Abercarn
| Abercarn Caerffili |
|
Cymuned a thref fechain ym mwrdeistref sirol Caerffili yw Abercarn, 10 milltir (16 km) i'r gogled orllewin o Gasnewydd ar ffordd yr A467 rhwng Cwmcarn a Threcelyn, lleolir yn sir hanesyddol Sir Fynwy. Mae'n ran o etholaeth seneddol Islwyn. Roedd poblogaeth o 4793 yn ystod cyfrifiad 2001.[1]
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â glofeydd, gweithfeydd dur a phlat tin maes glo de Cymru a Chymoedd de Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn. Mae'r dref yn gorwedd yng nghanol dyffryn Afon Ebwy, ar ymyl de-ddwyreiniol ardal mwyngloddio Morgannwg a Sir Fynwy.
Roedd yn rhan o blwyf hynafol Mynyddislwyn tan yn hwyr yn y 19eg ganrif. Ffurfiwyd bwrdd iechyd ac ardal llywodraeth leol Abercarn ym 1892.[2] Trodd hwn yn ardal trefol Abercarn ym 1894, o dan lywodraeth cyngor lleol gyda 12 o gynghorwyr, ac roedd yr ardal drefol yn cynnwys Crymlyn a Threcelyn. Diddymwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, gan ddod yn rhan o fwrdeistref Islwyn, Gwent. Daeth yn rhan o fwrdeistref sirol Caerffili yn dilyn ad-drefnu 1996.
[golygu] Chwaraeon
Mae Abercarn yn gartref i Abercarn RFC, sy'n aelod o Undeb Rygbi Cymru.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Hanes y pyllau glo lleol ar welshcoalmines.com
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Office for National Statistics Parish Headcounts: Abercarn
- ↑ Ffurfiwyd o dan enw Trecelyn ar 17 Mawrth 1892, ailenwyd yn Abercarn ar 4 Gorffennaf yr un flwyddyn. Adroddiad Cyfrifiad y Sir 1970, (yr hen Sir Fynwy)
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach
