Theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o brif feysydd diwylliannol yr iaith Iddew-Almaeneg yn Unol Daleithiau America oedd y theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau a flodeuai yn Ninas Efrog Newydd yn bennaf o'r 1880au hyd at y 1940au. Iddew-Almaeneg oedd iaith frodorol y mwyafrif helaeth o'r Iddewon Ashcenasi a ymfudasant o Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop i'r Unol Daleithiau yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Y cyfnod cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Boris Thomashefsky, sefydlydd y theatr Iddew-Almaeneg yn Efrog Newydd.

Yn 1876 sefydlwyd y cwmnï theatraidd cyntaf yn y byd ar gyfer perfformiadau drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg gan Abraham Goldfaden yn Iași, Tywysogaeth Rwmania, ac yn 1878 fe sefydlodd y chwaraedy Iddew-Almaeneg cyntaf yn Odessa, Ymerodraeth Rwsia. Ymledodd y theatr Iddew-Almaeneg ar draws Ewrop, ac ymhen fawr o dro i'r Unol Daleithiau, ac yno yn ardal de-ddwyrain Manhattan, un o fwrdeistrefi Dinas Efrog Newydd a chanolfan ddiwylliannol yr Americanwyr Iddewig. Yn y 1880au, mynychodd Iddewon Efrog Newydd chwaraedai ar stryd y Bowery a oedd yn cynnal perfformiadau vaudeville a dramâu Almaeneg, er yr Iddew-Almaeneg oedd yn famiaith i nifer ohonynt. Y gwaith Iddew-Almaeneg cyntaf i'w berfformio ar lwyfan yn yr Unol Daleithiau oedd די מכשפה (Koldunye, "Y Wrach"), opereta gan Goldfaden, a gynhyrchwyd gan Boris Thomashefsky, gweithiwr ffatri yn ei arddegau a ymfudodd o'r Wcráin yn 1881. Fe'i cynhaliwyd yn Turn Hall, ger y Bowery, yn 1882, gydag actorion a oedd newydd gyrraedd o Ewrop. Er i rai Iddewon crachaidd wrthwynebu diwylliant yn iaith y werin, cafodd Thomashefsky lwyddiannau hynod gyda'i gynyrchiadau ac efe oedd impresario cyntaf y theatr Iddew-Almaeneg yn Efrog Newydd. Fe berfformiodd ar y llwyfan hefyd, a daeth yn eilun matinée mewn dramâu megis The Yeshiva Student ac Alexander Crown Prince of Jerusalem.[1]

Hysbyslen ar gyfer addasiad o Hamlet gan Theatr Iddew-Almaeneg Thalia, a'r actores Bertha Kalich yn chwarae'r brif ran (1890au).

Blodeuai theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn modd nad oedd yn bosib yn Ymerodraeth Rwsia, lle bu sensoriaeth yn atal twf diwylliant o'r fath. Erbyn 1883, gwaharddwyd perfformiadau Iddew-Almaeneg yn yr ymerodraeth, ac o ganlyniad ymfudodd rhagor o berfformwyr i'r Unol Daleithiau. Ymgasglent yn y Lower East Side ym Manhattan, a ddatblygodd yn ganolfan ryngwladol y theatr Iddew-Almaeneg gyda nifer o chwaraedai a chwmnïau yn cystadlu am gynulleidfaoedd yn y Bowery a'r cyrion. Cynhaliwyd perfformiadau newydd drwy gyfrwng yr iaith, gan gynnwys operetâu gyda themâu Beiblaidd a melodramâu yn ymwneud â bywyd mewnfudwyr.[1] Yn ogystal â gweithiau gwreiddiol gan ddramodwyr Iddewig, perfformiwyd clasuron y theatr Ewropeaidd drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg ar gyfer cynulleidfaoedd o Iddewon Americanaidd, gan gynnwys addasiadau poblogaidd o Shakespeare gydag elfennau wedi eu "Hiddeweiddio". Ysgrifennwyd amrywiaeth o ddramâu yn Iddew-Almaeneg, yn nodweddiadol o uwchddiwylliant ac isddiwylliant, gan gynnwys sioeau sentimental neu gynhyrfus, dramâu hanesyddol, a gweithiau realaidd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol. Sbardunwyd dadleuon cyhoeddus ynglŷn â goblygiadau moesol, gwleidyddol, ac esthetaidd diwylliant poblogaidd gan y theatr Iddew-Almaeneg, a chafodd ddylanwad grymus ar foderneiddio bywydau'r mewnfudwyr Iddewig yn yr Unol Daleithiau.[2]

Mudiadau amrywiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn dechrau'r 20g, saif o leiaf deuddeg theatr Iddew-Almaeneg gyda 2000 o seddi yn y Lower East Side ac yn ardal Harlem yng ngogledd Manhattan, ac ym mwrdeistrefi Brooklyn a'r Bronx. Codwyd y chwaraedy cyntaf ar gyfer perfformiadau Iddew-Almaeneg yn unig, y Grand Street Theater, yn 1903, ac adeiladwyd rhagor ohonynt ar Second Avenue a strydoedd eraill. Second Avenue oedd yn ganolbwynt i'r hyn a elwid Ardal y Theatr Iddew-Almaeneg, neu'r Rialto Iddewig, ym Manhattan. Datblygodd y theatr Iddew-Almaeneg mewn dinasoedd Americanaidd eraill, gan gynnwys Philadelphia, Chicago, Detroit, a Boston, a bu chwaraedai yn cynnal perfformiadau gan sêr ar daith yn ogystal â chwmnïau preswyl.[3]

