NSÍ Runavík
| Enw llawn | Nes Sóknar Ítróttarfelag Runavík | ||
|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 24 Mawrth 1957 | ||
| Maes | Stadiwm Runavík, Við Løkin Runavík, Ynysoedd Ffaro (sy'n dal: 2,000) | ||
| Cadeirydd | Dánial Hansen | ||
| Rheolwr | Glenn Ståhl | ||
| Cynghrair | Betrideildin | ||
| 2025 | Betrideildin, 3. | ||
| Gwefan | Hafan y clwb | ||
| |||
Clwb pêl-droed yn Ynysoedd Ffaro yw NSÍ Runavík, sy'n chware yn nhref Runavík. Sefydlwyd y clwb ar 24 Mawrth 1957. Yn 2003 cymerodd NSÍ ran am y tro cyntaf ar lwyfan gemau Ewropeaidd cystadlaethau UEFA.
Yn 2007, enillodd y clwb Uwch Gynghrair Ynysoedd Ffaro am y tro cyntaf.
Mae'r clwb wedi ennill Cwpan Ynysoedd Ffaro ym 1986, 2002 a 2017. Ar wahân i'r achosion hyn, ymddangosodd NSÍ Runavík yn rowndiau terfynol twrnamaint 1980, 1985, 1988, 2004 a 2015.
Cit a Stadiwm
[golygu | golygu cod]

Mae'r clwb yn chwarae mewn melyn a du. Mae gan eu stadiwm (Við Løkin) le i 2,000. Nid yw'n cael ei gymeradwyo gan UEFA ar gyfer chwarae rhyngwladol, felly mae Runavík yn chwarae eu gemau Cynghrair Europa UEFA yn Tórsvøllur yn y brifddinas, Tórshavn neu Svangaskarð yn Toftir. Prif noddwr NSÍ yw Bakkafrost, sydd wedi'i leoli yn Glyvrar ger Runavík a dyma'r cwmnïau ffermio eogiaid mwyaf yn Ynysoedd Ffaro ac mae'n un o'r cyflogwyr preifat mwyaf yn yr ynysoedd, os nad y mwyaf.[1]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Uwch Gynghrair Ynysoedd Ffaro: 1
- 2007
- Cwpan Ynysoedd y Ffaro: 3
- 1986, 2002, 2017
- Cwpan Super Ynysoedd y Ffaro: 1
- 2008
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Trosolwg
[golygu | golygu cod]| Cystadleuaeth | Gemau | E | Cyf | Colli | GF | GA |
|---|---|---|---|---|---|---|
| UEFA Champions League | 2 | 1 | 0 | 1 | 1 | 3 |
| Cwpan UEFA / Cynghrair Europa UEFA | 22 | 1 | 2 | 19 | 13 | 64 |
| Cwpan Intertoto UEFA | 2 | 0 | 0 | 2 | 1 | 7 |
| CYFANSWM | 26 | 2 | 2 | 22 | 15 | 74 |
Gemau
[golygu | golygu cod]| Tymor | Cystadleuaeth | Cymal | Clwb | Cartref | Oddi cartref | Agregad |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 2003–04 | Cwpan UEFA | QR | 1–3 | 0–6 | 1–9 | |
| 2004 | Cwpan Intertoto UEFA | 1R | 0–4 | 1–3 | 1–7 | |
| 2005–06 | Cwpan UEFA | 1Q | 0–3 | 0–3 | 0–6 | |
| 2008–09 | UEFA Champions League | 1Q | 1–0 | 0–3 | 1–3 | |
| 2009–10 | Cynghrair Europa UEFA | 1Q | 0–3 | 1–3 | 1–6 | |
| 2010–11 | 1Q | 0–2 | 1–2 | 1–4 | ||
| 2011–12 | 1Q | 0–0 | 0–3 | 0–3 | ||
| 2012–13 | 1Q | 0–3 | 0–3 | 0–6 | ||
| 2015–16 | 1Q | 4–3 | 0–2 | 4–5 | ||
| 2016–17 | 1Q | 0–2 | 0–5 | 0–7 | ||
| 2017–18 | 1Q | 0–2 | 1–2 | 1–4 | ||
| 2018–19 | 1Q | 4–6 | 1–6 | 5–12 | ||
| 2019–20 | PR | 0–0 | 0–2 | 0–2 | ||
| 2020–21 | PR | 5-1 | Ddim ar gael | Ddim ar gael | ||
- Allwedd
- 1R: Rownd 1af
- QR: Rownd Cymwyso (qualifying)
- PR: Rownd Rhagbrofol (preliminary)
- 1Q: Rownd Cymwyso 1af
NSÍ Runavík a thimau Cymru
[golygu | golygu cod]Achosodd buddugoliaeth Runavík yn erbyn Y Barri ym mis Awst 2020 i sawl cwestiwn gael ei ofyn am berfformiad y tîm Cymreig ac o safon pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru. Galwyd y colliant yn "embaras" i'r tîm o Gymru a bu geiriau cryfion ar y cyfryngau cymdeithasol. Mewn cyfweliad hir a dwfn ar raglen Sgorio a ddarlledwyd ar Facebook derbyniodd y rheolwr, Kavin Chesterfield, yr holl feirniadaeth ond cododd hefyd y cwestiwn a ddylai Premiere Cymru symud ei thymor chwarae i chware yn yr haf yn hytrach na thros y gaeaf er mwyn rhoi mwy o gyfle ymarfer a ffitrwydd i'r chwarewyr Cymreig.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Bakkafrost Chief Financial Officer quits". Fishupdate.com. 7 October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 September 2015. Cyrchwyd 23 September 2015.
- ↑ https://www.facebook.com/watch/?v=663016374595795
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
Cyfryngau perthnasol NSÍ Runavík ar Gomin Wicimedia