Ugo Savarese

Oddi ar Wicipedia
Ugo Savarese
Ganwyd2 Rhagfyr 1912 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1997 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Roedd Ugo Savarese (2 Rhagfyr 1912 - 19 Rhagfyr 1997) yn fariton operatig Eidalaidd, a oedd yn cael ei gysylltu yn arbennig gyda repertoire'r Eidal.[1]

Dechreuodd Savarese ei astudiaethau lleisiol ym 1930 yn y "Conservatorio San Pietro a Majella" yn Napoli gyda Maestro Conte. Gwnaeth ei début lwyfan cyntaf ym 1934, yn y Teatro San Carlo yn Napoli, gan ganu rolau bach. Canodd ei rôl fawr gyntaf, Silvio yn Pagliacci gan Ruggero Leoncavallo yno ym 1938, ac yna rôl teitl Rigoletto a Germont yn La traviata.

Fel y rhan fwyaf o gantorion ei genhedlaeth, amharwyd ar ei yrfa gan wasanaeth milwrol. Ailddechreuodd ei yrfa ar ôl bod yn garcharor mewn Gwersyll Rhyfel yn yr Almaen, gan ymddangos yn Dachau. O hynny ymlaen, aeth ei yrfa yn ei flaen yn gyson, gydag ymddangosiadau gwadd yn yr Opéra-Comique a'r Palais Garnier ym Mharis, y Teatro Nacional Sao Carlos yn Lisbon, y Liceu yn Barcelona, a'r Teatro Real ym Madrid. Bu hefyd yn ymddangos yn Llundain, Monte Carlo, Zurich, Brwsel, Leningrad (St Petersburg, bellach ) ac ati, lle cafodd ei werthfawrogi'n arbennig yn rolau Verdi.

Canodd y rhan fwyaf o rolau bariton repertoire'r Eidal mewn opera fel; Macbeth, Il trovatore, Un ballo in maschera, Aida, La Gioconda, Fedora, Tosca, ac ati.

Ni chyrhaeddodd Savarese lefel enwogrwydd rhai o'i gyfoeswyr megis Tito Gobbi, Giuseppe Valdengo a Gino Bechi, ond mae ei recordiadau lu yn arddangos llais a addysgwyd yn dda a pherfformiwr cadarn, fel yn Il trovatore ac Andrea Chénier gyferbyn Renata Tebaldi, La traviata gyferbyn Maria Callas [2] a La fanciulla del West gyferbyn Carla Gavazzi.

Canodd tan ddechrau'r 1970au, a bu'n dysgu o 1974 i 1996.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ugo Savarese ar All Music adalwyd 3 Mai 2019
  2. The Rough Guide to Opera, Matthew Boyden & Nick Kimberley Tud 231 Penguin Group, 1999 ISBN 1858284562