Monte-Carlo

Oddi ar Wicipedia
Monte-Carlo a Harbwr Monaco

Cymdogaeth (quartier) fwyaf Tywysogaeth Monaco yw Monte-Carlo. Mae'n enwog ar draws y byd am ei casino a'i gwestai moethus ac fel lleoliad Rali Monte-Carlo. Saif ar lan y Môr Canoldir gan ffinio â'r Eidal i'e dwyrain. I'r gorllewin ceir Harbwr Monaco (Port de Monaco), sydd fel rheol yn llawn o gychod moethus.

Ceir traethau braf ym Monte-Carlo sy'n boblogaidd gan dwristiaid. Nodweddir y gymdogaeth hefyd gan ei sinemau a'i chanolfannau siopa, yr amgueddfeydd, y neuadd arddangosfa, a chlybiau chwaraeon niferus.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]