Uwch Gynghrair Ynysoedd Faroe

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Uwch Gynghrair Ynysoedd Faroe yw prif adran pêl-droed Ynysoedd Faroe. Fe'i ffurfiwyd yn 2005 gan gymryd lle 1. deild (Cymraeg: Adran Gyntaf). Oherwydd rhesymau nawdd, caiff y gynghrair ei hadnabod fel Effodeildin hyd nes diwedd tymor 2017[1].

Mae 10 clwb yn y gynghrair gyda dau dîm yn disgyn a dau dîm yn esgyn o 1. deild ar ddiwedd pob tymor.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfiwyd cynghrair swyddogol cyntaf yn Ynysoedd Faroe ym 1942 wrth i KÍ Klaksvík, TB Tvøroyri, B36 Tórshavn a HB Tórshavn sefydlu'r Meistaradeildin (Cymraeg: Adran y Pencampwyr). Ym 1976 sefydlwyd y 1. deild (Cymraeg): Adran Gyntaf) ac am y tro cyntaf roedd timau yn disgyn ac yn esgyn rhwng y 1. deild a 2. deild (Cymraeg: Ail Adran).

Ers 1992 mae clybiau Ynysoedd Faroe wedi cystadlu yng nghystadlaethau UEFA.

Y clwb mwyaf lwyddiannus yn hanes y gynghrair yw HB Tórshavn sydd wedi ennill 22 o bencampwriaethau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.