Achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia, 2019

Oddi ar Wicipedia
Achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia, 2019
Delwedd:Tribunal Supremo, Madrid.jpg, Endavant Cuixart 10.jpg
Enghraifft o'r canlynoltrial Edit this on Wikidata
Rhan oCatalan independence process Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Hydref 2017 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Hydref 2019 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTrial 9-N of Artur Mas, Joana Ortega and Irene Rigau Edit this on Wikidata
LleoliadPalacio de Justicia Edit this on Wikidata
Prif bwncrefferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
RhanbarthMadrid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Uchel -Lys ym Madrid.
Carme Forcadell
Meritxell Borràs
Dolors Bassa
Dde: Josep Lluís Trapero, Cyn-Bennaeth y Mossos
Chwith: Carles Puigdemont

Achos llys yn Uwch Lys Sbaen yw achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia a ddechreuodd ar 12 Chwefror 2019. Mae'r 18 diffynnydd bron i gyd yn gyn-aelodau o gabined Llywodraeth Catalwnia ac yn cynnwys Carme Forcadell (Arlywydd Senedd Catalwnia), Jordi Sànchez (Llywydd Cyngres Genedlaethol Catalwnia) a Jordi Cuixart (Llywydd yr Òmnium Cultural). Cânt eu herlyn am nifer o droseddion honedig gan gynnwys hybu annibyniaeth y wlad, gwrthryfela a chamddefnydd o arian cyhoeddus (neu 'embeslad') a wariwyd pan drefnodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm ynghylch annibyniaeth yn Hydref 2017.

Barnwr yr achos yw Manuel Marchena.[1][2] Yn y cyfamser, mae Carles Puigdemont yn parhau yn alltud yng Ngwlad Belg, lle mae'n rhydd i wneud sylwadau ar faterion gwleidyddol Catalwnia, gan gynnwys yr achos hwn.

Mae Amnest Rhyngwladol, y Cenhedloedd Unedig a nifer o gyrff a sefydliadau eraill wedi mynegi eu pryder fod Sbaen wedi torri hawliau dynol yr amddiffynion.[3][4].

Mae'r Erlynydd yn ymgorffori erlynwyr y cyrff canlynol:

  1. Swyddfa Erlynydd Gwladwriaeth Sbaen
  2. Erlynydd y Wladwriaeth
  3. Plaid asgell-dde Sbaen, Vox

Galwad yn erbyn triniaeth Sbaen o'r diffynyddion[golygu | golygu cod]

  • Amnest Rhyngwladol: 15 Hydref 2018, galwodd Amnes i Lywodraeth Sbaen ryddhau'r amddiffynwyr gan fod eu dal mewn carchar yn "anghyfiawn ac eithafol".[5] Gwrthododd Sbaen roi caniatad i Amnest fod yn bresenol yn y llys i fonitro a sicrhau tegwch.[6]
  • Ar 21 Tachwedd 2018, cyhoeddodd 120 o athrawon prifysgol lythyr yn y papur Eldiario.es y cyhuddiad o wrthryfela yn dal dŵr.[7] A group of MEPs stated that they wanted to attend the trial as observers.[8]
  • Y Cenhedloedd Unedig: "pre-trial detention should be considered a measure of last resort", 7 Mawrth 2018.[9]
  • Yn Nhachwedd 2018, galwodd y American Political Science Association, sy'n cynrychioli 10,000 o athrawon prifysgol lythyr yn galw ar Prif Weinidog Sbaen Pedro Sánchez i "roi'r gorau i bryfocio'r amddiffywyr.[10]

Y diffynyddion[golygu | golygu cod]

Cyhuddiadau
Trosedd Article Cod Penyd Sbaen Diffynyddion
Gwrthryfela Erthygl 472 Sbaen Oriol Junqueras, Joaquim Forn, Jordi Turull, Raül Romeva, Josep Rull, Dolors Bassa, Carme Forcadell, Jordi Sánchez a Jordi Cuixart
Embeslad Erthygl 432 Oriol Junqueras, Joaquim Forn, Jordi Turull, Raül Romeva, Josep Rull, Dolors Bassa, Meritxell Borràs, Carles Mundó a Santi Vila
Anufudd-dod sifil Erthygl 410 Lluís María Corominas, Lluís Guinó, Anna Isabel Simó, Ramona Barrufet, Joan Josep Nuet, Mireia Boya, Meritxell Borràs, Carles Mundó a Santi Vila

Achosion eraill[golygu | golygu cod]

Ceir chwe diffynnydd arall a fydd ymddangos mewn llys gwahanol, sef Uwch Lys Cyfiawnder Catalwnia: Ramona Barrufet, Mireia Boya Busquet, Lluís Corominas, Lluís Guinó, Joan Josep Nuet a Anna Simó. Bwriedir hefyd erlyn pedwar pennaeth y Mossos, sef heddlu Catalwnia, am gydweithio gyda Llywodraeth Catalwnia, sef Josep Lluís Trapero Álvarez, Pere Soler, César Puig i Casañas a Teresa Laplana. Mae'r erlynydd yn galw am ddedfryd o garchar i'r pedwar: 11 mlynedd yr un.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The trial of Catalan referendum leaders casts a long shadow over the EU's credibility". www.euronews.com. Cyrchwyd 2019-02-09.
  2. Congostrina, Alfonso L. (2019-02-01). "Catalan independence leaders moved to Madrid jails ahead of trial". El País (yn Saesneg). ISSN 1134-6582. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-09.
  3. https://www.amnesty.org/en/documents/eur41/7308/2017/en/
  4. http://www.ohchr.org/en/NewsEvents/Pages/DisplayNews.aspx?NewsID=22772&LangID=E
  5. author, global. "Amnistia Internacional reitera la petició de llibertat immediata per als Jordis, un any després del seu ingrés a presó". Amnistia Internacional Catalunya - Drets Humans (yn Catalaneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-09. Cyrchwyd 2019-02-09.
  6. "Amnistía Internacional pide al Supremo plaza de observador en el juicio del 'procés'". El Confidencial (yn Sbaeneg). 2019-01-17. Cyrchwyd 2019-02-09.
  7. Portilla, Guillermo; García, Nicolás; Maqueda, María Luisa; Br, José Ángel; Mira, ariz y Javier. "La banalización de los delitos de rebelión y sedición". eldiario.es (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-02-09.
  8. Redacció. "Eurodiputats volen fer d'observadors en el judici de l'1-O - 06 nov 2018". El Punt Avui (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2019-02-09.
  9. "High Commissioner's global update of human rights concerns". OHCHR. 2018-03-07. Cyrchwyd 2018-03-08.
  10. Catalunya, eldiario es. "Más de 13.000 académicos de EE.UU y Reino Unido piden el archivo de la causa contra la Sindicatura Electoral del 1-O". eldiario.es (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-02-09.