MedlinePlus

Oddi ar Wicipedia

Rhwydwaith o wefannau ydy MedlinePlus a Gwyddoniadur Meddygol Medline sy'n cynnwys gwybodaeth am iechyd o lyfrgell meddygol mwya'r byd, sef Llyfrgell Meddygol (Cenedlaethol) Unol Daleithiau America mewn cydweithrediad â Sefydliad Cenedlaethol Iechyd.[1]

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys geiriadur meddygol ar-lein ac mae'n cynnwys mynegai o Lysiau Rhinweddol yn ogystal â mynegai o gyffuriau confensiynol.

Bwriadwyd y wefan ar gyfer darparwyr gofal iechyd yn ogystal â chleifion a chafodd ei chynllunio er mwyn darparu gwybodaeth byw, cyfoes o safon gan ei bod yn cael ei golygu'n ddyddiol gyda'r wybodaeth ddiweddaraf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]