Baner Gwlad Thai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Gwlad Thai FIAV 110110.svg

Fe elwir baner Gwlad Thai yn y Trairanga ("trilliw"). Mae'n cynnwys dau stribed llorweddol coch ar y brig a'r gwaelod, sy'n symboleiddio gwaed bywyd, dau stribed llorweddol gwyn, sy'n cynrychioli purdeb Bwdhaeth, a stribed llorweddol llydan glas yn y canol i symboleiddio'r frenhiniaeth.

Fe elwir Gwlad Thai yn "Wlad yr Eliffant Gwyn", ac ymddangosodd y symbol hwn ar faner goch blaen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ychwanegwyd stribedi llorweddol gwyn uwchben ac o dan yr eliffant. Yn 1917 cafwyd gwared ar yr eliffant, ac ychwanegwyd stribed llorweddol glas i ganol y faner er mwyn cynrychioli undod â'r Cynghreiriaid (yr oedd y mwyafrif o'u baneri hwy yn goch, gwyn a glas); mabwysiadwyd y faner gyfredol hon ar 28 Medi y flwyddyn honno.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Thailand.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Thai. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill