Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Owain Glyndwr (cylfwyniad)

Oddi ar Wicipedia

Yn ddisgynnydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd neu Owain Glyndyfrdwy (1354 – tua 1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Defnyddir yr enw Owain Glyndŵr hefyd, ac Owen Glendower yn Saesneg. Rhoddwyd iddo hefyd y llysenw "Y Mab Darogan".

Ganwyd Owain Glyndyfrdwy yn 1359. Roedd yn etifedd llinach Powys Fadog ar ochr ei dad, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth ar ochr ei fam. Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.

Yn 1400 cododd helynt ynghylch tir rhwng Owain Glyndŵr ag Arglwydd Grey o Ruthun, barwn pwerus o Loegr a oedd yn byw gerllaw. Pan ochrodd Harri IV â Grey, ymosododd Glyndŵr a’i ddilynwyr ar dref Rhuthun a threfi Cymreig eraill ger y ffin â Lloegr, gan achosi difrod mawr. Ar Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi 1400) llosgodd Owain dref Rhuthun i'r llawr, heblaw'r castell. Erbyn diwedd 1401 roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r wlad yn cefnogi’r gwrthryfel. Rhwng 1401 ac 1404 ymledodd y gwrthryfel ar draws Cymru a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Cipiwyd cestyll Harlech ac Aberystwyth a threchwyd byddinoedd Lloegr yn Cwm Hyddgen a Bryn Glas yng nghanolbarth Cymru. Gan sylweddoli y byddai’n rhaid iddo drechu’r Saeson mewn brwydr fawr, cynhaliodd Glyndŵr, a oedd yn galw ei hun yn Dywysog Cymru, senedd arbennig ym Machynlleth i godi arian ar gyfer yr achos (y senedd gyntaf o’i math yng Nghymru). Yn y Senedd a gynhaliwyd ym Machynlleth roedd cynrychiolwyr o Ffrainc, yr Alban a Sbaen. Ffurfiodd gynghreiriau â Dug Northumberland ac Edmund Mortimer, gelynion Harri IV, a lluniodd gynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.

Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond erbyn 1405, fodd bynnag, roedd y llanw wedi dechrau troi a threchwyd byddinoedd Glyndŵr yn y Grysmwnt a Brynbuga. Daeth dim cymorth gan y Ffrancwyr a’r Albanwyr ac ildiodd dynion Morgannwg, Gŵyr, Tywi, Ceredigion ac Ynys Môn i frenin Lloegr. Erbyn 1408 roedd cadarnleoedd pwysig Harlech ac Aberystwyth wedi’u hadennill a daeth y gwrthryfel i ben. Cafwyd rhai cyrchoedd ar ôl hyn ond erbyn 1415 daeth y gwrthryfel i ben a diflannodd Glyndŵr. Roedd llawer o ddifrod wedi’i wneud a nifer mawr wedi marw a daeth pethau’n anodd pan gyflwynwyd cyfreithiau gwrth-Gymreig gan Harri IV. I rai teuluoedd cyfoethog, daeth y gwrthryfel â’u hawdurdod i ben. Newidiodd eraill eu teyrngarwch i Harri IV ac aeth llawer o’r dynion a oedd wedi ymladd ochr yn ochr â Glyndŵr ymlaen i ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Agincourt (1415). Yn ystod y gwrthryfel, roedd y Cymry wedi uno o dan arweinydd cenedlaethol gan blannu gweledigaeth o Gymru annibynnol.

Mae Owain Glyndwr yn sefyll fel unigolyn pwysig yn hanes Cymru oherwydd roedd nid yn unig oedd e’n cael ei weld fel arweinydd cenedlaethol ond roedd hefyd yn wleidydd a oedd yn gweld rôl i Gymru oddi fewn cyd-destun Ewropeaidd. Yn Llythyr Pennal a ysgrifennwyd yn 1406 mae’n ceisio llunio cysylltiadau gyda Ffrainc drwy ddangos cefnogaeth i Pab Avignon yn hytrach na Phab Rhufain a gefnogwyd gan Lloegr. Yn y Llythyr mae Glyndwr hefyd yn amlinellu ei syniad o sut fyddai’n creu Cymru annibynnol drwy sefydlu dwy prifysgol yng Nghymru (yn y de a’r gogledd), Eglwys annibynnol i Gymru a oedd ganddi gronfa arian ei hunan a Chymry Cymraeg yn cael eu hapwyntio i swyddi uchel yn yr Eglwys.

Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes neb yn sicr beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o arwyr pwysicaf y genedl ac mae cerflun ohono yn oriel arwyr cenedlaethol Neuadd y Ddinas, Caerdydd.[1][2]

  1. "Datblygu Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 29 April 2020.
  2. "OWAIN GLYNDWR (c. 1354 - 1416), 'Tywysog Cymru' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-29.