Yn ogystal â pherfformiadau byw, roedd recordiadau sain a cherddoriaeth ddalen yn boblogaidd ymysg mynychwyr theatr oedd yn awyddus i fwynhau'r diwylliant hwn yn eu cartrefi.[2]

Realaeth gymdeithasol[golygu | golygu cod y dudalen]

Arloeswyd y mudiad realaeth gymdeithasol yn theatr Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau gan y sosialydd Jacob Gordin, a ymfudodd i Efrog Newydd yn 1891. Ymdrechodd i amlygu arddull realaidd celfydd yn ei waith yn ogystal â mynegi ei daliadau sosialaidd. Ymddangosodd yr actor Jacob P. Adler mewn nifer o'i ddramâu, gan gynnwys Siberia, God, Man and Devil, a The Wild Man.[1]

Theatr gerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'r theatr gerdd Iddew-Almaeneg ar ei hanterth yn y 1910au, y 1920au, a'r 1930au. Cyfansoddwyd sgorau i'w llwyfannu gan gyn-fyfyrwyr y conservatoires, yn eu plith Joseph Rumshinsky, Alexander Olshanetsky, Abraham Ellstein, a Sholem Secunda. Tinc o alawon y traddodiad Hasidig sydd gan ganeuon sioe Rumshinsky, yr hwn sydd bennaf gyfrifol am gyflwyno'r pwll cerddorfa i'r theatr Iddew-Almaeneg. Cafodd Olshanetsky lwyddiant ysgubol gyda'r gân "I Love You Much Too Much", a gyfansoddwyd ar gyfer y sioe "The Organ-grinder". Ymhlith sêr y theatr gerdd Iddew-Almaeneg oedd Molly Picon, Luba Kadison, a Menasha Skulnik.[4]

Dirywiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sgil yr Ail Ryfel Byd, newidiodd statws yr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn dwy ffordd. Dirywiodd y niferoedd o Americanwyr Iddewig a oedd yn defnyddio'r iaith yn ddyddiol, wrth iddynt gymhathu at y diwylliant Saesneg. Ar yr un pryd, enillodd Iddew-Almaeneg safle bwysig yn yr ymwybyddiaeth Iddewig, fel iaith symbolaidd er cof am y miliynau o siaradwyr a lofruddiwyd gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Holocost. Nid oedd bellach yn iaith mewnfudwyr, ond yn iaith etifedd a werthfawrogwyd gan y genedlaethau ifainc a anwyd yn y wlad fel mamiaith yr hen do. Profodd y theatr Iddew-Almaeneg, a phob agwedd arall o ddiwylliant Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau, ddirywiad araf. Caeodd Maurice Schwartz ddrysau'r Yiddish Art Theatre yn 1950, wedi 32 tymor o berfformiadau.[5]

Yn y 1950au, cynhyrchodd Jacob Jacobs gyfieithiadau Iddew-Almaeneg o sioeau Broadway yn chwaraedai Second Avenue, gan gynnwys The Student Prince ac Anna Lucasta, ac enillodd Joseph Buloff glod am drosi'r ddrama Death of a Salesman gan Arthur Miller. Adloniant amrywiaethol a theatr fiwsig a oedd yn boblogaidd yn y 1960au a'r 1970au, a serennodd Molly Picon mewn rhagor o sioeau cerdd comedi megis The Kosher Widow ac A Cowboy in Israel. Yn 1973 cafwyd y sioe ysgubol lwyddiannus olaf yn hanes theatr Iddew-Almaeneg Second Avenue: Hard to Be a Jew gan Sholem Aleichem, gyda cherddoriaeth gan Sholem Secunda ac yn serennu Joseph Buloff a Miriam Kressyn. Erbyn 1977, nid oedd yr un chwaraedy Iddew-Almaeneg yn sefyll yn y Lower East Side.[5] Dau gwmni theatraidd yn unig sydd o hyd yn cynnal perfformiadau Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau, y ddau ohonynt o Efrog Newydd: National Yiddish Theater Folksbiene (NYTF) a'r New Yiddish Rep.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Caraid O’Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 455.
  2. 2.0 2.1 Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 450.
  3. O'Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 455–6.
  4. O'Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 456.
  5. 5.0 5.1 O'Brien, "Yiddish theater" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 457.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Luba Kadison, Joseph Buloff, ac Irving Genn, Onstage, Offstage: A Lifetime in the Yiddish Theater (Harvard University Press, 1992).
  • David S. Lifson, The Yiddish Theatre in America (Cranbury, NJ: Yoseloff, 1965).
  • Nahma Sandrow, Vagabond Stars: A World History of Yiddish Theater (Efrog Newydd: Harper and Row, 1977).