyw yng Ngwlad Tai.