Llydaweg Canol

Oddi ar Wicipedia

Llydaweg Canol (Llydaweg: Krennvrezhoneg) yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r iaith Lydaweg ysgrifenedig yn y cyfnod o ddiwedd yr 11g hyd at ran gyntaf yr 17g. Mae'n cyfateb yn fras i Gymraeg Canol, ond ei bod wedi parhau'n hirach fel cyfrwng llenyddiaeth.

Mae etifeddiaeth lenyddol Llydaweg Canol heddiw yn cynnwys barddoniaeth a dramâu gyda thestunau crefyddol yn dominyddu. Ond fe allai'r gweddillion llenyddol hyn fod yn gamarweiniol ac mae'n debyg fod llawer o gynnyrch y cyfnod wedi diflannu.

Cronoleg[golygu | golygu cod]

Gellir rhannu Llydaweg Canol yn dri chyfnod:

  • 1100 - 1450 : Llydaweg Canol Cynnar
  • 1450 - 1600 : Llydaweg Canol Clasurol
  • 1600 - 1659 : Llydaweg Canol Diweddar

Gweithiau llenyddol[golygu | golygu cod]

Llydaweg Canol Clasurol[golygu | golygu cod]

Dyma gyfnod mwyaf cynhyrchiol Llydaweg Canol o ran y llenyddiaeth sydd wedi goroesi. Mae gweithiau llenyddol o'r cyfnod yn cynnwys:

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Francis Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Presses Universitaires de France, 1952; sawl argraffiad diweddarach)
  • Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Gwasg Prifysgol Cymru)
    • Henry Lewis & J. R. F. Piette Llawlyfr Llydaweg Canol (Gwasg Prifysgol Cymru, argraffiad diwygiedig, 1966)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.