Trychineb Abercarn, 1878

Oddi ar Wicipedia
Trychineb Abercarn, 1878
Glofa Tywysog Cymru cyn 1878
Enghraifft o'r canlynolffrwydrad mewn mwynglawdd, trychineb Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Medi 1878 Edit this on Wikidata
Lladdwyd268 Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
LleoliadAber-carn Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata

Trychineb Abercarn yw'r trydydd trychineb gwaethaf yn hanes Cymru, pan laddwyd 268 o weithwyr ar 11 Medi 1878 yng Nglofa'r Prince of Wales, Abercarn, tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Achoswyd y drychineb gan lamp ddiogelwch a gynheuodd ffrwydrad enfawr yn y pwll glo. Roedd 325 o weithwyr o dan y ddaear ar y pryd, ac anfonwyd timau achub i'r pwll i chwilio am oroeswyr yng nghanol y mwg, y fflamau a'r rwbel.[1] Bu farw tua 268 o ddynion a bechgyn yn y trychineb, a phenderfynwyd cau'r siafft, gan ei gorlifo â dŵr i ddiffodd y fflamau. O ganlyniad, arhosodd cyrff y rhai a fu farw yn y digwyddiad o dan y ddaear. Heddiw fe'u cofir yn lleol gyda charreg goffa ym mynwent Abercarn a olwyn fawr y pwll a murlun efydd ar safle'r trychineb.

Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â gweithfeydd dur a phlat tun hefyd yn ogystal â Chymoedd De Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.thenational.wales arlein;[dolen marw] adalwyd 22 Tachwedd 2021.