Pabaeth Avignon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwladwriaeth yr Eglwys
Stato della Chiesa
Status Ecclesiasticus
Clofan Taleithiau'r Babaeth a rhan o'r Comtat Venaissin yn Nheyrnas Ffrainc

 

Pabaeth Avignon
1309–1378/1437

 

Baner Taleithiau'r Babaeth Arfbais Pabaeth Avignon
Map o Daleithiau'r Babaeth a chlofan Avignon yn Ffrainc.
Prifddinas Avignon
Ieithoedd Lladin, Profensaleg, Ocsitaneg, Ffrangeg
Crefydd Yr Eglwys Gatholig
Llywodraeth Brenhiniaeth etholedig
absoliwt a theocrataidd
Pabau
 -  1305–1314 Clement V (cyntaf)
 -  1370–1378 Grigor XI (olaf)
 -  1430(?)–1437 Bened XIV (gwrth-bab olaf)
Cyfnod hanesyddol Yr Oesoedd Canol Diweddar
 -  Symudwyd Llys y Pab i Avignon 1309
 -  Return to Rome, the last Avignon pope 13 Medi 1378
 -  Gwrth-bab olaf Avignon 1437
Arian cyfred Sgwdo
Heddiw'n rhan o

Enw ar gyfnod yn hanes yr Eglwys Gatholig yw Pabaeth Avignon pan fu'r pabau yn breswyl yn Avignon yn ne-ddwyrain Ffrainc o 1309 i 1377. Teyrnasoedd saith pab o Avignon: Clement V (1305–14), Ioan XXII (1316–34), Bened XII (1334–42), Clement VI (1342–52), Innocentius VI (1352–62), Urbanus V (1362–70), a Grigor XI (1370–78).

Yn sgil marwolaeth y Pab Bened XI yn 1304, cynhaliwyd conclaf yn Perugia am flwyddyn gyfan bron i ddewis ei olynydd. Rhennid cydbwysedd grym y cardinaliaid rhwng y Ffrancod a'r Eidalwyr. O'r diwedd, etholwyd y Ffrancwr Raymond Bertrand de Got, cyn-archesgob Bordeaux nad oedd ei hun yn gardinal, yn Bab Clement V. O ganlyniad i'r ymraniadau a'r ymgecru yn Rhufain, llwyddodd Philippe IV, brenin Ffrainc i ddwyn perswâd ar Clement V i symud prifddinas y Babaeth i Avignon. Ar y pryd, rhan o Deyrnas Arles, neu Deyrnas y Ddwy Fwrgwyn, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Avignon.

Dan olynydd Clement, y Pab Ioan XXII, sefydlwyd llys pabaidd newydd yn Avignon i weinyddu materion eglwysig ac i gynnal cynghorau diwinyddol a gwleidyddol. Yn y cyfnod hwn hefyd cyflwynwyd diwygiadau i'r glerigiaeth, hyrwyddwyd addysg y prifysgolion, ac anfonwyd cenadaethau i wledydd pell, gan gynnwys Tsieina. Yn 1348 daeth Avignon dan berchenogaeth uniongyrchol y Babaeth.

Yn 1327 arweiniodd Ludwig, Dug Bafaria (yn ddiweddarach Louis IV, Ymerawdwr Glân Rhufeinig) ymgyrch i Rufain i orseddu Marsilius o Padua, yr hwn a gondemniwyd yn heretic gan Babaeth Avignon. Gwrthwynebwyd ail-leoliad y Babaeth gan sawl brenhinllin yn Ewrop, yn enwedig Teyrnas Lloegr, a oedd yn ei gweld yn daeogaidd i ddiddordebau Ffrainc. Er oedd bob un o'r saith pab a etholwyd, a 111 o'r 134 o gardinaliaid a benodwyd, yn Avignon yn Ffrancod, mae haneswyr diweddar wedi dangos nad oedd Pabaeth Avignon bob tro yn ildio i gymhellion y Ffrancod. Cafodd ei beirniadu hefyd gan y Santes Gatrin o Siena ac eraill am lygredigaeth a dirywiad moesol.

Dychwelodd y Babaeth i Rufain yn 1377 dan Grigor XI, ac etholwyd ail bab gan y cardinaliaid yn Avignon, gan sbarduno'r Sgism Fawr (1378–1417) yn yr Eglwys Gatholig. Bu olyniaeth o wrth-babau yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]