Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision

Oddi ar Wicipedia
Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision
Enghraifft o'r canlynoldamwaith gwaith mwyngloddio Edit this on Wikidata
LleoliadCilybebyll Edit this on Wikidata
Map

Digwyddodd Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision (neu Glofa'r Gleision) ar 15 Medi, 2011; lleolir y lofa ger pentref Cilybebyll, Cwm Tawe. Roedd saith glöwr wrth eu gwaith yn trin ffrwydron, mewn gwythïen o lo, ac o ganlyniad i ffrwydrad, am 09.21, llifodd dŵr trwy'r creigiau; bu farw pedwar. Glofa Gleision ydy un o’r ychydig byllau glo sydd ar ôl yng Nghymru sy'n defnyddio dulliau hen ffasiwn a dyma'r drychineb waethaf mewn glofa am 30 blynedd.[1] Cyfansoddodd y bardd Gwyneth Lewis gerdd "Gleision" am y drychineb ar ôl ymweld â'r pentref.[2]

Wedi'r ffrwydriad, dihangodd tri o'r saith glöwr am eu bywydau i fyny i'r wyneb. Cymerwyd un o'r rhain yn syth i uned gofal dwys Ysbyty Treforys yn Abertawe a chychwynodd y tîm achub ar y gwaith o ganfod y pedwar a oedd yn weddill.

Yn dilyn y drychineb[golygu | golygu cod]

Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y pwll yn gyflym iawn a gweithiodd y Frigâd Dân a Thîm Achub y Glöwyr (gydag aelodau o Gymru a Lloegr) ar y cyd 90m (300tr) o dan yr wyneb.[3][3][4] Ar 16 Medi 2011 cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod cyrff pedwar glöwyr wedi'u darganfod, dyma'r trefn cawsom eu hachub :- Charles Breslin, 62; David Powell, 50; Garry Jenkins, 39; a Phillip Hill, 45. Ar 16 Medi cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cynhelid ymchwiliad gan Heddlu De Cymru (a Gweithgor Iechyd a Diogelwch y Cynulliad ychydig wedyn) a bod gwersi i'w dysgu; cytunodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gyda hyn.[5]

Ar 17 Medi rhyddhaodd yr Aelod Seneddol lleol dros Gastell-nedd ei fod wedi cysylltu gyda pob un o deuloedd y mwynwyr hyn ac nad oedd unrhyw un ohonynt wedi nodi unrhyw gonsyrn am iechyd a diogelwch y lofa. Dywedodd hefyd, "Mae'r drychineb hon yn gyllell drwy galon y gymuned... ac mae wedi cyffwrdd bywydau miloedd o bobl ym Mhrydain ac ar draws y byd."[6][7]

Llys[golygu | golygu cod]

Ar 18 Hydref 2011 arestiwyd Malcolm Fyfield, rheolwr Tarenni Gleision, ar amheuaeth o ddynladdiad.[8] yn dilyn ymchwiliad pellach gan Heddlu De Cymru, cafodd ei gyhuddo ddynladdiad ac esgeulustod difrifol.[9] Gwyswyd perchennog y lofa (sef MNS Mining Ltd) hefyd i ymddangos o flaen y llys ar yr un diwrnod.[10]

Ar 19 Mehefin 2014, yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe, a gymerodd bron i dri mis, cafwyd Malcolm Fyfield yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd,[11] a chafwyd MNS Mining, hefyd yn ddieuog o'r pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol drwy esgeulustod dybryd. Bu'r rheithgor yn ystyried am lai na dwy awr.[12]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

'Man lle bydd dŵr, olew, ayb yn codi ac yn ffrydio o'r ddaear, (llygad) ffynnon, tarddle' yw ystyr 'taren' (neu 'taddell' yn wreiddiol). Mae "gleision" yn ansoddair lluosog y gair "glas".[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Taylor, Jerome; Judd, Terri (17 Medi 2011). "The day hope died: No survivors in mining disaster". The Independent. Independent Print Limited. Cyrchwyd 21 Medi 2011. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  2. ""Gleision Mining disaster"". Gwynethlewis.com. Cyrchwyd 4 Hydref 2011.
  3. 3.0 3.1 "Trapped miners: Divers sent into Swansea Valley mine". BBC News. BBC. 16 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
  4. "Four miners trapped in Swansea Valley mine, three freed". BBC News. BBC. 15 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
  5. "Welsh mine tragedy: Inquiry after four Gleision deaths". BBC News. BBC. 17 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
  6. "Welsh mine tragedy: Safety pledge on Gleision deaths". BBC News. BBC. 17 Medi 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
  7. Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 10 Hydref 2015
  8. "Arrest over four miners' deaths at Gleision colliery". BBC News. BBC. 18 Hydref 2011. Cyrchwyd 18 Hydref 2011.
  9. "Gleision disaster: Mine manager charged over four deaths". BBC News. BBC. 18 Ionawr 2013. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
  10. "Gleision Colliery mine manager and company charged over four deaths". Western Mail. Trinity Mirror. 18 Ionawr 2013. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
  11. walesonline.co.uk; adalwyd 10 Hydref 2015
  12. golwg360.cymru; adalwyd 10 Hydref 2015
  13. Geiriadur Prifysgol Cymru (CPC); adalwyd 2015