Sensoriaeth

Oddi ar Wicipedia

Ystyr sensoriaeth ydy pan fo'r rhyddid i gael llefaru neu gyfathrebu gwybodaeth benodol yn cael ei rwystro neu'i orthrymu. Gan amlaf, ystyrir y wybodaeth hon yn sensitif, anghyfleus, yn beryglus neu'r wrthwynebus o safbwynt y llywodraeth, cyfryngau neu gorff rheolaethol arall.

Rhesymeg dros sensoriaeth[golygu | golygu cod]

Amrywia'r rhesymau am sensoriaeth yn dibynnu ar y math o wybodaeth a gaiff ei sensro:

  • Sensoriaeth foesol ydy cael gwared ar ddeunydd a ystyrir yn anweddus neu o foesoldeb amwys. Er enghraifft, yn aml sensorir pornograffi am y rheswm hwn.
  • Sensoriaeth filwrol yw'r broses o gadw gwybodaeth filwrol a dulliau milwrol yn gyfrinachol ac allan o law'r gelyn. Defnyddir hyn i wrthsefyll sbio, sef y broses o ddarganfod gwybodaeth filwrol. Yn aml, bydd lluoedd arfog yn ceisio gorthrymu gwybodaeth sydd yn anghyfleus yn wleidyddol er nad oes gan y wybodaeth unrhyw werth milwrol go iawn.
  • Sensoriaeth wleidyddol ydy pan nad yw llywodraeth yn rhannu gwybodaeth gyda dinasyddion y wlad. Gwneir hyn er mwyn medru rheoli'r boblogaeth ac er mwyn atal rhwystro'r rhyddid i lefaru a allai achosi gwrthryfel.
  • Sensoriaeth grefyddol yw pan fo rhywbeth a ystyrir yn ddadleuol gan rhyw ffydd benodol yn cael ei ddileu. Yn aml bydd hyn yn digwydd pan fo crefydd mawr yn gorfodi cyfyngiadau ar grefyddau llai.
  • Sensoriaeth gorfforaethol yw'r broses pan fo golygyddion yn y cyfryngau corfforaethol yn amharu ar y broses o gyhoeddi gwybodaeth a fyddai'n darlunio eu busnes neu eu partneriaid busnes hwy mewn modd negyddol.

Sensoriaeth gwybodaeth[golygu | golygu cod]

Prosiectau Wicimedia[golygu | golygu cod]

  • Twrci - ym Mai 2017 gosodwyd cyfyngiadau gan Gyfraith Twrcaidd Rhif 5651, oherwydd erthygl ar y fersiwn Saesneg o Wicipedia ar derfysgaeth a noddir gan y wladwriaeth, lle disgrifiwyd Twrci fel gwlad a oedd yn noddi ISIS ac Al-Qaeda. Roedd llysoedd Twrci yn ystyried hyn fel cyflyru gan y cyfryngau torfol. Ni weithredwyd ar geisiadau gan Awdurdod Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu Twrci i olygu sawl erthygl i gydymffurfio â chyfraith Twrci. Oherwydd hyn, gwaharddwyd Wicipedia yn Nhwrci, ac roedd y bloc hwnnw'n parhau yn 2019.
  • Catalwnia - ar 5 Tachwedd 2019 pasiodd Llywodraeth Sbaen 'Archddyfarniad Brenhinol Sbaen o Ddiogelwch Cyhoeddus (14/2019)' i ddod a throsglwyddo data a gwybodaeth ar y we i ben ac i gau unrhyw wefanau heb erlyn y corff sy'n gyfrifol mewn llys. Gwnaed hyn o ganlyniad i brotestio ledled Catalwnia oherwydd carcharu arweinwyr Llywodraeth Catalwnia ychydig cynt. Gwrthwynebwyd hyn gan y Grwp Defnyddwyr y Catalwniaid, Amical.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Beate Müller (gol.), Censorship and Cultural Regulation in the Modern Age (Critical Studies Vol. 22) (Amsterdam: Rodopi, 2004).